View this email in your browser
Cylchlythyr Awst 2024
Croeso i gylchlythyr Awst 2024
A hithau’n fis Awst a'r Senedd yn awr yn cael toriad, rwy’n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser yn Sir Drefaldwyn, ac rwy'n gobeithio dal i fyny gyda llawer ohonoch chi mewn digwyddiadau a sioeau lleol dros yr Haf.
Bu llawer o newid gwleidyddol dros yr wythnosau diwethaf, ond mae fy rôl fel yr Aelod o’r Senedd dros Sir Drefaldwyn yn parhau. Rwyf am egluro’r newidiadau diweddaraf mewn gwleidyddiaeth a'ch diweddaru am fy ngwaith fel aelod o'r Senedd.
Fel erioed, os ydych chi eisiau diweddariad ar rywbeth nad yw’n cael ei grybwyll yn fy nghylchlythyr, neu os gallaf eich helpu mewn ffordd arall, anfonwch e-bost ataf [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.
Prif Weinidog newydd a newid gwleidyddol
Roedd mis Gorffennaf yn fis o newid gwleidyddol mawr. Mae gennym ni Lywodraeth newydd yn y DU, Aelod Seneddol newydd yn lleol, a bydd gennym Brif Weinidog newydd yng Nghymru.
Yn dilyn cyhoeddiad Vaughan Gething y bydd yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog, bydd Prif Weinidog newydd yn cael ei ddewis wythnos nesaf. Rwy'n credu iddo wneud y penderfyniad cywir, gan ei fod wedi colli hyder y Senedd, gan gynnwys sawl Gweinidog a ymddiswyddodd o'i Lywodraeth. Mae'r Senedd wedi cael ei galw yn ôl ddydd Mawrth nesaf (6 Awst) i bleidleisio dros Brif Weinidog newydd,
Yn dilyn ethol Eluned Morgan AS fel arweinydd newydd y Blaid Lafur yng Nghymru, disgwylir mai hi, oherwydd rhifyddeg wleidyddol y Senedd, fydd Prif Weinidog newydd Cymru.
Bydd angen i’r Prif Weinidog newydd ganolbwyntio ar leihau amseroedd aros y GIG, sef yr hiraf yn y DU ar hyn o bryd, gwella safonau addysg, a gwella'r economi a chyflogau yng Nghymru. Mae angen meithrin ymddiriedaeth hefyd gyda ffermwyr a chymunedau gwledig.
Pleidleisiodd y cyhoedd yn yr Etholiad Cyffredinol hefyd. Mae gennym Lywodraeth Lafur newydd yn y Deyrnas Unedig. Rwyf wedi ysgrifennu at Steve Witherden i’w longyfarch ar gael ei ethol yn Aelod Seneddol dros etholaeth newydd Maldwyn a Glyndŵr.
Mae angen canmol Craig Williams, am ei waith yn Sir Drefaldwyn. Roedd ganddo gymaint o egni ac roedd yn canolbwyntio ar wneud y gorau dros ein hardal. Rwyf hefyd am dalu teyrnged i dîm swyddfa Craig yn y Trallwng a Llundain. Rwy'n gwybod pa mor galed y maen nhw wedi gweithio yn cefnogi llawer o etholwyr ar draws Sir Drefaldwyn.
Rwy'n dal ati gyda fy ngwaith yn lleol wrth wasanaethu pobl Sir Drefaldwyn yn y Senedd ac rwy'n gobeithio cyfarfod â Steve Witherden AS yn fuan wrth i mi geisio gweithio gydag ef.
Herio’r penderfyniad ar yr Ambiwlans Awyr
Mae Russell George AS yn herio'r Prif Weinidog, Vaughan Gething AS, ynghylch Ambiwlans Awyr Cymru.
Yn dilyn penderfyniad sylfaenol ddiffygiol a wnaed gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (JCC) ym mis Ebrill i gau a chanoli canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a'r Trallwng, mae grwpiau ymgyrchu yn y ddwy ardal wedi bod yn cydweithio i herio'r penderfyniad.
Yn gynharach yr wythnos hon, ynghyd ag ymgyrchwyr lleol eraill, gwnaethom gyflwyno datganiad sy'n cadarnhau bod cais am adolygiad barnwrol wedi'i gyhoeddi yn yr Uchel Lys. Gallwch ddarllen y datganiad llawn drwy glicio 'Darllen mwy'
Rwyf hefyd yn aelod o bwyllgor sy'n craffu ar y Prif Weinidog. Cynhaliwyd cyfarfod ym mis Gorffennaf gyda’r ffocws ar gymunedau gwledig. Defnyddiais fy amser penodedig i holi'r Prif Weinidog pam y cefnogodd Llywodraeth Cymru y penderfyniad a fyddai'n golygu bod canolfan yr Ambiwlans Awyr yn y Trallwng yn cau. Gofynnais hefyd i'r Prif Weinidog ystyried model newydd ar gyfer Cymru gyfan o ran darparu gwasanaeth Ambiwlans Awyr. Gallwch wylio fy sgwrs gyda Vaughan Gething MS uchod.
