
Croeso i fy nghylchlythyr mis Tachwedd.
Mae'r gwaith o gyflwyno brechiadau ffliw a phigiadau atgyfnerthu COVID at y gaeaf yn parhau yn Sir Drefaldwyn ac mae manylion llawn i'w cael yn Hafan – Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)
Roeddwn i'n cefnogi Rishi Sunak yn etholiad arweinyddiaeth fy mhlaid fy hun dros yr haf. Rhaid i gynllun economaidd credadwy er mwyn cefnogi twf a'r heriau o ran costau byw fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU. Credaf mai Rishi Sunak sydd yn y sefyllfa orau i fynd i'r afael â'r heriau hyn fel Prif Weinidog ac rwy'n ei longyfarch ar ei benodiad fel Prif Weinidog
Os alla i eich helpu gydag unrhyw fater neu bryder, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy e-bostio russell.george@senedd.cymru
Diweddariad am Ganolfan yr Ambiwlans Awyr
Mae Ambiwlans Awyr Cymru'n rhoi gwasanaeth amhrisiadwy i'r Canolbarth o'u canolfan yn y Trallwng. Mae cryn amheuon am y cynigion i ganoli gwasanaeth y Gogledd a'r Canolbarth mewn un safle, a'r posibilrwydd o gau'r ganolfan yn y Trallwng.
Mae gen i bryderon dwys am effaith y cynnig hwn ar wasanaeth meddygol diogel yma yn y Canolbarth, sydd â chymaint o ardaloedd gwledig sy’n anodd eu cyrraedd.
Rydyn ni angen gwybodaeth agored a thryloyw yn awr, a chraffu'n llawn ar ddata'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys a ddefnyddiwyd fel sail i'r cynigion hyn.
Cludiant i’r Ysgol
Rwy'n gwybod drwy sgyrsiau niferus â theuluoedd lleol bod problemau difrifol o ran dyrannu cludiant i'r ysgol ac felly'r dewis sy'n wynebu rhieni o ran lle gall eu plant gael eu haddysg.
Mae trigolion wedi sôn am achosion lle mae un plentyn mewn teulu yn cael cynnig cludiant ysgol am ddim ond nid y llall, neu lle mae ychydig gannoedd o lathenni yn rhwystro rhieni rhag anfon eu plant i'r ysgol orau iddyn nhw.
Mae'n hen bryd cynnal adolygiad o bolisi Cyngor Sir Powys yn y maes hwn ac rwy'n falch fod cynnig a wnaed gan y Cynghorydd Lucy Roberts yn Llandrinio wedi’i dderbyn yn unfrydol ym mis Hydref.
Cefnogi ein Ffermwyr
Ym mis Hydref, fe wnes i a Craig Williams, yr Aelod Seneddol, gyfarfod â ffermwyr lleol ac aelodau'r NFU ar fferm Dyffryn, Meifod, i drafod yr heriau a’r cyfleoedd amrywiol sy'n wynebu'r diwydiant.
Mae'r newyddion fis diwethaf bod y gwaharddiad Americanaidd ar gig oen o Gymru wedi'i godi wedi degawdau lawer wedi cael croeso mawr gan y gymuned ffermio yn Sir Drefaldwyn. Mae'n agor marchnad a allai fod yn un hynod broffidiol i fusnesau ffermio bach ar hyd a lled Sir Drefaldwyn.
Un mater y bu cryn drafod yn ei gylch oedd yr unigrwydd a'r heriau iechyd meddwl y gall ffermwyr eu hwynebu. Mae mor bwysig nad yw problemau fel hyn yn cael eu cuddio'n fewnol, ond eu bod yn cael eu trafod yn agored. Hefyd, trafodwyd yr angen am bolisi gan Lywodraeth Cymru sy'n ystyried iechyd meddwl ffermwyr a'i effeithiau posib.
Mwy o Fastiau Ffôn Symudol yn Fuan
Gydol fy nghyfnod fel aelod o'r Senedd, rwyf wedi ymgyrchu dros gysylltiadau band eang a ffonau symudol gwell i Sir Drefaldwyn. Er bod cynnydd da wedi'i wneud, mae mwy o waith i'w wneud eto.
Rwyf wedi cyfarfod â darparwyr y rhwydwaith yn rheolaidd i ofyn am ddiweddariad ar eu cynlluniau ac i bwyso arnyn nhw i flaenoriaethu'r Canolbarth. Cefais sicrwydd ganddyn nhw bod gwaith ar droed i wella cysylltedd Sir Drefaldwyn yn sylweddol. Drwy'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir bydd Sir Drefaldwyn yn elwa ar ddeuddeg safle newydd.
Lansio Cymuned Ganser Cymru Gyfan yn y Senedd
Roeddwn i'n falch o noddi digwyddiad yn y Senedd ym mis Hydref i ddathlu creu Cymuned Ganser Cymru Gyfan.
Mae'n hollbwysig bod y rhai sy'n dioddef o ganser a'u hanwyliaid yn gwybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain gyda'r clefyd ofnadwy hwn.
Rwy'n gobeithio y bydd y gymuned yn golygu y gall dioddefwyr canser gyfrannu gwybodaeth a dealltwriaeth am y modd mae Llywodraethau a'r GIG yn gwneud penderfyniadau am drin cleifion.