View this email in your browser
Cylchlythyr Mehefin 2025
Croeso i Gylchlythyr Mehefin 2025.
Croeso i'm e-gylchlythyr diweddaraf sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn yr wyf wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar i'ch cefnogi yn yr etholaeth ac yng Nghaerdydd.
Fis diwethaf, roeddwn i’n falch o ymuno â digwyddiadau ledled y Sir wrth i ni ddod at ein gilydd i fyfyrio ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop 80 mlynedd yn ôl. Roedd yn amser i fyfyrio ar yr aberth a wnaed gan gymaint ac anrhydeddu'r rhai a sicrhaodd ein rhyddid. Ni ddylem fyth anghofio'r pris a dalwyd.
Os hoffech chi gwrdd â mi i drafod unrhyw fater neu os gallaf helpu mewn ffordd arall, anfonwch e-bost ataf yn [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.
Amseroedd Aros Powys am Driniaeth
Russell George AS yn herio'r Prif Weinidog, Eluned Morgan AS.
Yr wythnos hon yn y Senedd, heriais y Prif Weinidog ar ei honiad nad oes unrhyw glaf ym Mhowys yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth.
Hefyd, gofynnais iddi ymyrryd eto i sicrhau nad yw cleifion Powys yn aros yn hirach am driniaeth na chleifion Lloegr wrth gael eu trin yn ysbytai Swydd Amwythig.
Dathlu ein Diwydiant Twristiaeth
Parc Gwledig a Hamdden Meadow Springs Trefeglwys.
Yn ystod mis Mai dathlwyd Wythnos Twristiaeth Cymru, digwyddiad dan arweiniad y diwydiant sy'n codi ymwybyddiaeth o'r heriau sy'n wynebu'r sector gan arddangos y cyfraniad anhygoel y mae'r diwydiant yn ei wneud yr un pryd.
Roedd yn bleser mawr cwrdd â thair cenhedlaeth o'r teulu Williams sy'n rhedeg Parc Gwyliau Bryn Efyrnwy yn Llansantffraid. Mae hwn yn safle gwych, ond dan fygythiad gan lwybr peilon arfaethedig Green GEN Cymru. Yn ystod yr Wythnos Twristiaeth, roeddwn i eisiau cyflwyno’r achos eto dros linellau trawsyrru tanddaearol, nid peilonau uwchben, mewn ardaloedd gwledig sensitif. Mae pobl yn dod i Ogledd Powys i fwynhau'r golygfeydd heb eu difetha o gefn gwlad Canolbarth Cymru ac mae'n rhaid i ni ddiogelu hynny.
Ymwelais hefyd â Pharc Gwledig a Hamdden Meadow Springs yn Nhrefeglwys i ddathlu eu llwyddiant diweddar ac i nodi Wythnos Twristiaeth Cymru. Mae'r safle wedi cael ei drawsnewid yn gyrchfan flaenllaw i dwristiaid, gan greu swyddi lleol a buddsoddiad yn ein heconomi.
Mae twristiaeth yn chwarae rhan hanfodol yn economi’r Canolbarth, felly gadewch i ni gefnogi'r bobl a'r busnesau sy'n galluogi hyn.
Darpariaeth Gwasanaeth Brys Newydd yn Amwythig
Mae'r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo yn gyflym fel rhan o gynllun i sefydlu Ysbyty Brenhinol Amwythig fel y prif ysbyty brys ar gyfer Gogledd Powys, Swydd Amwythig, a Telford ac Wrekin. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i ni yn y Canolbarth gan y bydd yn golygu mynediad at well gofal brys sy'n achub bywydau yn yr Amwythig.
Mae'r gwasanaethau a gynlluniwyd yn fwy sylweddol nag adran damweiniau ac achosion brys arferol. Mae hefyd yn golygu dychwelyd y gwasanaeth cleifion mewnol Menywod a Phlant dan arweiniad meddygon ymgynghorol, adran y Pen a’r Gwddf, Gofal Critigol a'r Uned Strôc yn ôl i'r Amwythig.
Mae Ysbyty'r Amwythig hefyd yn trefnu digwyddiad galw heibio ym Marchnad Da Byw y Trallwng ddydd Llun 16 Mehefin 2025 rhwng 10am-2pm. Bydd clinigwyr a Thîm y Rhaglen yn bresennol yn y digwyddiad i ateb cwestiynau am beth fydd y datblygiad newydd yn ei olygu a sut y bydd yn gwella gofal cleifion i'n cymuned yn Sir Drefaldwyn. Byddaf yn y digwyddiad hwn ac rwy'n annog pobl i fynychu hefyd os ydyn nhw am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith, neu i drafod materion eraill gyda mi.
Cyfraniad CFfI
Mae'r mudiad Ffermwyr Ifanc yn chwarae rôl mor bwysig yn ein cymunedau gwledig ac nid yn unig i deuluoedd ffermio, ond i bobl ifanc ledled yr ardal. Mae'n ymwneud â llawer mwy nag amaethyddiaeth. Mae CFfI yn dod â phobl at ei gilydd, yn annog arweinyddiaeth, gwaith tîm a chreadigrwydd, ac yn rhoi llais cryf i bobl ifanc yn nyfodol ein cefn gwlad.
