
Cylchlythyr Rhagfyr 2022
Croeso i gylchlythyr mis Rhagfyr.
Wrth i ni agosáu at ddiwedd y flwyddyn a chroesawu’r gaeaf, mae llawer o newyddion a datblygiadau o hyd ledled Sir Drefaldwyn i mi eu rhannu gyda chi. Mae’r cylchlythyr hwn yn cynnwys gwybodaeth am yr Ambiwlans Awyr, fy Ffair Cyngor Costau Byw a llawer mwy.
Rwy’n gwybod bod llawer o bobl yn cael anhawster trefnu apwyntiadau gyda’u meddygon teulu. Rwy’n gweithio’n galed i godi problemau ynghylch mynediad at wasanaethau iechyd gyda Llywodraeth Cymru. Mae llinell gymorth am ddim 111 y GIG yn wasanaeth gwerth chweil os ydych chi am sgwrsio am eich symptomau.
Os gallaf eich helpu gyda phroblem neu bryder, mae croeso i chi gysylltu â mi ar e-bost – russell.george@senedd.cymru
Nadolig Llawen!
Hoffwn ddymuno Nadolig llawen iawn i bawb. Gobeithio y cewch amser i ymlacio, treulio amser gydag anwyliaid a myfyrio ar y flwyddyn.
Diolch i bawb a roddodd gynnig ar y gystadleuaeth Cerdyn Nadolig. Cafwyd ymdrechion rhagorol eleni, felly rydw i wedi penderfynu gwneud cerdyn yn cyfuno pedwar cynllun!
Yr enillwyr oedd
Dylan Pounds
Georgie Kendall-Evans
Isaac Griffiths
Lilly Cimadoro
Y Diweddaraf ar yr Ambiwlans
Awyr
Russell George AS yn holi Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru ar y cynigion ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru
Rwy’n dal ati i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ymgynghoriad ffurfiol ar y cynlluniau i gau canolfan yr Ambiwlans Awyr yn y Trallwng.
Codais y broblem eto yn y Senedd ar 16 Tachwedd. Roedd hi’n siomedig bod y Gweinidog wedi ateb yn awgrymu bod gan Lywodraeth Cymru rôl gyfyngedig yn y broses hon.
Ar 24 Tachwedd, ymunais â gwleidyddion amrywiol ac ymgyrchwyr wrth anfon llythyr ar y cyd at Stephen Harrhy, Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans, gan godi llawer o bryderon cyn i’r ymgysylltu â’r cyhoedd ddechrau. Roedd y pryderon hyn yn cynnwys problemau gyda’r modelu a ddefnyddiwyd yn y cynigion, sut y rhennir data â’r cyhoedd a honiadau sy’n anghywir yn ein tyb ni y bydd 583 o hediadau ychwanegol bob blwyddyn.
Ar 5 Rhagfyr, fe gwrddais i - ynghyd ag arweinwyr busnes lleol - â Chadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Prif Weithredwr ac eraill o Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Cawsom drafodaeth gadarn am ddyfodol y gwasanaeth a barn y cyhoedd am y cynigion. Roedd tîm yr elusen yn agored ac yn glir yn eu hatebion a chefais ymateb tryloyw i'n cwestiynau. Cytunodd pawb a fynychodd ein bod yn edrych ymlaen at ddechrau proses ymgysylltu’r Comisiynydd.
Ffair Cyngor ar Gostau Byw – 10 Rhagfyr
Rwy’n gwybod bod llawer o bobl yn gweld bod y cynnydd mewn prisiau yn cael effaith go iawn ar eu costau byw ac rydw i am wneud popeth o fewn fy ngallu i gael cyngor, cymorth ac arweiniad i etholwyr.
Ar y cyd â Craig Williams AS, byddaf yn cynnal Ffair Cyngor ar Gostau Byw rhwng 10am a 12:30pm ddydd Sadwrn 10 Rhagfyr yn y Drenewydd ym Maes Parcio Lôn Gefn, Hafan yr Afon, Y Drenewydd, SY16 2NZ.
