Bydd Aelod o’r Senedd dros Sir Drefaldwyn, Russell George AS, yn falch o gynnal Dydd Sir Drefaldwyn yn y Senedd ar ddydd Mawrth 11 Tachwedd 2025, gan ddathlu’r gorau oll o fusnesau, cynnyrch a sefydliadau cymunedol y sir.
Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei drefnu ar y cyd gyda Undeb Amaethwyr Cymru, yn gyfle i arddangos cryfder ac amrywiaeth Sir Drefaldwyn, gan gynnig i Aelodau’r Senedd a gwesteion y cyfle i gyfarfod â cynhyrchwyr lleol, dysgu mwy am ddiwydiannau’r sir, a blasu rhai o’r bwydydd a diodydd gorau sydd gan Ganolbarth Cymru i’w cynnig.
Disgwylir i sefydliadau a busnesau o bob cwr o Sir Drefaldwyn gymryd rhan, gan adlewyrchu ysbryd entrepreneuraidd yr ardal a’i gwreiddiau cymunedol cryf. Gyda’i gilydd, bydd y busnesau hyn yn sicrhau bod Dydd Sir Drefaldwyn yn wledd i’r synhwyrau, gan roi cyfle i Aelodau’r Senedd weld, blasu a mwynhau ansawdd eithriadol cynnyrch lleol. Mae hefyd yn atgof pwysig o’r cyfraniad y mae busnesau bwyd a diod yn ei wneud i’r economi wledig, gan gynnal swyddi, cefnogi cymunedau a hyrwyddo Cymru ar y llwyfan ehangach.
Bydd ymwelwyr â Dydd Sir Drefaldwyn yn mwynhau arddangosfa o fwyd a diod y sir, gyda chyfraniadau gan fusnesau ar draws Sir Drefaldwyn. Bydd eu presenoldeb yn rhoi cyfle i’r mynychwyr flasu rhai o gynnyrch gorau’r sir a gweld o’r newydd ansawdd a chreadigrwydd busnesau lleol.
Yn ogystal â’r dathliadau yn ystod y dydd, bydd Russell George hefyd yn cyd-gynnal digwyddiad arbennig gyda Undeb Amaethwyr Cymru yn y nos i nodi 70 mlynedd ers sefydlu’r Undeb. Bydd y digwyddiad yn dathlu rôl bwysig yr UAC wrth gefnogi ffermwyr Cymru dros saith degawd, a’i gyfraniad parhaus i fywyd gwledig yn Sir Drefaldwyn ac ar draws Cymru.
Anogir busnesau neu sefydliadau sydd am gymryd rhan i gysylltu â Russell George AS.
Wrth wneud sylw, dywedodd Mr George:
“Mae Dydd Sir Drefaldwyn yn gyfle gwych i arddangos y dalent gyfoethog a’r cynnyrch dosbarth cyntaf sydd gan ein sir i’w gynnig yma yn y Senedd.
“Rwy’n falch iawn o allu tynnu sylw at y gorau sydd gan Sir Drefaldwyn i’w gynnig a sicrhau bod ein busnesau a’n sefydliadau’n cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu ar y llwyfan cenedlaethol.
“Rwyf hefyd yn falch iawn o ymuno â’r UAC i ddathlu eu pen-blwydd yn 70 oed. Mae’r Undeb wedi bod yn lais cadarn i ffermwyr yn Sir Drefaldwyn ac ar draws Cymru, ac mae’r garreg filltir hon yn foment bwysig i gydnabod cyfraniad ffermio Cymreig i’n cymunedau ac i’n heconomi.”