Cysylltu’r Canolbarth – Band Eang a Symudol

Gall 85% o drigolion Sir Drefaldwyn elwa ar wasanaeth band eang cyflym iawn a gall bron i chwarter elwa ar gyflymder gwibgyswllt drwy gysylltiad ffibr i'r adeilad. Mae hyn yn welliant mawr ar y sefyllfa o’i gymharu â’r adeg hon y llynedd. Ond mae fy ffocws yn parhau i fod ar gyrraedd 100%. I lawer o gymunedau ledled Sir Drefaldwyn, mae cysylltedd band eang yn parhau i fod yn freuddwyd bell ac rwy’n cydymdeimlo â rhwystredigaeth y rhai sydd heb wasanaeth digonol.

Mae cyfran uwch o adeiladau yn Sir Drefaldwyn yn dal i fod heb fynediad at ‘fand eang boddhaol’ 10 megabit yr eiliad o gymharu â'r cyfartaledd ar gyfer Cymru, ac yn rhannau gwledig Sir Drefaldwyn, mae'r bwlch rhwng y rhai sydd â gwasanaeth da a’r rhai sydd heb yn fwy fyth.

Bellach mae band eang yn cael ei ystyried y pedwerydd cyfleustod, mae'n rhan hanfodol o fywyd modern ac nid yw bellach yn beth moethus sy’n ‘braf ei gael’. Mae hefyd yn hanfodol er mwyn sicrhau economi ffyniannus yng nghanolbarth Cymru, felly byddaf yn

parhau i ofyn cwestiynau treiddgar i Lywodraeth Cymru ac Openreach nes y bydd pawb yn Sir Drefaldwyn yn gallu elwa o'r un band eang cyflym y mae pobl mewn ardaloedd mwy trefol yng Nghymru yn ei fwynhau ac yn ei gymryd yn ganiataol. Os hoffech imi wneud ymholiadau ar eich rhan ynghylch yr opsiynau sydd ar gael ichi, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy e-bostio russell.george@senedd.cymru

Rhaid ei fod yn destun siom mawr bod rhai cymunedau wedi cael eu gadael ar ôl yn dilyn diwedd cam 1 o Superfast Cymru, ac mae'n rhwystredig dros ben i etholwyr weld ceblau ffibr yn hongian o bolion ychydig fetrau i ffwrdd o'u cartrefi heb unrhyw ffordd i gael mynediad at wasanaeth band eang ffibr. Dylid mynd i’r afael â hyn fel mater o frys.

Credaf hefyd y dylid bod wedi trosglwyddo'n ddi-dor o gam un i gam dau o’r cynllun. Mae'r oedi hwn, ynghyd â'r diffyg cymharol o ran gwybodaeth benodol ynglŷn â’r amserlen ar gyfer uwchraddio band eang ar wasanaeth gwirio band eang Llywodraeth Cymru ac Openreach, wedi ychwanegu at rwystredigaeth pobl sy'n parhau i fod heb unrhyw fand eang o gwbl, heb sôn am fand eang cyflym.

Wrth edrych at y dyfodol, hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth yn chwarterol ynglŷn â nifer yr adeiladau sydd wedi’u cysylltu o dan y cynllun. Hoffwn hefyd weld newid i’r dull gweithredu, ac i gylch gorchwyl rhaglen Superfast Cymru er mwyn gorfodi Openreach i flaenoriaethu cysylltedd digidol yr adeiladau hynny: 1) na all gael cysylltiad band eang boddhaol o gwbl; 2) y rhai na allant gael band eang cyflym iawn 30 Mb yr eiliad sy’n cyrraedd safonau Mynediad y Genhedlaeth Nesaf; ac yna i'r adeiladau sy'n weddill, yn hytrach na dewis y targedau sy’n haws eu cyflawni. Byddai hyn yn sicrhau y bydd yr adeiladau hynny sydd â’r angen mwyaf i gael eu huwchraddio yn cael cysylltiad digidol boddhaol cyn y rhai sydd eisoes yn cael gwasanaeth band eang digonol ac y byddai eu helpu yn gymharol hawdd.

