
Rwy’n edrych ymlaen at fynychu sioeau gwledig lleol dros yr haf. Mae’r adeg hon o’r flwyddyn wastad yn gyfle da i ddal i fyny gyda phawb.
Rydw i am ddymuno’r gorau i’r athletwyr o’n hardal sy’n cystadlu eleni yng Ngemau’r Gymanwlad. Rydw i wedi bod yn mwynhau gwylio a dathlu doniau anhygoel ein hathletwyr a’n ffrindiau o dramor.
Os gallaf eich helpu gydag unrhyw bryder, mae croeso i chi gysylltu â mi ar e-bost - russell.george@senedd.cymru
Holl Hwyl Sioeau’r Haf
Rwy’n falch o weld ein sioeau haf rhagorol yn dychwelyd ledled y sir.
Roeddwn i’n falch iawn o weld y Sioe Fawr yn cael ei chynnal am y tro cyntaf mewn tair blynedd fis Gorffennaf. Mwynheais fynychu ac roedd gan y sioe ei hamrywiaeth arferol o arddangosiadau amaethyddol gwych.
Ddydd Sadwrn, cefais amser gwych yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth goginio yn Sioe Dolfor. Roedd hi’n bleser ymweld â Sioe Trefeglwys hefyd.
Dyma restr ddefnyddiol, gobeithio, o’r holl sioeau sydd ar fin cael eu cynnal ledled y sir.
• Dydd Sadwrn 27 Awst – Aberriw
• Dydd Llun 29 Awst – Llanbrynmair
• Dydd Sadwrn 3 Medi – Llanfair Caereinion
• Dydd Sadwrn 3 / Dydd Sul 4 Medi – Gŵyl Fwyd y Drenewydd
Diweddariad Pwysig ar Frechlynnau
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth am ei chynlluniau ar gyfer brechlynnau COVID a’r ffliw yr hydref hwn.
Os ydych chi’n gymwys am bigiad atgyfnerthu COVID-19 yn yr hydref, dylech dderbyn eich gwahoddiad erbyn diwedd mis Tachwedd. Os ydych chi’n gymwys ar gyfer y brechlyn ffliw, dylech dderbyn eich gwahoddiad erbyn diwedd mis Rhagfyr.
Mae’n bwysig nodi y dylech dderbyn eich gwahoddiad erbyn diwedd y misoedd hyn, ond gall yr apwyntiad ei hun fod ar ôl diwedd y cyfnod gwahodd.
Rydw i wedi cyhoeddi’r rhaglen lawn ar fy ngwefan felly defnyddiwch y ddolen isod i weld a ydych chi’n gymwys – fyddwch chi ddim chwinciad.
Banciau yn cau yn y Trallwng a’r Drenewydd
Rydw i wedi fy siomi’n arw ar ôl clywed am y cynlluniau i gau’r canghennau banc canlynol yn Sir Drefaldwyn yn yr wythnosau diwethaf:
- Banc Barclays yn y Drenewydd
- Banc Barclays yn y Trallwng
- Banc Lloyds yn y Trallwng
Mewn ymateb i’r newyddion gan Barclays, mi wnes i gynnal arolwg a derbyn dros 300 o ymatebion a roddodd lais i bryderon preswylwyr. Rydw i wedi rhannu’r pryderon gyda’r ddau fanc.
Rydw i wedi bod yn ymgyrchu am flynyddoedd i ddiogelu gwasanaethau bancio ar gyfer preswylwyr ledled y wlad, ac rwy’n falch o glywed y gallai cynlluniau fel LINK Bank a Banc Cymunedol Cymru helpu i wella mynediad maes o law. Byddaf yn parhau i drafod gyda Banc Cymunedol Cymru yn ein cyfarfodydd rheolaidd, gan eu hannog i agor canghennau wyneb yn wyneb.