
Croeso i fy nghylchlythyr.
Wrth i’r haf ddod i ben ac wrth i finnau baratoi i fynd yn ôl i’r Senedd ar ôl y toriad, mae’n gyfle i fi fwrw golwg yn ôl ar haf prysur iawn o newyddion cymysg
Roedd hi’n siom fawr i ni gyd glywed am gynigion Ymddiriedolaeth Ambiwlans Awyr Cymru i gau eu canolfan yn y Trallwng. Mae gan bobl leol bob rheswm i fod yn bryderus iawn ac yn ddigalon ynghylch y cynlluniau ac rydw i wedi cynnwys diweddariad llawn yn y cylchlythyr hwn.
Ar nodyn mwy cadarnhaol, mae penderfyniadau bellach wedi’u gwneud mewn egwyddor i uwchraddio gwasanaethau brys Amwythig. Fel y gwyddom yn iawn, yma yn Sir Drefaldwyn, mae’r gwasanaethau a gynigir yn hanfodol i ni yn ogystal ag i breswylwyr Swydd Amwythig.
Yn gynharach yn yr haf, daeth y newyddion siomedig fod sawl cangen banc yn cau ac rydw i wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod lleisiau preswylwyr yn cael eu clywed. Rwy’n gobeithio y bydd cynigion ar gyfer Hwb Bancio LINK newydd yn y Trallwng yn helpu i fynd i’r afael ag anghenion llawer o bobl leol.
Os gallaf eich helpu gydag unrhyw broblem neu bryder, mae croeso i chi gysylltu â mi ar e-bost - russell.george@senedd.cymru
Y Diweddaraf am Ganolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng
Mae Russell a Craig wedi bod y cefnogi sawl ymgyrch leol.
Diolch i bawb sydd wedi llenwi fy arolwg ar y cyd â Craig Williams AS, a lansiwyd yng nghanol mis Awst, ynghylch y newyddion gofidus bod Ymddiriedolaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn bwriadu cau eu canolfan yn y Trallwng. Roedd hi’n gryn syndod i ni ac roedd y cyhoeddiad yn destun siom aruthrol.
Mae’n fuddiol iawn i ni allu cyflwyno cymaint o leisiau lleol â phosibl i’r Ymddiriedolaeth. Mae dros 1300 o bobl wedi ymateb o fewn yr wythnos gyntaf i’r arolwg fod ar-lein sy’n dangos grym gwrthwynebiad ein sir i’r newidiadau arfaethedig.
Yr wythnos diwethaf, cawsom gyfarfod â’r Ymddiriedolaeth i godi pryderon preswylwyr. Yn y cyfarfod, ymrwymodd yr Ymddiriedolaeth i “ymgynghoriad diffuant” gyda phreswylwyr ac rydyn ni’n gweithio’n galed i hwyluso hyn. Rydyn ni hefyd wedi gofyn am i’r data a’r dadansoddiadau a ddefnyddiwyd i greu’r cynigion gael eu rhannu â ni er mwyn gallu craffu arnyn nhw’n iawn. Er bod yr Ymddiriedolaeth yn credu bod ganddyn nhw achos dros gau’r ganolfan yn y Trallwng, dydyn ni ddim eto wedi gweld unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r cynnig.
Gwasanaeth Brys newydd yn Amwythig
Yr wythnos diwethaf, cymeradwyodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac NHS England gynlluniau’r Cydbwyllgor Buddsoddi mewn egwyddor ar gyfer dyfodol gwasanaethau gofal iechyd Swydd Amwythig.
Mae’r penderfyniad hwn yn gam pwysig a fydd yn gweld y gwasanaethau brys yn cael eu cryfhau yn Amwythig ar ôl blynyddoedd o ddadlau ac ymgyrchu dros ysbytai Swydd Amwythig. Yma yn Sir Drefaldwyn, rydyn ni’n gwybod faint rydyn ni’n dibynnu ar y gwasanaethau hyn.
