Diweddarwyd Awst 2025
Bydd llawer wedi clywed am newidiadau polisi ailgylchu newydd dadleuol Cyngor Sir Powys. Rwy'n parhau i fod yn bryderus iawn am yr effeithiau negyddol posibl y gallai'r cynlluniau hyn eu cael ar drigolion, rheoli gwastraff, a'r amgylchedd yn ein sir. Rwy'n falch bod adolygiad yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni i benderfynu a ddylai'r system barhau.
Mae'r newidiadau newydd, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2025, yn cynnwys cyflwyno system archebu ymlaen llaw ar gyfer slotiau canolfannau ailgylchu, cyfyngu ymweliadau i ddim ond 10 munud bob tro, gyda ffioedd ychwanegol yn cael eu cyflwyno ar gyfer gwaredu gwastraff DIY. Rwy'n credu y byddant yn gwneud llawer o niwed, a gallai'r Cyngor fod wedi mynd i'r afael â’u pryderon heb gyflwyno gofynion ar gyfer gorfod archebu slot amser. Rhennais fy mhryderon gyda Chyngor Sir Powys cyn gynted ag y clywais am y newidiadau arfaethedig.
Yn gyntaf oll, bydd cyflwyno system apwyntiadau amser cyfyngedig yn unig yn creu rhwystrau sylweddol i breswylwyr sy'n dymuno gwaredu eu gwastraff yn gyfrifol. Nid yn unig fod hyn yn anghyfleus, ond gallai hefyd rwystro llawer o bobl, yn enwedig y rhai sy'n anghyfarwydd neu'n anghyfforddus â'r system archebu. Y pryder mwyaf yw'r potensial ar gyfer cynnydd mewn tipio anghyfreithlon; risg go iawn pan nad yw pobl bellach yn gallu cael mynediad at ganolfannau ailgylchu mewn ffordd syml ac amserol.
Yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy pryderus yw'r ffaith nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain yn wynebu'r mater hwn. Ar draws y ffin yn Swydd Amwythig cafodd system archebu debyg ar gyfer canolfannau ailgylchu ei chyflwyno, ond ar ôl derbyn ymateb gan drigolion a busnesau fe benderfynon nhw ailgyflwyno’r hen system. Mae hyn yn dangos y gall mesurau o'r fath gael canlyniadau anfwriadol yn ymarferol.
Rwyf wedi codi'r pryderon hyn gyda'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies AS, gan ofyn a oedd yn cytuno y dylai awdurdodau lleol fod yn ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobl ailgylchu. Roedd y Dirprwy Brif Weinidog yn rhannu fy mhryderon.
Mae Cymru eisoes yn arweinydd ym maes ailgylchu. Fodd bynnag, mae'r mesurau newydd ym Mhowys mewn perygl o danseilio'r ymdrechion hyn. Yn hytrach na chreu rhwystrau, dylem fod yn cael gwared ar unrhyw rwystrau sy'n bodoli.
Mae Cynghorwyr Ceidwadwyr Cymreig Sir Powys hefyd wedi gwrthwynebu'r newidiadau i'r system archebu a'r ffioedd dadleuol ac wedi ceisio cyflwyno cynigion i'r Cyngor yn galw am atal y system archebu. Maen nhw'n rhannu fy mhryderon y bydd mwy o dipio anghyfreithlon a thanau mewn gerddi. Maen nhw hefyd wedi pwysleisio bod un dull sy’n addas i bawb yn anymarferol ar gyfer sir mor fawr â Phowys. Mewn cyfarfod o Gyngor Sir Powys ym mis Gorffennaf (2025) cyflwynodd cynghorwyr y Ceidwadwyr Cymreig gynnig yn galw am adolygiad o'r cynllun o fewn chwe mis i'w gyflwyno. Cytunwyd ar hyn, a bydd adolygiad yn cael ei gynnal yr Hydref hwn. Byddai hyn yn caniatáu i'r cyngor benderfynu a ddylai'r system barhau.
Rydw i'n mynd i barhau i weithio gyda Chynghorwyr Ceidwadwyr Cymreig Sir Powys a Chynghorwyr eraill sydd hefyd yn gwrthwynebu'r newidiadau.
Rhwng misoedd Ebrill a Gorffennaf 2025 cynhaliais fy arolwg fy hun ar system archebu canolfannau ailgylchu newydd Cyngor Sir Powys a thaliadau gwastraff. Dangosodd yr arolwg wrthwynebiad cyhoeddus cryf:
- Mynegodd 87% o'r ymatebwyr bryder mawr am y system newydd a'r ffioedd cysylltiedig.
- Nid yw 94% yn credu honiad y Cyngor y bydd y newidiadau yn gwella cyfraddau ailgylchu.
- Mae 91% yn gwrthwynebu cyflwyno ffioedd am wastraff DIY.
- Mae 96% yn disgwyl cynnydd mewn tipio anghyfreithlon, sy'n groes i sicrwydd y Cyngor.
- Mae 88% yn ofni y bydd mwy o wastraff yn cael ei losgi, gan godi pryderon am ansawdd aer ac iechyd y cyhoedd.
Mae'r neges gan drigolion yn glir, mae'r system newydd yn hynod amhoblogaidd, ac mae llawer yn credu y bydd yn niweidio'r amgylchedd, yn hytrach na’i helpu.
Byddaf yn parhau i bwyso ar Gyngor Sir Powys i wrando ar leisiau lleol ac adolygu'r newidiadau hyn ar unwaith.