Mae’r Aelod o’r Senedd dros Drefaldwyn, Russell George, wedi beirniadu’n chwyrn Gynllun Ffermio Cynaliadwy newydd Llywodraeth Cymru, gan rybuddio ei fod yn peri risg o niwed gwirioneddol i ffermwyr ledled Canolbarth Cymru ac y gall arwain rhai i gwestiynu a allant barhau yn y diwydiant o gwbl.
Yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ragor o wybodaeth, gan gynnwys cyfraddau taliadau a manylion y cyfnod pontio, ar gyfer eu Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFC). Bydd hwn yn brif ffynhonnell cymorth gan y llywodraeth i ffermio yng Nghymru o 2026 ymlaen.
Mae’r CFC, sydd i ddisodli Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE ym mis Ionawr, yn mynnu bod ffermwyr yn cwblhau deuddeg “gweithred gyffredinol” i dderbyn cymorth. Mae’r gweithredoedd yn cynnwys rheoli gwrychoedd, cynnal cynefinoedd, a chynllunio ar gyfer iechyd pridd.
Fodd bynnag, dywed Mr George mai’r mater pennaf yw penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri cymorth y Cynllun Taliadau Sylfaenol (CTS) i 60% o’r lefelau presennol yn 2026, gyda thoriadau pellach yn debygol yn y blynyddoedd i ddod.
Fe gondemniodd Mr George hefyd Llywodraeth Cymru am fethu â chyhoeddi Asesiad Effaith Economaidd ochr yn ochr â’r cynllun.
Er bod y CFC wedi’i fframio fel menter amgylcheddol, dywedodd Mr George na ddylid gorfodi cymunedau gwledig i ddewis rhwng diogelu’r amgylchedd a chynnal eu busnesau. Ychwanegodd hefyd fod y cynllun yn adlewyrchu bwlch cynyddol rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Chymru wledig.
Mae Mr George yn galw ar Lywodraeth Cymru i ryddhau’r Asesiad Effaith Economaidd ar unwaith, ailystyried y gostyngiadau fesul cam mewn cymorth, ac ymgysylltu’n uniongyrchol â ffermwyr yng Nghanolbarth Cymru i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
Wrth wneud sylw, dywedodd Mr George:
“Mae elfennau o’r cynllun y gellir eu croesawu gyda gofal, ond mae rhannau eraill yn drychinebus i ffermwyr yng Nghanolbarth Cymru.
“Bydd y penderfyniad i dorri cymorth y Cynllun Taliadau Sylfaenol (CTS) i 60% o’r lefelau presennol yn 2026, gyda thoriadau pellach i ddod, yn rhoi pwysau enfawr ar sector sydd eisoes dan straen.
“Mae’n annerbyniol cyhoeddi newid mawr i gymorth fferm heb ddarparu unrhyw asesiad o’r effaith economaidd debygol. Sut gall ffermwyr, cymunedau neu lunwyr polisi wneud penderfyniadau gwybodus pan mae’r Llywodraeth yn gwrthod dangos beth fydd y canlyniadau?
“Wrth gwrs, rydym am weld natur yn cael ei diogelu ac ymateb i’r newid yn yr hinsawdd, ond mae’n ymddangos bod dull Llywodraeth Cymru yn gosod mwy o faich ar ffermwyr tra’n torri’r cymorth sydd ar gael. Nid yw hynny’n ddyfodol cynaliadwy i’r diwydiant amaethyddol.
“O ddiffyg gweithredu ar TB buchol, i’r dreth ar ffermydd teuluol, i’r cynllun newydd hwn – mae ffermwyr yng Nghanolbarth Cymru yn teimlo eu bod wedi’u hanwybyddu ac yn cael eu tanbrisio. Mae arnom angen polisïau sy’n gweithio i Gymru wledig, nid dim ond rhai sy’n swnio’n dda ar bapur ym Mae Caerdydd.”