Addysg ac Ymgyrch am Bolisi Trafnidiaeth Ysgol teg

Dyfodol Addysg ym Mhowys

Diweddarwyd: Ionawr 2024

Mae Cyngor Sir Powys sy'n cael ei redeg gan y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Lafur yn cynnig newid categori iaith Ysgol Bro Caereinion i Ysgol Cyfrwng Cymraeg erbyn Medi 2025. Mae'r Cyngor wedi cynnig cyflwyno newidiadau gam wrth gam fesul blwyddyn gan ddechrau gyda'r Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2025. Mae gennyf bryderon difrifol na chafwyd ymgynghoriad digonol â rhieni a'r ysgolion cynradd sy'n cyflenwi Ysgol Bro Caereinion cyn i'r cynigion ddod i'r fei. 

Hefyd, ni fydd plant sydd am ddysgu trwy gyfrwng y Saesneg yn y dalgylch yn gallu derbyn cludiant ysgol am ddim i fynychu'r ysgol uwchradd agosaf sy’n addysgu trwy gyfrwng y Saesneg - mae hyn yn anghywir, ac rwyf wedi codi'r pryder hwn yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog Addysg Llafur.

Er gwaethaf ymrwymiadau clir iawn a wnaed cyn etholiad Cyngor Sir Powys ym mis Mai 2022 i beidio â chau ysgolion gwledig, mae'r Cyngor dan law'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyflwyno cyfres o gynigion i gau sawl ysgol wledig.

Mae bwriad i adolygu dalgylch Llanfyllin ar gyfer addysg gynradd, ac mae cynigion cau ysgolion wedi eu cyhoeddi hefyd ar gyfer Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn, Ysgol Bro Cynllaith ac Ysgol Brynhafren. 

Bu cyfle i gyfrannu at ymgynghoriad diweddar ar gau ysgol Llangedwyn, mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau bellach a bydd yn cael ei adolygu gan y Cyngor yn awr. 

Mae Cabinet Cyngor Powys wedi penderfynu y bydd adolygiad o ddalgylch Llanfyllin yn mynd ymlaen i'r cam nesaf. Yn anffodus, nid yw'r cynigion yn mynd law yn llaw ag adeiladu ysgolion newydd yn yr ardal, a oedd yn rhan o gynigion blaenorol. Rwy'n credu'n gryf mai dim ond ar y cyd â chynlluniau ar gyfer adeiladu ysgolion newydd y dylid cynnal adolygiad o ddalgylch Llanfyllin.

Ar ben hynny, ystyriwyd cau dwy ysgol yn y Drenewydd - Maesyrhandir a Threowen - a chynyddu maint ysgol newydd Calon y Dderwen er mwyn creu lle i ragor o ddisgyblion. Penderfynodd Cyngor Sir Powys beidio cau ysgol Maesyrhandir, ond maen nhw'n dal i fwrw ymlaen â'r cynnig i gau ysgol Treowen. Mae gen i bryderon difrifol gyda'r cynnig hwn gan ei bod yn bosib na fydd digon o le ar safle Ysgol Calon y Dderwen ar gyfer plant ychwanegol. Efallai na fydd yr ardal yn gallu ymdopi gyda thraffig ychwanegol adeg gollwng a chasglu'r plant o’r ysgol, ac mae cryn dipyn yn fwy o gartrefi’n debygol o gael eu hadeiladu yn ardal Treowen. Credaf fod cynigion y cyngor yn annoeth. Rydw i a Craig Williams AS wedi cyfarfod â rhieni a thrigolion Treowen.

Rwyf wedi pwysleisio, ac yn dal ati i ddweud bod rhaid i ymgynghoriadau fod yn ddilys a bod rhaid gwrando’n ystyrlon ar safbwyntiau’r holl drigolion cyn gwneud penderfyniadau, gan gynnwys sylwadau gan drigolion nad ydynt yn gallu cymryd rhan mewn cyfarfodydd electronig/o bell. Mae'n bwysig bod Cyngor Sir Powys yn neilltuo amser i wrando ar bob rhiant a chymuned a allai gael eu heffeithio gan gynigion, yn enwedig sicrhau bod eu cynigion yn mynd i'r afael ag anghenion pob dysgwr, gan gynnwys y disgyblion hynny sy'n ffynnu mewn ysgolion bach.

Rwyf wedi trefnu cyfarfodydd gyda rhieni o ysgolion sydd dan ystyriaeth i’w cau ac wedi siarad â llawer o drigolion yn fy  nghymorthfeydd. Roeddwn i’n falch o helpu i sicrhau bod pryderon trigolion a rhieni’n cael eu clywed yn ystod ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgol yr Ystog. Wnaeth y cyngor ddim bwrw ymlaen â'r cynnig i gau'r ysgol hon. Mae hyn yn dangos y gall cynigion newid a'i bod hi'n bwysig cymryd rhan mewn ymgynghoriadau a mynychu cyfarfodydd lleol.

