Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Hafan
  • Cefndir Russell
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Cysylltu
  • Eng
Site logo

Cylchlythyr Medi

  • Tweet
Dydd Llun, 1 Medi, 2025
  • Local News

View this email in your browser

 

Cylchlythyr Medi 2025

Croeso i'm E-gylchlythyr diweddaraf sy'n cynnwys diweddariadau am yr hyn rydw i wedi bod yn ei wneud yn yr etholaeth ac yng Nghaerdydd.

Dros yr haf, rydw i wedi bod yn ymweld â busnesau a sefydliadau ledled Sir Drefaldwyn. Mae bob amser yn wych mynychu dathliadau o fywyd gwledig dros yr haf, ac mae’n gyfle heb ei ail i mi gwrdd â phobl. Gobeithio eich bod wedi cael haf da.

Os hoffech gwrdd â mi i drafod unrhyw fater neu os gallaf helpu mewn unrhyw ffordd, anfonwch e-bost ataf [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.

 

 

 

Tymor y Sioeau

 

 

Roedd hi’n dda sgwrsio gyda chynifer ohonoch mewn sioeau a digwyddiadau lleol dros yr Haf, ac roedd hefyd yn gyfle i rannu diweddariadau ar wahanol faterion.

Mae llawer o waith yn mynd i drefnu'r digwyddiadau hyn, ac rwyf am dalu teyrnged arbennig i'r gwirfoddolwyr niferus sy'n rhoi o’u hamser i sicrhau eu llwyddiant.

Ddydd Sadwrn, mynychais sioe olaf y tymor yn Llanfair Caereinion. Gan fod Undeb Amaethwyr Cymru yn dathlu 70 mlwyddiant eu sefydlu ym 1955, roeddwn yn falch o fynychu'r digwyddiad dathlu yn y sioe.

 

Ffair Gyllido

 

 

Rwy'n cynnal Ffair Gyllido ddydd Gwener 24 Hydref 2025, 11am-1pm yng Nghlwb y Monty, y Drenewydd.

Mae'r digwyddiad yn un rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb, gan gynnwys elusennau, grwpiau cymunedol, a mudiadau gwirfoddol ledled Sir Drefaldwyn sy'n chwilio am gymorth ariannol. Bydd cynrychiolwyr o gyrff cyllido mawr - gan gynnwys Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y Gronfa Dreftadaeth, Chwaraeon Cymru, CGGC, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys a Chyngor Sir Powys wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i drafod eich prosiectau yn uniongyrchol gyda chyllidwyr, p'un a oes angen cymorth arnoch ar gyfer mentrau newydd, rhaglenni cymunedol, gwelliannau i adeiladau, neu eisiau dal ati i gynnal gwasanaethau presennol.

Rwy'n gobeithio y bydd grwpiau lleol yn galw draw ac yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn.
Does dim angen cadw’ch lle, ond os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â mi drwy e-bostio [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887

 

 

 

Diweddariad ar y Ffyrdd a’r Rheilffyrdd

 

 

Ers cael fy ethol, rydw i wedi bod yn ymgyrchu dros gysylltiadau trafnidiaeth cryfach ar draws Sir Drefaldwyn, gan fod cysylltiadau da yn hanfodol i'n heconomi leol a'n diogelwch.

Rwy'n parhau i bwyso am welliannau diogelwch ar y ffyrdd ar yr A458, yr A44 a'r A483, a chynnydd ar brosiectau allweddol megis ffordd osgoi Pant-Llanymynech ac uwchraddio cyffyrdd yng Nghaersŵs.
Yn ystod y misoedd diwethaf rwyf wedi cynnal cyfarfod gyda Trafnidiaeth Cymru ac rwy’n parhau i rannu pryderon am oedi i drenau newydd ar Lein Arfordir y Cambrian, gan fod teithwyr yn rhy aml o lawer yn wynebu gwasanaethau gorlawn, annibynadwy. Mae croeso i’r gwelliannau hygyrchedd yng ngorsaf y Trallwng, ond mae mwy i'w wneud o hyd.