Yn yr adroddiad hwn rydw i hefyd yn rhannu ambell ddolen ddefnyddiol.

Mae tudalen wirio ar-lein ar gael fel y gall pobl weld a yw eu cartref neu fusnes yn mynd i gael ei ystyried yn rhan o’r rhaglen uwchraddio yn https://www.openreach.com

Roeddwn hefyd eisiau amlinellu'r opsiynau sydd ar gael i adeiladau nad ydynt wedi eu cynnwys yng ngham diweddaraf y rhaglen. Mae manylion y rhain, fel cynllun Allwedd Band Eang Cymru, a thalebau ar gyfer busnesau, ar gael yma: https://llyw.cymru/cyflumu/rhowch-hwb-ich-band-eang

Efallai y bydd gan breswylwyr ddiddordeb hefyd mewn Partneriaeth Ffibr Gymunedol lle mae Openreach yn gweithio gyda grŵp lleol sy'n cynrychioli dau adeilad neu fwy i ddod â band eang cyflym iawn i ardal. Lle bo modd, mae Openreach yn dwyn ynghyd gyllid gan Awdurdodau Lleol, cynlluniau talebau'r Llywodraeth a grantiau eraill i helpu i wneud pethau'n fforddiadwy, ac mae Openreach yn cyfrannu tuag at y gost hefyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael: https://www.openreach.com/fibre-broadband/community-fibre-partnerships

Hefyd, fel rhan o raglen Cysylltedd Gigabit Gwledig Llywodraeth y DU, lansiwyd Cynllun Talebau Gigabit sy'n darparu cymorth cyllido ar gyfer cysylltedd cyflym iawn i ardaloedd gwledig. Mae busnesau a thrigolion yn rhai o'r lleoedd mwyaf pellennig yn y DU, gyda chyflymder band eang o lai na 30 megabit yr eiliad, yn gymwys i gael talebau gwerth hyd at £3,500 fesul busnes bach/canolig a £1,500 fesul cyfeiriad preswyl. Gall y talebau ariannu cynllun Partneriaeth Ffibr Gymunedol naill ai’n rhannol neu’n llawn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.gov.uk/government/publications/rgc-programme-key-information

 

Ffonau Symudol

O ran darpariaeth symudol, mae gwasanaethau llais gan o leiaf un gweithredwr ar gael mewn 96% o Sir Drefaldwyn, ond mae'r argaeledd gan bob gweithredwr yn sylweddol is ar 68%. Mae argaeledd gwasanaethau 4G gan o leiaf un gweithredwr yn 87% ac mae argaeledd 4G gan y pedwar gweithredwr yn gostwng i 49%. Serch hynny, mae’r ddarpariaeth symudol yn Sir Drefaldwyn yn parhau i fod yn is na’r cyfartaledd yng Nghymru a'r DU ac rwy'n cynnal trafodaethau parhaus gyda'r holl ddarparwyr symudol, gan dynnu sylw at feysydd lle nad oes signal symudol o gwbl. Mae fy nhrafodaethau diweddaraf wedi bod gyda'r gweithredwr symudol EE. Mae cwsmeriaid EE ar draws yr ardal, a oedd â signal da ar un adeg, bellach yn darganfod bod ganddynt wasanaeth gwael neu ddim gwasanaeth o gwbl.

