Gwasanaethau Iechyd yng Nghanolbarth Cymru

Mae GIG Cymru wedi bod yn un o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru ers dau ddegawd bellach. Am bob punt sy'n cael ei gwario ar glaf yn Lloegr, mae Llywodraeth Cymru yn cael £1.20 i'w wario ar glaf yma, felly does dim esgus dros danariannu. Mae cleifion o Gymru yn aros yn hwy am brofion, yn hwy am driniaeth ac yn aros yn hwy mewn adrannau brys nag y mae pobl dros y ffin yn Lloegr. Er ein bod yn dibynnu cymaint ar wasanaethau iechyd dros y ffin yn Swydd Amwythig, Llywodraeth Cymru sy’n parhau’n bennaf cyfrifol am y gofal o gleifion o Gymru.

Mae rhai preswylwyr yma yng Ngogledd Powys yn dibynnu ar Ysbyty Maelor Wrecsam, sydd fel pob ysbyty arall yng Nghymru; hynny yw, mae ganddo staff rhyfeddol, ymroddedig a gweithgar ond mae’n orlawn, ac heb ddigon o adnoddau, ac o ganlyniad i hynny nododd ffigurau perfformiad ei Adran Damweiniau ac Achosion Brys gwaethaf erioed gydag ychydig dros 49 y cant o'i gleifion yn treulio llai na 4 awr yn yr adran achosion brys o gymharu â tharged o 95 y cant - y gwaethaf yn y DU a'r gwaethaf ar gofnod.

Un enghraifft yn unig yw hon, ac mae'n rhaid mynd i'r afael â’r bwlch atebolrwydd hwn yn y GIG yng Nghymru. Mae gen i gynllun pum pwynt ar gyfer dyfodol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Credaf y canlynol:

1. dylai'r system o benodi i fyrddau iechyd gan Weinidogion Cymru ddod i ben a dylid cyflwyno comisiynwyr iechyd etholedig sy'n atebol i'r cyhoedd yn uniongyrchol ym mhob ardal bwrdd iechyd y maent yn ei gwasanaethu.

2. dylai dyletswydd fod ar holl staff y GIG i ddatgelu a chofnodi pan aiff pethau o chwith, gan gynnwys darparu manylion i uwch reolwyr a'u nodi wrth yr arolygiaeth gofal iechyd.

3. dylid cael Cyngor Arweinyddiaeth GIG Cymru, y byddai’n ofynnol i bob uwch reolwr a swyddog gweithredol gofrestru ag ef. Byddai’r rhai y canfyddir eu bod yn gyfrifol am fethiannau difrifol yn y GIG yn cael eu hystyried yn anghymwys, yn cael eu tynnu oddi ar y gofrestr a'u hatal rhag gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

4. byddai’r arolygiaeth gofal iechyd yn cael ei hailwampio'n radical i'w gwneud yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru, a bod pwerau newydd yn cael eu rhoi iddi ymyrryd yn gyflym pan fydd problemau'n cael eu nodi. Byddwn hefyd yn treblu cyllideb yr arolygiaeth, er mwyn ehangu ei rhaglen o arolygiadau dirybudd ac o sicrhau bod gofynion ar gyfer gwella yn cael eu gweithredu.

5. dylid amddiffyn annibyniaeth a gallu Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru, drwy ddileu gallu Gweinidogion Cymru i benodi eu haelodau, a chynyddu eu cyllid i gefnogi eu gwaith fel cyrff gwarchod cleifion, a darparu rhagor o gefnogaeth i gleifion sy'n codi pryderon a chwynion am y gwasanaeth iechyd.

 

Gwasanaeth Brys newydd yn Amwythig

Gan droi at y ddarpariaeth leol o ofal iechyd i bobl Powys, croesewir penderfyniad Llywodraeth y DU i gymeradwyo cynlluniau i adeiladu cyfleuster gwasanaethau argyfwng (A&E) newydd yn Amwythig, a ddaw yn dilyn blynyddoedd o drafodaethau ac ymgyrchu dros wasanaethau ysbyty Swydd Amwythig.