Mae fy niweddariad llawn yn darparu diweddariadau ar wahanol brosiectau ffyrdd a gwasanaethau rheilffyrdd.

 

Darllen mwy

 

Ein Cynhyrchwyr Bwyd a Diod Lleol

 

 

Dros yr haf, rydw i wedi bod yn cyfarfod â chynhyrchwyr lleol i drafod digwyddiad rwy'n ei gynnal ym mis Tachwedd. I ddathlu ein Cynhyrchwyr Bwyd a Diod lleol, rwy'n cynnal digwyddiad 'Diwrnod Sir Drefaldwyn' yn y Senedd lle bydd cynhyrchwyr lleol yn arddangos y gorau o Sir Drefaldwyn.
Fe wnes i daro heibio i Langford's yn y Trallwng, sy'n cyflogi dros 40 o bobl sy'n cynhyrchu cynhyrchion cig arobryn.

Ar ymweliad â fferm Ifor Humphreys, cefais weld ei Wagyu Cymreig yn cael eu dogn dyddiol o Monty's Ale.
Cefais y cyfle i longyfarch Trailhead Fine Foods, y Trallwng, am ennill Gwobr Great Taste a chyrraedd y rhestr fer ym mhrif wobrau diwydiant cig y DU am eu cynhyrchion Cig Eidion Cymreig GI, gan gynnwys eu byrbrydau poblogaidd Get Jerky.

Bum hefyd draw i Coco Pzazz yn Llanidloes, sydd wedi tyfu o brosiect bwrdd cegin i fod yn fusnes siocled ffyniannus y mae ei gynnyrch bellach i'w weld ledled y DU.

Os ydych chi'n gynhyrchydd bwyd neu ddiod lleol a bod gennych ddiddordeb mewn mynychu'r digwyddiad rwy'n ei drefnu yn y Senedd ym mis Tachwedd - a fydd yn arddangos cynhyrchwyr lleol ac yn gweithredu fel digwyddiad rhwydweithio ehangach - cysylltwch â mi.

 

 

 

Gwasanaeth Dydd Mencap Cymru

 

 

Mae Mencap Cymru yn gweithio gyda gwasanaeth dydd yn Llanfyllin. Fis diwethaf, mi wnes i alw heibio i sgwrsio â'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

Atebais lawer o gwestiynau am fy swydd ac am y Senedd. Mae Mencap yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu i ennill sgiliau a magu hyder.

Mae popeth y mae Mencap yn ei wneud yn canolbwyntio ar sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael yr un chwarae teg â phawb arall, a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu clywed a'u cynnwys yn gyfartal.

Os oes gennych chi anabledd dysgu, neu’ch bod yn ofalwr teuluol neu'n cefnogi person ag anabledd, fe hoffai Mencap glywed eich barn trwy eu harolwg: https://wales.mencap.org.uk/WalesSurvey25.  

 

 

 

 

 

Twitter

Facebook

Website

 

 

 

Hyrwyddir gan Russell George AS, 13 Parkers Lane, Y Drenewydd, SY16 2LT

Mae costau'r cyhoeddiad hwn wedi’u talu gan Gomisiwn y Senedd o arian cyhoeddus.

Ydych chi eisiau newid sut rydych chi'n derbyn yr e-byst hyn?

Gallwch chi update your preferences o'r unsubscribe from this list.

You may also be interested in

Cylchlythyr Tachwedd

Dydd Mercher, 5 Tachwedd, 2025
View this email in your browser Cylchlythyr Tachwedd 2025Mae fy nghylchlythyr y mis hwn yn cynnwys diweddariadau cynhwysfawr ar y camau nesaf gyda'r ymgyrch Ambiwlans Awyr a'r ymgyrch i ddiogelu gwasanaethau Strôc yn Ysbyty Bronglais.

Show only

  • Holyrood News
  • Local News
  • Newsletters

Russell George AS Sir Drefaldwyn

Troedyn

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Russell
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Russell George, 13 Lôn Parkers, Y Drenewydd, SY16 2LT. *Nid yw Senedd Cymru, neu Russell George yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.
Hawlfraint 2026 Russell George AS Sir Drefaldwyn. Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree