View this email in your browser
Cylchlythyr Mai 2025
Croeso i’m Cylchlythyr ar gyfer mis Mai 2025.
Croeso i'm E-gylchlythyr diweddaraf sy'n cynnwys diweddariad ar yr hyn rydw i wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar i'ch cefnogi yn yr etholaeth ac yng Nghaerdydd.
Fis diwethaf, fe wnes i ddatganiad ynglŷn â thynnu'n ôl fel ymgeisydd ar gyfer etholiad y Senedd fis Mai nesaf. Rwy'n parhau i fod yn Aelod o'r Senedd dros Sir Drefaldwyn, a byddaf yn parhau yn y rôl hyd fis Ebrill 2026. Os gallaf eich helpu a’ch cefnogi gydag unrhyw fater, cysylltwch â mi trwy e-bost, neu ffoniwch fy swyddfa.
Os hoffech gwrdd â mi i drafod unrhyw fater neu os gallaf helpu mewn ffordd arall, anfonwch e-bost ataf: [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.
Canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru – mae'r ymgyrch yn parhau
Mae'r frwydr i gadw ein Canolfan Ambiwlans Awyr yn parhau. Ar hyn o bryd rydyn ni’n aros i Farnwr wneud penderfyniad yn dilyn her a Gwrandawiad Llys ar ffurf Adolygiad Barnwrol a barodd dridiau yn Llys y Goron Caerdydd yn gynharach eleni.
Mae'r grŵp ymgyrchu rydw i'n rhan ohono wedi bod yn gweithio i herio'r penderfyniad a fyddai'n gweld canolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng yn cau.
Fel grŵp ymgyrchu rydyn ni’n parhau i fod yn weithgar. Gobeithio y bydd gennym ni gyhoeddiad ynglŷn â phenderfyniad y Barnwr maes o law.
Rydyn ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i godi ymwybyddiaeth, ennyn cefnogaeth, a sicrhau bod canolfannau ambiwlans awyr y Trallwng a Chaernarfon yn parhau i fod yn weithredol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Oedi cyn Triniaethau i gleifion ym Mhowys
Russell George AS yn yr Senedd.
Ym mis Mawrth cytunwyd ar gynlluniau a gynigiwyd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a fydd yn y pen draw yn arwain at gleifion Powys yn wynebu amseroedd arafach at driniaeth mewn ysbytai yn Lloegr er gwaethaf y cynhwysedd sydd ar gael. Dywedodd y Bwrdd Iechyd fod y cynlluniau wedi'u dwyn ymlaen am resymau ariannol. Bydd y mesurau hyn yn dechrau o fis Gorffennaf 2025.
Mae gofyn i ddarparwyr iechyd yn Lloegr arafu'r ddarpariaeth gofal i gleifion Powys, er gwaethaf y cynhwysedd digonol, yn anghyfiawn. Nid yw'n dderbyniol i gleifion Powys gael eu trin fel preswylwyr eilradd.
Mewn trafodaeth yn y Senedd yr wythnos hon, gofynnais am ddatganiad brys o safbwynt gan Lywodraeth Cymru. Gofynnais i'r Llywodraeth sicrhau bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael ei ariannu'n ddigonol i gyrraedd targedau amser aros Lloegr ar gyfer trigolion Powys sy'n cael eu cyfeirio dros y ffin.
Pan godais hyn gyda'r Prif Weinidog ym mis Mawrth, roeddwn yn falch ei bod hi'n cytuno bod y sefyllfa'n annerbyniol. Dilynais y mater mewn llythyr ffurfiol a gopïwyd isod. Yn anffodus, roedd ymateb Llywodraeth Cymru i mi yn ffug, ac ni atebodd y cwestiynau a godais.
Mae angen craffu pellach ar safbwynt Llywodraeth Cymru; ni allant ei gael y ddwy ffordd, gan ddatgan nad yw safbwynt Powys yn dderbyniol pan mai nhw sy'n gyfrifol yn y pen draw am GIG Cymru a chleifion Powys.
Addysg Ôl-16 ym Mhowys
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi opsiynau a'u ffordd ymlaen ddewisol ar gyfer addysg ôl-16. Mae opsiwn dewisol y Cyngor yn cynnwys cau pob Chweched Dosbarth ledled Powys a sefydlu canolfannau ôl-16 newydd yn y Drenewydd ac Aberhonddu, mewn partneriaeth â NPTC (sydd â safleoedd coleg yn y ddwy dref). Mae'r cynnig yn cynnwys dull gwahanol ar gyfer addysg Cyfrwng Cymraeg.