Yn 2019, rhoddwyd caniatâd i gynlluniau i drawsnewid gwasanaethau ysbyty ar gyfer yr hanner miliwn o drigolion yng Nghanolbarth Cymru, Swydd Amwythig a Telford.

Fodd bynnag, heriodd Cyngor Telford a Wrekin y broses o wneud penderfyniad a'r argymhellion. Cyfeiriodd y mater yn ffurfiol at Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, a ofynnodd wedyn i banel annibynnol ymchwilio i'r mater ymhellach cyn i benderfyniad gael ei wneud.

Roedd y Bwrdd "Parod at y Dyfodol" eisoes wedi ystyried canlyniad ymgynghoriad cyhoeddus ac adborth yn ei sgîl; asesiadau effaith ar y gwahanol opsiynau ynghyd â chanfyddiadau adolygiad annibynnol a chafodd yr Ysgrifennydd Iechyd gyngor y panel annibynnol y dylai'r Bwrdd "Parod at y Dyfodol" fwrw ymlaen â'r ganolfan driniaeth frys newydd yn Amwythig ochr yn ochr â gwelliannau sylweddol o ran mathau eraill o ofal.

Mae’r datblygiad hwn yn cynrychioli buddsoddiad o dros £300 miliwn mewn gofal critigol ac argyfwng o'r radd flaenaf yn Amwythig.

Bydd Ysbyty Brenhinol Amwythig nawr felly’n dod yn ganolfan Gofal Brys newydd a bydd Ysbyty'r Dywysoges Frenhinol yn Telford yn dod yn ganolfan Gofal wedi'i Gynllunio, a bydd canolfan Gofal Brys 24 awr yn y ddau ysbyty.

Bydd hyn yn gadarnhaol i ni yng Nghanolbarth Cymru oherwydd bydd gofal iechyd brys sy’n achub bywydau wedi'i leoli yn Amwythig, sef gwasanaeth mwy sylweddol nag adrannau Damweiniau ac Achosion Brys arferol gyda'r buddsoddiad mawr a ddaw yn ei sgîl, ac hefyd bydd gwasanaeth cleifion mewnol dan arweiniad meddygon ymgynghorol menywod a phlant yn dychwelyd i Amwythig.

Rwyf o’r farn ei bod hefyd yn bwysig nodi y bydd y ddau ysbyty yn parhau i ddarparu gwasanaethau cleifion allanol i blant ac oedolion, a phrofion diagnostig, yn ogystal â Chanolfan Gofal Brys 24 awr, Uned Arennol Achosion Dydd ac uned dan arweiniad Bydwragedd.

Mae hefyd yn hanfodol bod rhywfaint o ofal wedi'i gynllunio yn cael ei ddarparu'n lleol yn ein hysbytai cymuned yn Llanidloes, y Drenewydd, y Trallwng a Machynlleth, er mwyn atal yr angen i deithio y tu allan i'r sir i weld meddyg ymgynghorol. Byddaf yn awyddus i ddeall sut y bydd Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i gyflawni hyn yn y dyfodol.

Serch hynny, mae'r penderfyniad hwn yn garreg filltir sy'n nodi'r amser pan mae Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford wedi dechrau wynebu ei heriau a gwneud y diwygiadau angenrheidiol a fydd yn galluogi iddi ddenu meddygon ymgynghorol a chlinigwyr o'r radd flaenaf. Rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr gan y penderfyniad hwn a fydd, gobeithio, yn caniatáu i waith adeiladu ddechrau ar safle Amwythig ar gyfer Canolfan Triniaeth Frys newydd.

