Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Hafan
  • Cefndir Russell
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Cysylltu
  • Eng
Site logo

Cylchlythyr Tachwedd

  • Tweet
Dydd Mercher, 5 Tachwedd, 2025
  • Local News

View this email in your browser

 

Cylchlythyr Tachwedd 2025

Mae fy nghylchlythyr y mis hwn yn cynnwys diweddariadau cynhwysfawr ar y camau nesaf gyda'r ymgyrch Ambiwlans Awyr a'r ymgyrch i ddiogelu gwasanaethau Strôc yn Ysbyty Bronglais.

Yn ystod mis Hydref rwyf hefyd wedi bod yn mynd i’r afael â phryderon yn dilyn cyhoeddiad y bydd fferyllfa Danby's yn Llanfyllin yn cau ar ddiwedd y flwyddyn a bod angen dod o hyd i wasanaeth newydd. Rwyf hefyd yn parhau i weithio gyda theuluoedd yn dilyn cynigion cychwynnol gan Gyngor Sir Powys i gau Canolfan Ddydd Sylfaen Llanidloes.

Hefyd, rwyf wedi holi Gweinidogion yn y Senedd ynglŷn ag ymgynghoriad Cyngor Sir Powys ar safleoedd newydd posibl i deithwyr yng Ngogledd Powys. Os hoffech chi gael gwybod mwy am unrhyw un o'r materion hyn, neu os hoffech chi gwrdd i drafod unrhyw fater neu os gallaf helpu mewn ffordd arall, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.

 

 

 

Ymgyrch Ambiwlans Awyr – Beth nesaf?

 

Araith Russell George AS yn nadl y Senedd.

 

Fis diwethaf, cawsom y newyddion siomedig bod y Llys Apêl wedi gwrthod caniatáu gwrandawiad i gau canolfannau Ambiwlans Awyr y Trallwng a Chaernarfon.

O'r cychwyn cyntaf, rydyn ni wedi herio'r ffeithiau a'r rhesymeg a gyflwynwyd dros y newidiadau hyn yn gyson. Rydyn ni wedi pwyso ar y bobl sy’n gwneud penderfyniadau i esbonio pam eu bod yn ystyried ei bod yn dderbyniol i 40 ardal dderbyn ymateb brys arafach.

Rwy'n credu'n gryf bod y cynigion i gau'r canolfannau Ambiwlans Awyr yn y Trallwng a Chaernarfon yn seiliedig ar wybodaeth anghyflawn a diffygiol. Mae'r broses wedi cael ei difetha gan ragfarn, camwybodaeth a chamgyfeiriad. Er hynny, mae'r ffeithiau yn parhau i fod yr un fath, nid oedd pobl Canolbarth Cymru erioed yn ceisio triniaeth ffafriol, dim ond tegwch. Mae trigolion y Canolbarth a’r Gogledd yn haeddu'r un safon o ofal ac ymateb brys prydlon â'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd trefol.

Fel rhan o'r newidiadau arfaethedig, cyhoeddwyd ystod o fesurau 'lliniaru' fel y'u gelwir, gan gynnwys defnyddio cerbydau ffyrdd ychwanegol ar gyfer ardaloedd yn y Canolbarth a’r Gogledd. Fodd bynnag, rwy'n credu'n gryf bod y camau hyn yn llawer llai na'r hyn sydd wir ei angen i ddiogelu gwasanaethau hanfodol. Byddaf yn parhau i graffu a dwyn y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gyfrif ynglŷn â'u haddewid na fydd unrhyw ganolfannau yn cau nes bod yr adnoddau pellach hyn yn gwbl weithredol ac yn eu lle.

 

Darllen mwy

 

Ariannu Llwyddiant Teg