Diogelu ein Tirwedd rhag peilonau mawr
Diweddarwyd: Awst 2025
Bydd llawer yn cofio cynigion am ffermydd gwynt mawr dros ddegawd yn ôl, gyda chymunedau yn ymateb mewn grym yn erbyn diffyg ystyriaeth ac empathi’r Grid Cenedlaethol a datblygwyr tuag at drigolion a thirweddau. Mae'n hanfodol bod cwmnïau ynni adnewyddadwy yn sicrhau eu bod yn ennyn cefnogaeth y cymunedau, yn hytrach na gorfodi prosiectau ar y Canolbarth.
Mae cwmni o'r enw Green GEN Cymru wedi cynnig datblygu cysylltiad dosbarthu trydan 132 kV i gysylltu ffermydd gwynt arfaethedig ym Mhowys â'r rhwydwaith trawsyrru trydan cenedlaethol presennol yn Swydd Amwythig. Cynhaliodd y cwmni ymgynghoriad statudol ar ei brosiect Vyrnwy Frankton rhwng 19 Chwefror ac 16 Ebrill 2025. Cyflwynais fy safbwyntiau fy hun yn erbyn y cysylltiad arfaethedig presennol hwn.
Mae'r Prosiect yn cynnwys is-orsaf gasglu 132 kV ger Cefn Coch, Powys, a thua 45km o linell uwchben newydd ar beilonau dellt dur (uchder cyfartalog o 28.5m) ar draws rhannau o Ddyffryn Efyrnwy yng Ngogledd Powys, i orsaf gyfnewid sy'n cysylltu â'r rhwydwaith trydan cenedlaethol ger Lower Frankton, Swydd Amwythig.
Mae'n hanfodol, wrth i'n hanghenion pŵer gynyddu a mwy o ffynonellau ynni adnewyddadwy ddod ar-lein (fel ynni adnewyddadwy ar raddfa fferm), bod gennym ni gysylltiadau grid gwell. Fy mhryder yw na fyddai'r llinell arfaethedig yn gwneud fawr ddim i helpu prosiectau o'r fath yn y Canolbarth.
Mae Gweinidogion Cymru wedi dweud wrthyf o'r blaen mai polisi Llywodraeth Cymru yw y dylai llinellau trawsyrru fod o dan y ddaear yn hytrach nag uwchben y ddaear. Fodd bynnag, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi bod yn rhaid cymryd barn gytbwys yn erbyn costau a fyddai'n gwneud prosiectau derbyniol fel arall yn anhyfyw. Eleni, rwyf wedi gofyn i'r Prif Weinidog archwilio tanddaearu ceblau trawsyrru trydan. Holais y Prif Weinidog pam mae tanddaearu ceblau yn cael ei ddiystyru yn ariannol anhyfyw pan fo gwledydd fel yr Almaen a’r Iseldiroedd wedi llwyddo i weithredu polisïau i danddaearu llinellau pŵer o tua’r un maint. Rwyf wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru ers cryn amser i ddiweddaru ei dogfen Polisi Cynllunio Cymru fel bod tanddaearu seilwaith newydd ar gyfer cludo trydan yn opsiwn naturiol yn hytrach nag opsiwn a ffefrir, ac y dylai’r polisi nodi y dylid tanddaearu llinellau pŵer newydd.
Ar wahân i faint a chwmpas prosiect Green GEN Cymru nad yw'n briodol ar gyfer yr ardal, mae gennyf bryderon eraill y bydd yna beryglon pellach yn sgil llifogydd, oherwydd effaith y symiau mawr o goncrid a fydd yn cael ei ddefnyddio i adeiladu sylfeini’r peilonau
Mae'r llinell beilon arfaethedig yn cael ei gyrru gan nifer o ddatblygwyr ynni gwynt sy'n cynnig datblygiadau ffermydd gwynt mawr ledled y Canolbarth. Mae gen i bryderon sylweddol am lawer o'r cynlluniau hyn, gyda rhai datblygwyr yn bwriadu adeiladu tyrbinau gwynt hyd at 230 metr o uchder mewn ardaloedd o dirwedd sydd heb ei difetha ar hyn o bryd.
Mae yna gynigion ac ymgynghoriadau niferus ar gyfer datblygiadau ffermydd gwynt ledled y Canolbarth ac rwyf wedi cyflwyno fy ngwrthwynebiadau fy hun. Er bod fy ngwrthwynebiadau fy hun yn amrywio yn ôl y cynnig, mae yna themâu cyffredin sy'n cynnwys pa mor agos yw’r tyrbinau at eiddo preswyl, a fydd hefyd yn effeithio ar brisiau eiddo, maint y tyrbinau arfaethedig, pryderon am yr effaith ar ffyrdd a seilwaith lleol, a'r effaith ar anifeiliaid, adar, natur ac ecoleg. Dydy defnyddio tyrbinau graddfa enfawr a ddefnyddir ar y môr ddim yn briodol ar y tir, ac mae diwydiannu ein tirwedd gyda ffermydd gwynt a pheilonau mawr sy'n croesi bryniau a dyffrynnoedd y Canolbarth yn annerbyniol.
Rwy'n parhau i gwrdd a gweithio'n agos gyda Montgomeryshire Against Pylons (MAP) a byddwn yn annog pobl i fynychu digwyddiadau ac ymateb i ymgynghoriadau. Os ydych chi'n cytuno â’m safbwyntiau, a barn MAP, byddwn hefyd yn eich annog i gofrestru i'w cylchlythyr yn https://www.montgomeryshireagainstpylons.co.uk/