Er bod yn rhaid i weithredwyr ysgwyddo rhywfaint o'r baich o wasanaethu rhai o'r cymoedd a'r cymunedau anoddaf eu cyrraedd, bydd angen ymyrraeth gan y sector cyhoeddus, o ran newid polisïau a rhoi cefnogaeth wleidyddol. Cynllun Gweithredu Fffonau Symudol Llywodraeth Cymru, sydd bellach wedi’i sefydlu ers tair blynedd. Yn fy marn i, nid oes unrhyw ymrwymiadau pendant yn y cynllun, ac yn anffodus, ymddengys fod yr awydd i gyflawni’r cynllun hwnnw wedi diflannu cyn i unrhyw un o'r cynigion gael eu rhoi

Yn ystod yr un cyfnod hwnnw, rydym wedi gweld polisi cynllunio newydd a chanllawiau newydd yn Lloegr a'r Alban sydd wedi helpu o ran paratoi ar gyfer cyflwyno 5G a chyflymu'r broses ar gyfer mastiau ffôn symudol newydd mewn lleoliadau priodol; cynllun peilot ar gyfer rhyddhad ardrethi annomestig; lansiad prosiect buddsoddi cyfalaf a ariennir yn gyhoeddus yn yr Alban; a chytundeb wedi'i ddiweddaru â National Parks England sy'n cydnabod pwysigrwydd cysylltedd digidol i preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr yr ardaloedd gwledig sensitif hyn.

Mae'r llesgedd gwleidyddol hwn yng Nghymru o ran creu'r amodau rheoleiddiol, gwleidyddol a masnachol sydd eu hangen i weithredwyr ffonau symudol fuddsoddi mewn cysylltedd digidol yn rhoi’r canolbarth dan anfantais bellach. Yn 2020, felly, byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r ysgogiadau polisi datganoledig sydd ar gael iddynt ac ymrwymo i ddyddiad cyhoeddus ar gyfer cyflawni’r y diwygiadau pwysig hyn fel nad yw’r canolbarth yn cwympo ymhellach y tu ôl.

Yn ddiweddar, cynhaliais arolwg ar-lein am y ddarpariaeth ffonau symudol yn Sir Drefaldwyn ac rwy'n ddiolchgar i'r rhai a gymerodd ran. Dywedodd 45% o'r ymatebwyr eu bod yn gwsmeriaid EE a 15% eu bod yn gwsmeriaid Vodafone, ac roedd y gweddill yn defnyddio darparwyr eraill. Dywedwyd bod y ddarpariaeth yn eu cartrefi ac wrth fynd o le i le yn dueddol o fod yn wael, gyda 53% o'r ymatebwyr yn cwyno am wasanaeth gwael iawn neu ddiffyg gwasanaeth yn eu hardal, a dim ond 15% yn cadarnhau bod eu signal symudol yn rhagorol neu'n dda.

Ym mis Hydref 2019, cyhoeddodd y pedwar gweithredydd rhwydwaith symudol yn y DU a Llywodraeth y DU gynnig gwerth £1 biliwn i adeiladu Rhwydwaith Gwledig a Rennir a fyddai’n ymestyn y ddarpariaeth 4G symudol i 95% o dir y DU.

Er mwyn helpu i gyrraedd 95%, bydd y cynnig Rhwydwaith Gwledig a Rennir yn cael ei gyflwyno drwy ganolbwyntio ar ddileu unrhyw fannau lled-ddigyswllt (h.y. lle mae darpariaeth gan un neu fwy o weithredwyr, ond nid pob un). Bydd y pedwar gweithredydd rhwydwaith symudol, sy'n rhannu seilwaith ei gilydd, yn sicrhau bod hyn yn digwydd.

Bydd seilwaith newydd a ariennir yn gyhoeddus, a fydd yn cael ei rannu gan bob un o'r pedwar gweithredydd, hefyd yn cael ei adeiladu mewn rhannau o'r wlad lle nad oes darpariaeth ar hyn o bryd (mannau digyswllt).

Mae byd diwydiant a Llywodraeth y DU bellach wedi dod i gytundeb ffurfiol ar gyfer y dyfodol agos, a dylai hyn fod yn ddatblygiad cadarnhaol ar gyfer y ddarpariaeth symudol yma yn Sir Drefaldwyn.