Ond yn y pen draw, Cyngor a Chynghorwyr Sir Powys biau'r gair olaf o ran cynigion ad-drefnu ysgolion. Byddaf yn parhau i annog pobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau a byddaf yn ymateb i'r Awdurdod Lleol fy hun yn seiliedig ar fy safbwynt i, a'r safbwyntiau a gyflwynwyd i mi, ond byddaf yn parhau i godi materion penodol ar gynigion wrth i bryderon ddod i’r fei.

Derbyniadau i Ysgolion a Chludiant o'r Cartref i'r Ysgol

Wrth i gynigion ad-drefnu ysgolion y Cyngor fynd rhagddynt, rwyf wedi galw ar y Cyngor i newid eu polisi cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol – nid yw’r polisi presennol yn deg nac yn rhesymol. Mae mwy o rieni wedi cysylltu â mi ers i'r Cyngor wrthod darparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol mewn sawl ardal. Dylai'r Cyngor fod yn llawer mwy hyblyg yn fy marn i, yn enwedig gyda'r pellteroedd ymylol dan sylw, neu sicrhau dewis rhesymol o dderbyn addysg yn newis iaith y rhiant/disgybl, neu i osgoi gwahanu brodyr a chwiorydd. Rwyf wedi galw ar y Cyngor i ailystyried ei benderfyniadau ac i fod yn fwy parod i ddarparu cludiant am ddim i ddewis ysgol y plentyn/rhiant.

Mewn rhai achosion, mae rhieni wedi ennill apêl. Fodd bynnag, o’m safbwynt i, nid yw’r Cyngor yn gweithredu agwedd gyson at hyn. Mae gan rieni rhai ardaloedd fwy o ddewis na rhieni mewn ardaloedd eraill ac mewn rhai achosion unigol mae’r Cyngor wedi gwyrdroi ei benderfyniad gwreiddiol, ond heb wneud hynny i eraill sydd ag amgylchiadau tebyg. Yn anffodus, mae hyn yn golygu bod yna berygl y bydd plant yn gorfod mynd i ysgol wahanol i’w brawd neu chwaer neu y bydd rhiant yn gorfod teithio y tu ôl i fws i fynd ag un plentyn i’r ysgol ar wahân. Mae'n ymddangos bod hyn yn groes i weledigaeth y Cyngor i ddod yn 'Bowys wyrddach’.

Mae pryderon wedi’u codi gyda mi am y broses o wneud ceisiadau i dderbyn plant i ysgolion, lle mae'r Cyngor wedi gwrthod ceisiadau i fynychu rhai ysgolion cynradd ac uwchradd o ddewis. Daw hyn yn dilyn newid mewn dalgylchoedd ar gyfer ysgolion bwydo a newid yn nifer y lleoedd mewn rhai ysgolion. Unwaith eto, rwyf wedi galw ar y Cyngor i ailystyried ei benderfyniadau ar wrthod derbyn disgyblion penodol, yn enwedig pan fydd y Cyngor unwaith eto wedi gwrthdroi ei benderfyniad gwreiddiol i rai ond nid i eraill sydd ag amgylchiadau tebyg. Mae problem capasiti'n mynd i achosi mwy o bryder gan fod rhai ysgolion eisoes yn dangos arwyddion o fod yn rhy llawn, problem a allai gynyddu ymhellach gyda'r galw yn y blynyddoedd i ddod.

O ran y dylanwad y gallaf ei gael, byddaf yn parhau i godi materion gyda’r arweinwyr gwleidyddol perthnasol er mwyn cefnogi achosion unigol lle mae angen i’r Cyngor fod yn fwy hyblyg yn fy marn i. Byddaf yn parhau i dynnu sylw fy nghydweithwyr yn Senedd Cymru at y pryderon hyn. Rwy’n siarad yn rheolaidd â chydweithwyr sy’n gynghorwyr ar y Cyngor sy’n rhannu fy mhryderon ac wedi eu cefnogi wrth iddynt gyflwyno cynnig i Gyngor Powys, yn galw ar arweinwyr y cyngor i adolygu a diweddaru eu polisi fel ei fod yn hyblyg ac yn cefnogi dewis rhieni (yn enwedig pan nad oes cost ychwanegol i’r cyngor). Rwy'n falch bod Cynghorwyr wedi gwneud hyn ac wedi pleidleisio'n unfrydol o blaid hynny. Nawr mae angen i'r Cabinet sicrhau bod y polisi'n cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r cynnig a basiwyd gan y Cyngor llawn.