Mae angen gwelliannau brys ar ysgolion ym Mhowys. Dyma oedd barn ddiweddar y corff arolygu cenedlaethol Estyn, a gododd 'bryderon sylweddol' ynghylch gwasanaethau addysg Cyngor Sir Powys. Mae angen newid ac angen gwella a chefnogi darpariaeth ôl-16 ym Mhowys, ond nid wyf yn argyhoeddedig mai dyma'r camau gweithredu gorau, ac ymddengys nad oes llawer o dystiolaeth y byddai opsiwn dewisol y Cyngor o gau Chweched Dosbarth yn mynd i'r afael ag argymhellion Estyn.
Mae sawl Chweched Dosbarth rhagorol yn y sir y dylid eu cefnogi a'u caniatáu i ffynnu, yn hytrach na'u cau. Yn ogystal, mae angen llawer mwy o ystyriaeth i hyfywedd Ysgolion Uwchradd heb ddarpariaeth Chweched Dosbarth.
Llwyddiant Lleol yng Ngwobrau'r Gynghrair Cefn Gwlad
Cafodd Gwobrau'r Gynghrair Cefn Gwlad, neu’r 'Oscars Gwledig', eu creu er mwyn cefnogi a hyrwyddo cymunedau gwledig. Maen nhw'n dathlu pobl sy'n mynd yr ail filltir i sicrhau bod diwydiant bwyd a ffermio y Brydain wledig, busnesau bach, sgiliau traddodiadol, mentrau blaengar ac, yn bennaf oll, ei phobl, yn gallu llwyddo.
Wedi'u henwebu gan y cyhoedd, mae'r Gwobrau yn cydnabod ac yn anrhydeddu'r rhai sy'n mynd yr ail filltir dros eu cymuned yn rheolaidd.
Cyhoeddwyd pencampwyr Cymru yn y seremoni flynyddol yn y Senedd yr wythnos diwethaf.
Llongyfarchiadau i Woosnam a Davies o Lanidloes a enillodd wobr Clod Uchel yn y categori Siop Bentref a Swyddfa'r Post, i Ricky Lloyd Butchers yn y Trallwng a ddaeth yn ail yn y categori Cigyddion Gorau, ac i Gazm Drinks ger y Drenewydd a Siop Fferm Fork Handles yn Llangedwyn, a enillodd Glod Uchel yn y categori Bwyd a Diod Lleol.
Gofyn i Archwilio Cymru Adolygu Gwasanaeth Cynllunio Powys.
Yn ystod mis Ebrill, gofynnais i Archwilydd Cyffredinol Cymru adolygu Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Sir Powys.
Ym mis Ebrill 2023, cyhoeddodd Archwilio Cymru adroddiad beirniadol yn tynnu sylw at ddiffygion sylweddol yng Ngwasanaeth Cynllunio Cyngor Sir Powys. Y llynedd, aeth Archwilio Cymru ati i gynnal adolygiad dilynol i asesu cynnydd y cyngor o safbwynt rhoi sawl argymhelliad ar waith.
Rwy'n cydnabod y ddau adroddiad ond rwy'n credu nad oedd yr adolygiad dilynol yn darparu archwiliad cynhwysfawr o'r Gwasanaeth Cynllunio. Yn benodol, doedd yr adroddiad ddim yn gwerthuso perfformiad cyffredinol yr adran, nac yn asesu rhinweddau ceisiadau cynllunio unigol na’r ffordd y cawsant eu trin.
Yn fy llythyr, tynnais sylw at restr o bryderon a godwyd gan etholwyr, sydd yn fy marn i'n dangos methiannau systemig o fewn y Gwasanaeth Cynllunio.
Rydw i wedi cynnig cwrdd â'r Archwilydd Cyffredinol i drafod ymhellach y pryderon a'r camau nesaf posibl, gan bwysleisio ei ymrwymiad i fod eisiau gweld gwasanaeth cynllunio sy'n gwasanaethu'r cyhoedd yn deg, yn dryloyw ac yn effeithiol.
Herio cynnydd prisiau dŵr
Yr wythnos diwethaf, noddais ddigwyddiad yn y Senedd gyda'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr, Ofwat a chwmnïau dŵr, mewn ymgais i fynd i'r afael â'r cynnydd sydyn mewn biliau dŵr.
Daeth y cyfarfod a'r digwyddiad â'r rheoleiddiwr, Ofwat, Hafren Dyfrdwy, Dŵr Cymru, a'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr at ei gilydd mewn ymateb i bryderon cynyddol ynghylch y cynnydd llym a sydyn ym miliau dŵr cartrefi a busnesau ledled Cymru.
