View this email in your browser
Cylchlythyr Mai 2024
Croeso i'm cylchlythyr ar gyfer mis Mai 2024
Rwy'n adrodd yn ôl ar y penderfyniad a wnaed yr wythnos diwethaf i gau canolfan yr Ambiwlans Awyr yn y Trallwng.
Fis diwethaf, newidiais fy rôl yn y Senedd o fod yn Weinidog Iechyd yr Wrthblaid i Weinidog Canolbarth Cymru yr Wrthblaid. Edrychaf ymlaen at hyrwyddo'r Canolbarth ymhellach yn y Senedd. Rwy'n parhau yn fy rôl fel Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd.
Fel bob amser, os ydych chi eisiau diweddariad ar rywbeth sydd heb ei grybwyll yn y cylchlythyr, neu os gallaf helpu mewn ffordd arall, anfonwch e-bost ataf yn [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.
Ambiwlans Awyr Cymru
Yr wythnos diwethaf, cadarnhawyd y bydd canolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng yn cau ar ôl 2026.
Pleidleisiodd Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru i dderbyn argymhellion i gau canolfannau Ambiwlans Awyr y Trallwng a Chaernarfon, gyda chanolfan newydd wedi'i lleoli yn y Gogledd-ddwyrain.
O'r adeg pan gafodd cynlluniau i gau canolfannau awyr yn y Trallwng a Chaernarfon eu rhyddhau ar ddamwain ym mis Awst 2022, mae'r ymgynghoriad a'r broses ddilynol wedi bod yn eithriadol o wael. Mae hwn yn fater mor bwysig i bobl y Canolbarth a’r Gogledd.
Yn dilyn y penderfyniad, fe wnes i godi'r canlyniad gyda'r Gweinidog Iechyd. Mae fy niweddariad llawn yn rhoi dadansoddiad manylach ac yn amlinellu ein camau nesaf fel grŵp ymgyrchu. Nid dyma ddiwedd ein hymgyrch.
Russell George AS yn gofyn am ddatganiad gan Eluned Morgan AS ar bleidlais Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru o blaid argymhellion yr Ambiwlans Awyr.
111 Opsiwn 2 - Cymorth iechyd meddwl i bawb
Mynychais ddigwyddiad i drafod llinell gymorth iechyd meddwl frys newydd, 111 Opsiwn 2. Mae cymorth iechyd meddwl i bawb yno 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos – gan gynnig cymorth iechyd meddwl brys i bobl o bob oed ledled Cymru.
Gallwch ffonio’r llinell am ddim o linell dir neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych chi unrhyw gredyd ar ôl.
Siaradais ag uwch aelodau staff Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, ynghyd â seiciatryddion rheng flaen a oedd yn bresennol i ateb fy nghwestiynau am y 111 Opsiwn 2 ym Mhowys.
Gall pobl ddefnyddio'r llinell gymorth os oes ganddyn nhw bryderon brys am eu lles meddyliol eu hunain neu les pobl eraill. Bydd galwyr yn cael eu cysylltu ag aelod o'r tîm iechyd meddwl yn ardal eu bwrdd iechyd lleol.
Specsavers yn cefnogi'r GIG
Yn ddiweddar, ymwelais â Specsavers yn y Drenewydd i weld sut mae optegwyr ac awdiolegwyr lleol arbenigol yn gofalu am gleifion ac yn cefnogi'r GIG - ac yn barod i wneud mwy.
Mae gan Specsavers fwy na 1,000 o siopau ledled y DU a nhw yw prif ddarparwr gwasanaethau optometreg gofal sylfaenol y GIG a gwasanaethau awdioleg cymunedol y GIG lle cânt eu comisiynu.
Siaradais â'r tîm yn Specsavers y Drenewydd, ar Broad Street, am sut maen nhw'n darparu gwasanaethau'r GIG ac yn darparu mynediad hanfodol at ofal llygaid a chlustiau.
Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
Mae etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal yfory – ddydd Iau 2 Mai 2024. Bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio.
Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn cael eu hethol gan y cyhoedd i ddwyn heddluoedd a Phrif Gwnstabliaid yng Nghymru a Lloegr i gyfrif. Mae eu cyfrifoldebau yn cynnwys gosod cyllidebau heddlu ac ymgysylltu â chymunedau i osod cynlluniau heddlu a throseddu a threfnu prosiectau lleol.
Mae un Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cael ei ethol ar gyfer pob un o bedair ardal heddlu Cymru: Dyfed Powys, Gogledd Cymru, Gwent, a De Cymru.