Dyfodol Ffermio
Yr wythnos diwethaf roeddwn yn falch o gwrdd ag undebau ffermio a sefydliadau eraill yn y Sioe Fawr i drafod cynigion fy nghydweithwyr a’m cynigion i ar gyfer Cynllun Ffermio a Chefn Gwlad newydd yng Nghymru. Mae'r fenter hon wedi'i chynllunio i fod yn ddewis amgen i Gynllun Ffermio Cynaliadwy presennol Llywodraeth Cymru.
Cefais gyfle hefyd i drafod blaenoriaethau eraill y mae undebau ffermio a minnau'n awyddus i'w gweld yn cael sylw. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, Parthau Perygl Nitradau a gweithredu ar TB Buchol.
Achub ein Meddygfeydd
Fis diwethaf, noddais ddigwyddiad yn y Senedd a gynhaliwyd gyda Chymdeithas Feddygol Prydain (BMA) Cymru, wrth i ni uno dros achos sydd mor bwysig - yr ymgyrch "Achub Ein Meddygfeydd".
Mae ein meddygfeydd yn fwy nag adeiladau yn unig. Meddygon teulu yn aml yw'r pwynt cyswllt cyntaf pan fo gan bobl bryder iechyd.
Mae gwir angen buddsoddi yn ein seilwaith gofal iechyd ac mae'n hanfodol bwysig ein bod yn sicrhau bod gan ein meddygfeydd yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i wasanaethu cymunedau ledled Sir Drefaldwyn yn effeithiol.
Dros y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi siarad gyda meddygon teulu yn lleol sydd wedi amlinellu i mi yn uniongyrchol y pwysau sydd arnyn nhw, ac rwy'n gwbl ymwybodol nad oes gan lawer o feddygfeydd y cyflenwad llawn o feddygon sydd eu hangen i wasanaethu'r boblogaeth.
Mae'r Gymdeithas yn galw am adfer cyllid y GIG ar gyfer meddygaeth deulu cyn i ni weld y gwasanaeth hwn yn chwalu’n llwyr yng Nghymru.
Wythnos Twristiaeth
Yn Sir Drefaldwyn mae gennym ni ddiwydiant twristiaeth cryf, ond mae angen cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i'w helpu i ffynnu.
Yn ogystal â dathlu Wythnos Twristiaeth Cymru yn y Senedd, mae hefyd yn bwysig i mi yn fy rôl i ymweld â busnesau o fewn y sector.
Yr wythnos diwethaf cefais y pleser o ymweld ag Angie a Lyndsey Price sy'n rheoli Carafán Riverbend ger Llangadfan. Rhoddodd Angie a Lyndsey daith i mi o'u parc gwych sydd wedi'i leoli ar lannau Afon Banwy.
Mynychais dderbyniad yn y Senedd hefyd i ddathlu a hyrwyddo'r sector Twristiaeth i ddathlu Wythnos Twristiaeth Cymru. Ymhlith y materion a drafodwyd oedd Llywodraeth Cymru yn codi treth twristiaeth, recriwtio lletygarwch, a datblygu seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd Cymru.
Hyrwyddo cynnyrch lleol.
Fel hyrwyddwr bwyd cynaliadwy Gogledd Powys, roeddwn yn falch o fynychu lansiad Strategaeth Bwyd Powys a Chynllun Gweithredu Bwyd Powys yn y Sioe Fawr.
Fel eiriolwr dros gynnyrch lleol yn fy rôl, roeddwn i’n falch bod Izzy’s Butchers wedi cael cydnabyddiaeth yn genedlaethol am fynd yr ail filltir o yn y gymuned i gefnogi'r economi leol a hyrwyddo nwyddau a gwasanaethau lleol.
Cefais gyfle i longyfarch Izzy's Butchers wyneb yn wyneb yn y Sioe Fawr am ennill yn noson wobrwyo 'Rural Oscars' y Gynghrair Cefn Gwlad yn Llundain.
Mae Izzy’s Butchers wedi'u lleoli yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llwyddiant anhygoel gan Izzy a diolch unwaith eto iddi am ei holl waith yn y gymuned.
Cymorthfeydd mis Awst
Er bod y Senedd yn cael toriad, mae hyn yn rhoi cyfle i mi gwrdd ag etholwyr dros yr haf, a chysylltwch â mi os hoffech chi gwrdd â mi.
Byddaf hefyd yn mynychu sioeau haf amrywiol bob dydd Sadwrn gydol mis Awst. Rwyf wedi rhestru'r sioeau lle bydd gen i stondin ar waelod y cylchlythyr hwn, ond byddaf hefyd yn mynychu sioeau eraill, fel sioe Dolfor ddydd Sadwrn yma. Galwch heibio fy stondin neu dewch ataf os credwch y gallaf helpu mewn unrhyw ffordd.
Hyrwyddir gan Russell George AS, 13 Parkers Lane, Y Drenewydd, SY16 2LT
Mae costau'r cyhoeddiad hwn wedi’u talu gan Gomisiwn y Senedd o arian cyhoeddus.
Ydych chi eisiau newid sut rydych chi'n derbyn yr e-byst hyn?
Gallwch chi update your preferences o'r unsubscribe from this list.