
Croeso i fy nghylchlythyr.
Yn ystod mis Medi, clywsom am farwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines. Rwyf wedi rhoi teyrnged lawn iddi yn y cylchlythyr hwn.
Mae ein haf prysur ar lawr gwlad yn arwain at hydref tebyg. Mae'r cylchlythyr hwn hefyd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am gynnig Ambiwlans Awyr Cymru i adleoli canolfan y Canolbarth, gwasanaethau bancio a rhaglen frechu'r hydref.
Rwy'n cydweithio'n agos â Craig Williams, Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn yn San Steffan. Os hoffech chi gofrestru i dderbyn ei gylchlythyr yntau, gallwch wneud hynny drwy glicio yma.
Os gallaf eich helpu gydag unrhyw fater neu bryder, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy e-bostio: russell.george@senedd.cymru
Ei Diweddar Fawrhydi Y Frenhines
1926 - 2022
Roedd y newyddion ddechrau Medi am farwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines yn drist iawn.
Roedd ei synnwyr o ddyletswydd, gwaith caled, ymrwymiad ac ymroddiad i Brydain a'r Gymanwlad heb ei debyg. Dros sawl degawd gogoneddus, bu'n cynrychioli'r gorau o werthoedd ein cenedl.
Roedd teyrngedau ar draws Sir Drefaldwyn yn ingol a theimladwy. Agorwyd nifer o lyfrau cydymdeimlad ar draws y sir er mwyn i bobl rannu eu meddyliau a'u hatgofion. Talais fy nheyrnged fy hun yn y Senedd pan siaradais am fy atgofion cyntaf o weld Ei Diweddar Fawrhydi ar ei thaith o Sir Drefaldwyn ym mis Gorffennaf 1986. Yn ystod y daith honno, ymwelodd â Machynlleth, Llanidloes, Maldwyn, Aberriw, y Trallwng a'r Drenewydd.
Roeddwn yn falch o fod yn y Senedd i groesawu Ei Fawrhydi Y Brenin yn ystod ei daith o amgylch pedair gwlad y DU. Edrychaf ymlaen at ei gefnogi gydol ei deyrnasiad.
Diweddariad am ganolfan yr Ambiwlans
Awyr
Russell George AS yn holi'r Prif Weinidog am ganolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng.
Mae rhwystredigaeth enfawr o hyd am gynlluniau i gau canolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng. Yn ddiweddar es i gyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn y Drenewydd.
Ym mis Medi, holais y Prif Weinidog am y cynigion hyn - gallwch wylio fi’n ei holi a'i ymateb uchod.
Ar hyn o bryd, rydym ni'n dal i aros am gyhoeddi'r data a'r dadansoddiad a fu'n sail i'r cynigion yn y lle cyntaf, er mwyn i mi ac eraill graffu ar y cynlluniau ymhellach.
Yn ystod y dyddiau diwethaf, bu sawl adroddiad yn y cyfryngau am yr ambiwlans yn gadael o'r Trallwng i wasanaethu llefydd lleol fel Llanfyllin a'r Drenewydd, sy'n pwysleisio pwysigrwydd y ganolfan.
Cyn gynted ag y bydd yr Elusen a GIG Cymru yn cyhoeddi eu trefniadau a'u cynlluniau ymgynghori, byddaf yn rhoi'r manylion diweddaraf i chi.
Gwasanaethau bancio
Ym mis Medi, trist oedd gweld canghennau Barclays yn y Trallwng a'r Drenewydd yn cau am y tro olaf wedi'r cyhoeddiad yn gynharach yn yr haf.
Yn dilyn cryn dipyn o ymgyrchu a chyfarfodydd, rwy'n falch bod Barclays wedi cyhoeddi y byddant yn parhau i ddarparu sesiynau wyneb yn wyneb mewn lleoliadau cymunedol.
Dyma'r sesiynau:
Bob Dydd Llun / Dydd Mercher yn y Trallwng yng Nghanolfan Gymuned a Phencadlys Sgowtiaid y Trallwng (COWSHAAC).
Bob dydd Mawrth, Dydd Iau a Gwener yn y Drenewydd, yn EvaBuild, Swyddfeydd y Capel, Stryd y Parc, Y Drenewydd, SY16 1EE
Byddant ar agor rhwng 9:30 ac 16:30.