 

Ysbyty Cymuned Bro Ddyfi

Yn ystod yr Hydref, cyfarfûm â Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a chefais y sicrwydd eu bod, er gwaethaf heriau technegol, wedi ymrwymo i waith i wella Ysbyty Cymuned Bro Ddyfi ac mae'r bwrdd iechyd wedi rhoi gwybod i mi eu bod yn disgwyl dechrau gweithio ar y safle eleni. Bydd y cynllun hwn yn welliant mawr i'r cyfleusterau yn yr ysbyty, ond rwy'n teimlo na fydd pobl yn credu y bydd ailddatblygiad Ysbyty

Cymuned Bro Ddyfi yn digwydd nes eu bod, ymhen hir a hwyr, yn gweld adeiladwyr ar y safle. Mae’r newidiadau i'r amserlen yn creu rhwystredigaeth ac rwy'n awyddus i weld cynnydd ar y cynllun pwysig hwn. Byddaf hefyd yn codi'r mater hwn eto gyda Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd.

 

Cyfleuster Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Drenewydd

Mae'n newyddion i'w groesawu bod y Drenewydd i dderbyn £2.5 miliwn o gyllid gan Gronfa Drawsnewid £100 miliwn Llywodraeth Cymru i gefnogi ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r Gronfa wedi'i chreu i gefnogi datblygiad modelau iechyd a gofal cymdeithasol di-dor newydd fel rhan o gynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sef Cymru Iachach.

Bydd yr arian hwn o gymorth i ddatblygu cyfleuster newydd o'r radd flaenaf yn ardal y Drenewydd i gynnig rhagor o wasanaethau yn lleol ac i ddod â'r dechnoleg a'r hyfforddiant ddiweddaraf i Ganolbarth Cymru.

Swm cychwynnol yw’r cyllid a nodwyd yn y cyhoeddiad, a bydd yn rhaid rhoi rhagor o gyllid atynt wrth i'r prosiect a'r cyfleuster newydd fynd ymlaen.

Rwyf wedi bod yn codi’r angen am gyfleuster iechyd newydd gyda Phrif Weinidog blaenorol Cymru a’r Prif Weinidog presennol, ac ni chynhelir unrhyw gyfarfod rhyngof fi â Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys heb drafodaeth am gyfleuster newydd wedi’i leoli yn y Drenewydd.

Mae'r ffaith bod y cyllid a'r prosiect hwn bellach am gael eu gwireddu yn newyddion da, ond byddwn hefyd yn annog pwyll, gan y bydd y gwaith cynllunio a'r adeilad newydd yn cymryd rhai blynyddoedd i’w cwblhau. Yn y cyfamser mae'n rhaid i ni sicrhau y caiff y gwasanaeth meddygon teulu a’r gwasanaeth ysbyty cyfredol ei gefnogi a'i gryfhau.

Rhywle yng nghanol y dref fyddai’r lleoliad cywir i’r ysbyty er mwyn helpu i adfywio canol y dref ymhellach, ond mae angen i'r cynigion hefyd ddangos y bydd y cyfleuster newydd yn helpu i gryfhau cyfleusterau iechyd mewn trefi eraill yng Ngogledd Powys.

Rwyf hefyd yn credu ei bod yn bwysig bod cynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd sydd drws nesaf i’r cyfleuster iechyd yn cael eu datblygu ar yr un pryd, ac mae angen i ni sicrhau bod gan adeilad yr ysgol newydd ddigon o le, ac rwy'n awyddus i’r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd ddarparu manylion am y posibilrwydd o adeiladu'r ysgol newydd a'r cyfleuster gofal iechyd, fel ei gilydd, cyn gynted â phosibl.

Yn y cyfamser a thra ein bod yn aros am y cyfleuster newydd hwn, byddaf yn parhau i lobïo am welliannau i gefnogi'r gwasanaethau iechyd presennol yn ein hardal.

 

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn darparu adnoddau ychwanegol i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i sicrhau nad yw cleifion sy'n dioddef o gyflyrau meddygol difrifol, gan gynnwys strôc, mewn perygl o niwed diangen.

Mae’r staff ambiwlans yn gweithio'n galed iawn, ac yn darparu cefnogaeth ragorol, yn aml mewn amgylchiadau anodd wrth iddynt ymdrechu i ddarparu'r gofal gorau posibl i gleifion, ond yn syml, nid ydyn nhw'n cael adnoddau digonol gan Lywodraeth Cymru i wneud eu gwaith yn effeithiol.