CFfI yw un o'r mudiadau ieuenctid gorau ar lawr gwlad, sy'n cynnig sgiliau bywyd, hyder a chyfeillgarwch gydol oes. Daeth y Rali Sir ddiweddar a fynychais yn Llanerfyl â hynny'n fyw, o'r cystadlaethau i'r cyfeillgarwch, gyda phob clwb yn dangos egni anhygoel.
Roeddwn i'n falch o ddal i fyny â Chadeirydd y Sir, Marc Griffiths, a chael golwg ar y bwrdd wrth ein hymyl ni, sy'n dal dim ond rhywfaint o'r hyn y mae CFfI yn sefyll amdano, sef hwyl, cyfle, a chymuned.
Gwarchod Ystadau Fferm Sirol
Dydd Mawrth diwethaf mynychais Gyfarfod Cyhoeddus yn Sarn a ddaeth i ben gyda phleidlais yn galw ar Gyngor Sir Powys i osod moratoriwm ar werthu ei ffermydd sy'n eiddo i'r Cyngor.
Denodd y Cyfarfod Cyhoeddus dros 150 o bobl ac fe'i galwyd gan Gyngor Cymuned Ceri mewn ymateb i bryderon cynyddol am Gyngor Sir Powys yn gwerthu rhannau o'i ystad ffermydd tenantiaid. Roedd hyn yn dilyn cadarnhad nad yw rhai tenantiaethau yn cael eu hadnewyddu, gan adael ffermwyr a theuluoedd iau yn ansicr am eu dyfodol.
Rwyf wedi codi'r mater yn y Senedd o’r blaen, gan rybuddio bod gwerthu ffermydd cyhoeddus ledled Cymru nid yn unig yn niweidiol i gymunedau gwledig ond yn ddiffygiol o ran rhagofal yng nghyd-destun diogelwch bwyd ac olyniaeth amaethyddol.
Diogelu Gwasanaethau Strôc
Mae pryderon am ddyfodol gwasanaethau strôc acíwt yn Ysbyty Bronglais, a byddaf yn mynychu cyfarfod cyhoeddus ymhen ychydig wythnosau ar y mater, felly roeddwn i’n falch o gwrdd â'r Gymdeithas Strôc yn ddiweddar i glywed am eu maniffesto ar gyfer 2026 a'r blaenoriaethau allweddol maen nhw wedi'u hamlinellu i wella gofal strôc ledled Cymru.
Ymhlith y cynigion sy'n cael eu hystyried gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mae'r posibilrwydd o israddio gwasanaethau strôc ym Mronglais, symudiad a allai fod â goblygiadau dinistriol i gleifion yng Nghanolbarth Cymru. Mae cynigion eraill yn cynnwys newidiadau i Gofal Critigol, Dermatoleg, Llawfeddygaeth Gyffredinol Frys, Endosgopi, Offthalmoleg, Orthopaedeg, Radioleg ac Wroleg.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal tan ddydd Sul 31 Awst 2025. Rwy'n awyddus i drigolion Powys ymateb. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn y ddolen isod.
Clinical Services Plan Consultation - Hywel Dda University Health Board
Manteision a Phryderon Deallurswydd Artiffisial
Mae Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei ddefnyddio mwy a mwy ym mhob agwedd ar fywyd, a gallwn weld manteision gwirioneddol, o gynhyrchiant i ddatrys problemau. Ond gyda'r datblygiadau hynny daw cwestiynau mawr. Cefais drafodaeth ddiddorol iawn yn ddiweddar yn y Senedd gyda ControlAI, sefydliad yn y DU sy'n canolbwyntio ar sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddatblygu'n gyfrifol, yn dryloyw ac er budd y cyhoedd.
Wrth i Ddeallusrwydd Artiffisial ddod yn fwy integredig i'n bywydau, mae'n amlwg bod angen sgwrs genedlaethol ddifrifol arnom am reoleiddio, moeseg a llywodraethu. Bydd y dewisiadau a wnawn nawr yn siapio'r effaith y mae Deallusrwydd Artiffisial yn ei chael, er gwell neu er gwaeth. Os oes gennych chi farn ar Ddeallusrwydd Artiffisial neu'r angen am reoliadau Deallusrwydd Artiffisial cryfach yn y DU, ymatebwch i'm cylchlythyr gyda’ch barn.
Cymorthfeydd
Hyrwyddir gan Russell George AS, 13 Parkers Lane, Y Drenewydd, SY16 2LT
Mae costau'r cyhoeddiad hwn wedi’u talu gan Gomisiwn y Senedd o arian cyhoeddus.
Ydych chi eisiau newid sut rydych chi'n derbyn yr e-byst hyn?
Gallwch chi update your preferences o'r unsubscribe from this list.