Bydd y gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys ceisiadau balans, adolygiadau ariannol a chymorth gyda bancio digidol. Yn anffodus, ni fydd modd cynnal trafodion arian parod (talu i mewn a chodi arian) yn y sesiynau hyn - bydd angen gwneud hyn yn y Swyddfeydd Post lleol.
Un datblygiad cadarnhaol yw'r newyddion bod 'LINK Banking Hub' (lle gall cwsmeriaid o bob prif fanc ddefnyddio gwasanaethau fel talu arian parod a sieciau i mewn) yn cael ei gynnig yn y Trallwng.
Yr wythnos diwethaf, cefais innau a Craig Williams AS/MP gyfarfod gyda LINK i drafod eu cynlluniau ac er mwyn rhannu adborth cwsmeriaid bancio ar hyd a lled Sir Drefaldwyn o’m harolwg diweddar.
Rwy'n falch bod LINK nawr wrthi'n ystyried adeilad yn y Trallwng, ac rwy’n gobeithio am ragor o newyddion am hyn yn fuan iawn.
Cau ffyrdd yng Nghaersŵs
Rwy'n falch fod y gwaith ar Bont Caersŵs wedi gorffen o'r diwedd a'i bod ar agor i draffig dwyffordd unwaith eto. Yn fy marn i, fe gymerodd y cyfan gormod o amser i'w gwblhau.
Ynghyd â'r Cynghorydd Sir Les George ac eraill, rwyf wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun diogelwch ar y ffyrdd am bont droed ar wahân dros yr afon. Yn dilyn canlyniadau arolwg a gynhaliais ar ddiogelwch y bont bresennol, roedd y canlyniadau yn amlwg o blaid pont droed ar wahân. Mae'r gwaith o ddatblygu'r cynllun hwn wedi bod yn araf iawn, ac wedi'i lesteirio gan y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi atal pob math o gynlluniau adeiladu newydd ledled Cymru yn amodol ar gynnal adolygiad ffyrdd.
Hefyd, mae cynigion ar gyfer cylchfan i gymryd lle'r gyffordd bresennol ger croesfan Moat Lane. Unwaith eto mae hyn wedi'i ohirio oherwydd yr adolygiad ffyrdd. Mae disgwyl i ganlyniad yr adolygiad hwn gael ei gyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.
Ymchwil a chymorth canser
Mynychodd Russell George AS a James Evans AS sesiwn gydag Ymchwil Canser Cymru yn ddiweddar.
Mae canser yn gallu bod yn glefyd mor ofidus a rhwystredig sy'n gallu llorio rhywun yn gorfforol.
Mae'n hollbwysig ein bod ni'n gwneud popeth posib i wella triniaethau i gleifion, cynyddu ein dealltwriaeth o sut mae canser yn lledaenu a gofalu am bobl sy'n dioddef gyda'r clefyd.
Gan fod fy nghylch gwaith yn y Senedd yn cynnwys cadeirio'r pwyllgor Iechyd, mae gen i ddiddordeb penodol mewn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am sicrhau canlyniadau gwell i bobl ym mhob cwr o'r wlad.
Ym mis Medi, cwrddais ag Ymchwil Canser Cymru a Chymorth Canser Macmillian i drafod eu gwaith. Mae gan yr elusennau yma rôl hanfodol, a byddaf yn parhau i annog Llywodraeth Cymru i ymwneud â nhw fel cyfranwyr allweddol yn y frwydr yn erbyn canser.
Diweddariad ar frechu
Mae rhaglen frechu'r hydref/gaeaf yn erbyn y ffliw a COVID-19 wedi dechrau ar hyd a lled Sir Drefaldwyn eto.
Bydd llawer o bobl cymwys eisoes wedi derbyn eu gwahoddiad am bigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr hydref hwn. Os ydych chi'n gymwys, dylech dderbyn eich gwahoddiad erbyn diwedd mis Tachwedd. Os ydych chi'n gymwys i gael brechlyn y ffliw, dylech dderbyn eich gwahoddiad erbyn diwedd Rhagfyr.
Dylech dderbyn eich gwahoddiad erbyn diwedd y misoedd hyn, ond cofiwch y gallai'r union apwyntiad fod ar ôl diwedd y cyfnod gwahoddiadau.
Rwyf wedi cyhoeddi manylion llawn y rhaglen ar fy ngwefan, felly defnyddiwch y ddolen isod i weld a ydych chi'n gymwys.