Yr Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well

Y llynedd, agorwyd ffordd osgoi'r Drenewydd. Roedd hwn yn achlysur pwysig i Ganolbarth Cymru. Dros 70 mlynedd yn ôl yr awgrymwyd gyntaf fod angen am ffordd osgoi. Yn ystod y saith degawd diwethaf, mae'r ffordd osgoi wedi bod ar yr agenda ac oddi ar yr agenda ar wahanol adegau. Credaf fod gan y ffordd osgoi'r potensial i drawsnewid economi trefi fel y Drenewydd, Llanidloes a Machynlleth.

Dechreuodd yr ymgyrch am ffordd osgoi yn y 1940au. Ym 1949, cyhoeddodd Cyngor Sir Drefaldwyn hysbyseb ar y pryd a oedd yn galw ar fechgyn ysgol 16 oed neu drosodd i ystyried mynd ati i gofnodi nifer y cerbydau sy'n teithio trwy'r dref rhwng dydd Gwener 2 Medi a dydd Sul 4 Medi 1949 mewn ymdrech i asesu'r angen am Ffordd Osgoi'r Drenewydd.

Fe ddylen ni dalu teyrnged i'r nifer fawr o bobl, yn enwedig y rhai nad ydyn nhw gyda ni mwyach, sydd wedi ymgyrchu dros ffordd osgoi dros y saith degawd diwethaf gan gynnwys y 30 o bobl hynny a ymunodd â mi i gyflwyno deiseb o 10,000 o lofnodion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn ôl ym mis Mawrth 2011.

Mae'r ffordd osgoi ei hun yn cynnwys nifer o strwythurau mawr, gan gynnwys 4 cylchfan newydd a 7 prif bont. Mae cwblhau prosiect mawr fel hwn o fewn 3 blynedd o'r dechrau i'r diwedd yn anhygoel ynddo'i hun. Cafwyd cefnogaeth eang i'r prosiect hwn gan y gymuned ac roedd diddordeb mawr yn y gwaith adeiladu.

Roeddwn yn arbennig o falch o ymddiddori yn natblygiad y mwyaf o'r strwythurau newydd, y bont dros ganol ffordd Dolfor. Mae'r bont yn strwythur concrit aml-rychwant, gyda dau bier a dau ategwaith. Mae’n 90 metr o hyd ac yn 20 metr o daldra ac mae ganddi naw pâr o drawstiau dur sy'n pwyso 35 tunnell yr un.Dyma enghraifft wych o beirianneg strwythurol.

Dylid cydnabod bod pobl sy'n byw ger y ffordd osgoi ac adeiladu newydd wedi bod yn hynod amyneddgar dros y 3 blynedd diwethaf a bod rhai tirfeddianwyr wedi gorfod aberthu ac ildio tir sy'n eiddo i'w teuluoedd ers cenedlaethau er mwyn caniatáu i'r prosiect i symud ymlaen.

Ers agor y ffordd osgoi, mae contractwyr wedi parhau ar y safle gyda gwaith draenio, plannu a thirlunio mewn gwahanol leoliadau; codi ffensys parhaol a symud ffensys dros dro. Mae’r gwaith plannu tymhorol gan y tîm tirlunio yn parhau eleni a dros y pedair blynedd nesaf bydd hyn yn cael ei fonitro a'i reoli gan rwymedigaethau contractiol.