Mae adroddiadau bod pobl ym Mhowys sydd â chyflyrau meddygol difrifol, fel strôc, yn aros yn rhy hir am ymateb i alwad Ambr am ambiwlans oherwydd diffyg targedau amser ymateb ambiwlans yng Nghymru ar gyfer y categori hwn o gyflwr meddygol. Mae hyn yn tanlinellu pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n cael adnoddau ychwanegol wedi’u darparu gan Lywodraeth Cymru - o ran nifer yr ambiwlansys ar y ffordd yma yng Nghanolbarth Cymru ond hefyd o ran cynnydd yn nifer y parafeddygon a'r staff meddygol.

Mae diogelwch cleifion mewn perygl, a byddaf fi’n parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i wrando ar gyngor arbenigol a galwadau gan y cyhoedd sydd, yn haeddiannol, yn bryderus, nes bod y mater difrifol iawn hwn yn cael sylw, ac nes y caiff amseroedd targed eu sefydlu ar gyfer ymateb i alwadau Ambr.

 

Poen Cronig

Roedd cau'r gwasanaeth poen cronig yn Ysbyty Orthopedig Croesoswallt yn 2019 yn siom fawr i lawer o fy etholwyr yn Sir Drefaldwyn a oedd yn dibynnu ar y gwasanaeth poen cronig a ddarparwyd yn Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt.

Roedd y gwasanaeth – i leihau dioddefaint a gwella ansawdd bywyd y rhai sy'n dioddef o gyflyrau poen cronig - yn gwasanaethu 400 o gleifion yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru; gadawyd llawer ohonyn nhw heb gymorth ar ôl cael braidd ddim gwybodaeth am eu darpariaeth rheoli poen yn y dyfodol ar ôl cau'r gwasanaeth.

Ar lawer ystyr, mae rheoli poen cronig yn wasanaeth anghofiedig. Mae’n wynebu nifer o heriau gweithredol a chlinigol felly rwy'n obeithiol y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Glymblaid Polisi Poen Cronig ac eraill sydd â diddordeb yn y maes hwn i gryfhau'r ddarpariaeth gyffredinol ar gyfer rheoli poen cronig yng Nghymru.

 

Gofal Lliniarol

Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn cymryd camau radical i helpu i wella mynediad i hosbisau a gofal lliniarol i bawb ledled Cymru.

Agorwyd Ystafell Gofal Lliniarol Llanidloes yn swyddogol ym mis Mai 2018 ac fe’i hariannwyd yn llawn gan Gynghrair Cyfeillion Llanidloes a’r gymuned leol.

Hoffwn weld cydweithredu effeithiol rhwng y GIG a'r sector elusennol a hoffwn weld hosbisau a chanolfannau gofal lliniarol yng Nghymru yn cael mwy o gefnogaeth statudol gan Lywodraeth Cymru i'w galluogi i barhau i ddarparu’r un lefel o wasanaethau a cymorth i bobl sy’n tynnu at ddiwedd eu hoes.

O ystyried y pwysau presennol yng Nghymru ar y GIG a nifer y gwelyau ysbyty sydd ar gael, mae hosbisau yn gyfle i bobl gael y cymorth sydd ei hangen arnyn nhw y tu allan i amgylchedd ysbyty, ac yn ôl eu dewis eu hunain.

Felly, rwyf o’r farn y dylai Byrddau Iechyd Lleol ddatblygu perthynas waith agos â darparwyr hosbisau er mwyn i bobl allu cael mynediad at becyn gofal cyfannol. Mae angen i ni weld mwy o arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru i ddarparu dull mwy rhagweithiol i helpu hosbisau ac ystafelloedd gofal lliniarol gwrdd â’r heriau cyllido a gweithredol yn y dyfodol.

Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwir werth y gwasanaethau y mae hosbisau'n eu darparu i bobl sydd angen gofal diwedd oes, eu teuluoedd a'u cymunedau

yn cael ei gydnabod trwy ddefnyddio ei chyllideb ddrafft sydd ar y gweill i gynyddu ei chymorth i hosbisau ledled Cymru fel ein bod ni'n dod yn wlad dosturiol.