Bydd sefydliadau lleol a chenedlaethol wrth law i siarad gyda phreswylwyr a’u cynorthwyo i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae sefydliadau sydd eisoes wedi’u cadarnhau yn cynnwys Centrica (Nwy Prydain), E.ON Next, Banc Barclays, Hafren Dyfrdwy, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Age Cymru Powys a Chyngor ar Bopeth Powys.
Bydd Craig a minnau wrth law i ateb cwestiynau a’ch cynorthwyo gydag unrhyw broblemau penodol sydd gennych chi.
Siopwch yn lleol y Nadolig hwn
Mae’r Nadolig yn amser pwysig iawn i fusnesau lleol – siopau, tafarndai, gwneuthurwyr a sefydliadau bach eraill.
Yn ein pentrefi a’n trefi bach, mae llawer o bobl fusnes angerddol yn gweithio’n galed i gadw ati er budd pawb.
Uwchraddio Ysbytai Amwythig a Telford
Bydd cleifion y GIG ledled Sir Drefaldwyn yn gwybod bod gofal wedi’i gynllunio a gofal brys ar gyfer pobl leol yn cael ei ddarparu mewn gwirionedd yn Lloegr gan Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Amwythig a Telford.
Mae newidiadau a diwygiadau sylweddol i sut mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithredu ei gwasanaethau ar y gweill ers blynyddoedd, fel y gall ddiwallu anghenion gofal iechyd preswylwyr Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru yn y ffordd orau.
Mae’n wych clywed y bydd gwelliannau sylweddol yn cael eu gwneud i’r ddarpariaeth frys yn Amwythig.
Rydw i hefyd yn falch y bydd newidiadau mawr yn Ysbyty Telford yn cael eu gwneud i wella’n sylweddol y mynediad ac ansawdd y gofal wedi’i gynllunio, fel llawdriniaethau.
Bydd canolbwyntio ar ofal wedi’i gynllunio yn Telford yn lleihau ein hamseroedd aros a dylai arwain at well cyfraddau gwella.
Byddaf yn dal ati i drafod y datblygiadau gyda’r awdurdodau iechyd perthnasol ac i gynrychioli anghenion etholwyr.
Gwell Signal i Ffonau Symudol
Rwy'n falch iawn bod datblygiad y Rhwydwaith Gwledig a Rennir yn parhau i fynd o nerth i nerth.
Mae'r map uchod yn dangos sut y bydd y signal cael ei wella gan y cynllun a ddatblygwyd gan bedwar o'r prif weithredwyr ffonau symudol ac Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU.
Bydd 16 mast newydd yn cael eu gosod yn Sir Drefaldwyn, gan wella mynediad i ddefnyddwyr y pedwar rhwydwaith hwn yn sylweddol (EE, O2, Three a Vodafone). Dylai'r mastiau hyn fod ar waith erbyn diwedd 2024, gyda rhai ar gael yn gynt.
Penwythnos y Cofio
Mae wastad yn anrhydedd ac yn fraint mynychu gwasanaethau ar Ddydd y Cofio a dros y Penwythnos Cofio traddodiadol.
Eleni, mynychais y Cofadail yn y Drenewydd ar 11 Tachwedd cyn mynd ymlaen i gyfarfod y Groes Goch Brydeinig gyda’r Cynghorydd Joy Jones i weld eu harddangosfa o babïau.
Ar Sul y Cofio, mynychais wasanaeth yn Eglwys y Santes Fair yn y Trallwng cyn cyfarfod Kathleen Summerville o Gegidfa. Roedd Kathleen yn dathlu ei phen-blwydd yn 106 oed ar y 12fed ac fe wnaeth hi helpu faciwîs o Birmingham yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn ei rôl fel athrawes.