Bydd hyn yn golygu y bydd Ysbyty Brenhinol Amwythig yn arbenigo mewn Gofal Brys ac y bydd Ysbyty’r Princess Royal yn Telford yn dod yn Ganolfan Gofal wedi’i Gynllunio. Bydd gan y ddau safle ganolfan Gofal Brys 24 awr.
Bydd y cynlluniau yn lleihau amseroedd aros damweiniau ac achosion brys presennol y ddau ysbyty yn sylweddol, ynghyd ag amseroedd ambiwlans.
Signal ffonau symudol yn Sir Drefaldwyn
Rydyn ni’n gwybod yn lleol pa mor anodd yw hi i gael signal band eang a ffôn symudol.
Rwy’n falch o fod wedi cyfarfod darparwyr yn ddiweddar i drafod eu cynlluniau i wella cysylltedd.
Yn y Canolbarth, dylai eu cynllun arwain at wasanaeth i 98% o dai gan o leiaf un gweithredwr rhwydwaith mawr, i fyny o 78% ar hyn o bryd. Byddai hyn yn welliant sylweddol ar ein sefyllfa ar hyn o bryd.
Sioeau Haf Lleol
Cawsom dymor hyfryd o sioeau ledled Sir Drefaldwyn dros yr haf.
Mae’n wych gweld cymaint o gymunedau yn dod at ei gilydd ar ôl sawl blwyddyn o fethu â chynnal llawer o ddigwyddiadau lleol.
Ddydd Sadwrn diwethaf, cynhaliwyd digwyddiadau olaf yr haf ac roeddwn i’n falch o fynychu Gŵyl Fwyd y Drenewydd a sioe Llanfair Caereinion.
Mae angen llawer o ymdrech gan lawer o wirfoddolwyr i drefnu a chefnogi’r digwyddiadau ar y diwrnod. Diolch o galon i’r holl drigolion lleol sydd wedi helpu i sicrhau llwyddiant sioeau’r haf Sir Drefaldwyn.
Newyddion gwych gan y Loteri Genedlaethol
Mae’r Loteri Genedlaethol unwaith eto wedi cyhoeddi llu o geisiadau grant newydd a llwyddiannus gan sefydliadau lleol.
Llwyddodd y sefydliadau canlynol:
Dyfarnwyd £304,240 i Gwmni Buddiannau Cymunedol Prosiect Game Change er mwyn helpu pobl ifanc sy’n cael trafferth mewn amgylcheddau addysg confensiynol i ddysgu a gwireddu eu potensial. Bydd y cyllid hwn yn eu galluogi i gyllido dysgu ymarferol fel peirianwyr, gofalu am geffylau, gwaith ffotograffiaeth a gwaith coed.
Derbyniodd Cwmni Buddiannau Cymunedol Cain Valley Tech Repair £10,000 i gyllido atgyweiriadau i ddyfeisiau digidol pobl sy’n profi trafferthion ariannol.
Rhoddwyd £9,990 i Gyngor Cymuned Cegidfa i dalu am well cyfleusterau yn eu maes chwarae.
Dyfarnwyd £8,820 i Ŵyl Maldwyn ar gyfer gŵyl benwythnos a fydd yn helpu i ddod â’r gymuned at ei gilydd ar ôl y pandemig.
Llongyfarchiadau gwresog iddynt un ac oll. Mae cymorth y Loteri Genedlaethol yn ffordd ragorol i grwpiau cymunedol a chymdeithasau wella eu cyfleusterau neu gynnal eu gwaith pwysig.
Gwobrau Dewi Sant
Mae Gwobrau Dewi Sant, a grëwyd i gydnabod ysbryd, gwaith caled a phenderfyniad pobl ledled Cymru bellach yn 10 oed.
Mae’r enwebiadau ar gyfer y naw categori ar agor nawr.
Os ydych chi’n gwybod am rywun sy’n gwneud pethau anhygoel yn y gymuned, beth am ddysgu mwy am Wobrau Dewi Sant / LLYW.CYMRU (https://llyw.cymru/gwobrau-dewi-sant)
Byddai’n wych gweld cynigion o Sir Drefaldwyn ar y rhestr fer ac yn fuddugol!