Os ydych chi’n bwriadu pleidleisio yfory, cofiwch ddod â'ch ID.
Mynd i'r afael â llifogydd ledled Sir Drefaldwyn
O flwyddyn i flwyddyn, un o'r materion mwyaf sy'n ein hwynebu yn ein hardal yw llifogydd. Doedd dechrau 2024 ddim yn eithriad, gyda sawl cyfnod o law trwm yn achosi llifogydd ac aflonyddwch mawr ledled y sir.
Ers gormod o amser mae llifogydd ar Afon Hafren wedi cael eu rheoli gan Lywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru, yn dibynnu ar ba ochr i'r ffin mae'r llifogydd yn digwydd. Fel afon hiraf Sir Drefaldwyn ac, yn wir, afon hiraf y DU, mae’n amlwg nid yw hyn yn gweithio. Ynghyd â grwpiau a sefydliadau llifogydd lleol, mae Craig Williams a minnau wedi bod yn gweithio i newid y ffordd rydyn ni’n rheoli Afon Hafren ac yn edrych arno fel un endid o Gymru i Loegr.
Mae cynnydd mawr bellach wedi'i wneud drwy sefydlu Partneriaeth Afon Hafren, sy'n cynnwys yr 8 cyngor o Gymru a Lloegr o fewn dalgylch Afon Hafren, yn ogystal â gwleidyddion trawsffiniol, asiantaethau amgylcheddol ac ymddiriedolaethau bywyd gwyllt ymhlith rhanddeiliaid allweddol eraill. Bydd yr RSP yn ceisio trawsnewid sut rydyn ni’n rheoli llifogydd ar Afon Hafren, gan gynnwys edrych ar yr holl afonydd, llednentydd ac ardaloedd cydlifo ledled Sir Drefaldwyn.
Mae'r RSP yn gobeithio sicrhau £500 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU, a bydd llawer ohono'n cael ei fwydo i Sir Drefaldwyn fel un o ddalgylchoedd allweddol Hafren. Bydd hyn o fudd mawr i'n hardal ac mae'n gam mawr tuag at atal llifogydd am byth.
Mae Russell a Craig wedi ymgyrchu dros ddull trawsffiniol o reoli llifogydd, o Lyn Clywedog (yn y llun) i Aber Afon Hafren.
Ysgol Caersws yn ymweld â'r Senedd
Cefais y cyfle i groesawu fy hen ysgol gynradd, Ysgol Caersws, i'r Senedd. Cefais gwmni’r myfyrwyr ar ddechrau eu hymweliad lle cefais gyfle i egluro fy rôl yn cynrychioli pobl Sir Drefaldwyn ac egluro beth mae aelod o'r Senedd yn ei wneud pan fydd ef neu hi yn y Senedd.
Gofynnodd y bobl ifanc lawer o gwestiynau diddorol i mi ac fe wnaeth eu gwybodaeth greu cryn argraff arna i.
Yna, cafodd y myfyrwyr daith dywys o amgylch y Senedd, gan ddysgu mwy am rôl yr Aelodau a sut maen nhw’n gweithredu newidiadau yng Nghymru.
Mae ymweliadau addysgol yn rhan bwysig o'n democratiaeth. Os oes gan y dosbarth ysgol ddigon o amser, gallant gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y Ganolfan Addysg - Siambr Hywel.
Yn y Ganolfan Addysg, bydd disgyblion yn cwblhau gweithgareddau gweithdy, gan ystyried y rhinweddau sy'n gwneud aelod effeithiol o Senedd Ysgol a thrafod y ffordd orau o gydweithio fel Senedd Ysgol i weithredu newidiadau effeithiol o fewn cymuned yr ysgol.
Yna gall disgyblion ddod â'r syniadau hyn i'r siambr wreiddiol - Siambr Hywel - a gallan nhw drafod mater cyfoes neu bwnc sy'n berthnasol i'w gwaith presennol fel Senedd Ysgol.
Rhowch wybod i mi os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am sut gall eich ysgol ymweld â'r Senedd.
Hyrwyddir gan Russell George AS, 13 Parkers Lane, Y Drenewydd, SY16 2LT
Mae costau'r cyhoeddiad hwn wedi’u talu gan Gomisiwn y Senedd o arian cyhoeddus.
Ydych chi eisiau newid sut rydych chi'n derbyn yr e-byst hyn?
Gallwch chi update your preferences o'r unsubscribe from this list.