Yn y cyfarfod, buom yn trafod y diwygiad hirdymor posibl yn y system brisio dŵr. Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr yw'r llais annibynnol i ddefnyddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr. Maen nhw’n bodoli i helpu defnyddwyr i ddatrys cwynion yn erbyn cwmnïau dŵr.
Un o brif ganlyniadau'r digwyddiad oedd dysgu mwy am alwad y Cyngor Defnyddwyr Dŵr am un tariff cymdeithasol a chyson ledled Cymru a Lloegr. Byddai'r model hwn, yn ôl CCW, yn cynnig cymorth ariannol wedi'i dargedu yn seiliedig ar angen, yn hytrach na chod post, a’i nod yw capio biliau dŵr ar ddim mwy na 5% o incwm cartref ar ôl costau tai.
Byddai tariff cymdeithasol sengl yn ddisgownt safonol neu’n gynllun cymorth ar gyfer biliau dŵr a fyddai’n cael ei gymhwyso’n gyson ar draws pob cwmni dŵr mewn rhanbarth neu wlad, yn hytrach na’i fod yn amrywio yn dibynnu ar ba ddarparwr dŵr sydd gan gwsmer. Dywed CCW y gallai Tariff Cymdeithasol Sengl i Gymru a Lloegr roi terfyn ar y loteri cod post o ran biliau dŵr.
Roedd y trafodaethau yn adeiladol, a hoffwn weld ymchwiliad pellach i'r cynigion a byddaf yn trafod hyn gyda Llywodraeth Cymru.
Asthma + Lung UK Cymru
Cefais gyfarfod ag Asthma + Lung UK Cymru yn y Senedd.
Clefyd anadlol yw un o'r tri achos marwolaethau mwyaf yng Nghymru gydag 1 o bob 5 o bobl wedi cael diagnosis o gyflwr yr ysgyfaint ar ryw adeg yn ystod eu hoes.
Maen nhw'n ymgyrchu dros drin iechyd yr ysgyfaint fel blaenoriaeth genedlaethol ac yn ymladd dros Gymru lle gall pawb anadlu aer glân gydag ysgyfaint iach.
Dysgwch sut maen nhw'n brwydro i newid hyn trwy ymchwil ac ymgyrchoedd trwy fynd i https://www.asthmaandlung.org.uk/about-us/our-latest-work
Tynnu'n ôl fel Ymgeisydd
Yn ystod mis Ebrill, fe wnes i’r datganiad canlynol ynglŷn â thynnu'n ôl fel ymgeisydd ar gyfer etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai.
Rwy'n parhau i fod yn Aelod o'r Senedd dros Sir Drefaldwyn, a byddaf yn parhau yn fy rôl hyd fis Ebrill 2026.
Os gallaf eich helpu a’ch cefnogi gydag unrhyw fater, cysylltwch â mi trwy e-bost, neu ffoniwch fy swyddfa. Os hoffech gwrdd â mi i drafod unrhyw fater, cysylltwch â ni.
Fy Natganiad:
Cefais fy nychryn a’m synnu pan ges wybod gan y Comisiwn Hapchwarae fy mod yn wynebu cyhuddiadau o dwyll.
I fod yn glir, dydw i erioed wedi twyllo. Fodd bynnag, o ystyried penderfyniad y Comisiwn Hapchwarae, a'm dealltwriaeth o'r hyn sydd i ddod, mae hon yn debygol o fod yn broses hir na fydd wedi’i datrys erbyn mis Mai 2026. O dan yr amgylchiadau, rwy'n teimlo nad oes gennyf unrhyw ddewis arall ond tynnu fy ymgeisyddiaeth yn ôl ar gyfer etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf fel y gallaf ganolbwyntio ar frwydro i glirio fy enw. Byddaf wrth gwrs yn parhau i wasanaethu pobl Sir Drefaldwyn hyd eithaf fy ngallu.
Rwy'n ddiolchgar am y negeseuon niferus o gefnogaeth yr ydw i wedi'u derbyn yn ystod y dyddiau diwethaf, yn enwedig gan etholwyr.
Hyrwyddir gan Russell George AS, 13 Parkers Lane, Y Drenewydd, SY16 2LT
Mae costau'r cyhoeddiad hwn wedi’u talu gan Gomisiwn y Senedd o arian cyhoeddus.
Ydych chi eisiau newid sut rydych chi'n derbyn yr e-byst hyn?
Gallwch chi update your preferences o'r unsubscribe from this list.