Mae ychydig o bryderon diogelwch ar y ffordd osgoi wedi cael eu dwyn i'm sylw gan gynnwys absenoldeb arwyddion â saethau i gyfeirio gyrwyr i’r lôn briodol cyn y cylchfannau lle mae dwy lôn yn dychwelyd i un. Rwyf wedi codi hyn gyda Llywodraeth Cymru a chefais wybod bod archwiliad diogelwch ar y ffyrdd wedi'i gwblhau. Cododd tîm y prosiect yr un mater gan awgrymu marciau ffordd ychwanegol. Yn rhyfedd iawn, fodd bynnag, nid yw'r archwilydd wedi derbyn yr argymhellion ar sail y diffyg tystiolaeth nad oes unrhyw ddamweiniau wedi digwydd. Credaf yn gryf y dylai mesurau diogelwch fod ar waith cyn i ddamweiniau ddigwydd, dim ond synnwyr cyffredin yw hyn. Rwyf wedi codi'r mater eto gyda'r Gweinidog yn fwy diweddar, a chefais fy sicrhau y bydd swyddogion yn codi camera i fonitro gwerth mis o symudiadau cerbydau. Bydd y lluniau fideo yn cael eu hadolygu i benderfynu a oes nifer sylweddol o digwyddiadau a bydd tîm y prosiect yn trafod y camau nesaf yn seiliedig ar y canfyddiadau.

Codwyd y cwestiwn unwaith eto ynghylch adfer y gylchfan wrth gyffordd McDonalds a hefyd croesfan i gerddwyr ar Ffordd Dolfor ymhlith gwelliannau traffig eraill yn y dref ac o'i chwmpas. Rwyf wedi codi hyn gyda Chyngor Sir Powys a fydd yn cymryd drosodd yr hen gefnffyrdd trwy'r dref cyn bo hir.

Rwyf wedi wynebu gwrthwynebiad gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor Sir am gylchfan i ddisodli'r goleuadau ar gyffordd McDonalds ar y sail nad oedd y gylchfan wreiddiol yn gweithio'n effeithiol oherwydd ei bod yn rhy fach ac yn ail, bod angen i gerddwyr groesi ar y pwynt hwn, a bod hynny’n fwy diogel gyda goleuadau. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn monitro llif y traffig a’r newidiadau i ymddygiad traffig wrth i yrwyr ddefnyddio’r gwahanol lwybrau i mewn ac allan o'r dref.

Cynhaliodd Cyngor Tref y Drenewydd arolwg cyhoeddus y llynedd ar gyfer enwi cylchfannau a strwythurau ar hyd y ffordd osgoi. Cefais gyfarfod hefyd â'r Gweinidog Trafnidiaeth i drafod enwau posib. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i

enwi pedair cylchfan allweddol ar hyd y llwybr ar ôl ffigurau hanesyddol lleol o’r gymuned, sef Robert Owen, David Davies, Pryce Pryce-Jones a Laura Ashley. Ychydig cyn y Nadolig, fe wnaeth y Gweinidog Trafnidiaeth roi gwybod imi y gofynnwyd am ddyfynbrisiau ar gyfer arwyddion ar y cylchfannau i arddangos enwau pob cylchfan.

 

Pont ar Ddyfi

Bellach mae angen gwneud cynnydd brys ar brosiectau eraill y mae mawr eu hangen gan gynnwys adeiladu pont newydd dros Afon Dyfi ym Machynlleth am fod safle’r bont yn un o brif fannau cyfyng yr A487.

Ni chafodd Pont ar Ddyfi ei dylunio i gario'r maint presennol o draffig. Mae'r ffordd hefyd yn cau yn aml oherwydd llifogydd, sy’n golygu bod yn rhaid i gerbydau deithio hyd at 30 milltir i’w osgoi. Caewyd y bont unwaith eto yn yr hydref felly mae’n hanfodol bod y man cyfyng hwn yn cael ei ddiddymu cyn gynted â phosibl.

Yn ystod y llifogydd diweddar, methwyd â monitro lefelau’r llifogydd gyda theledu cylch cyfyng, a dylid bod wedi agor y gatiau atal llifogydd ar y gefnffordd i roi mynediad i'r ffordd lawer yn gynt, pan oedd y llifogydd wedi gostwng i lefel ddiogel.

Ni allaf bwysleisio pa mor bwysig i bobl Machynlleth a'r ardal gyfagos yw sicrhau bod man croesi mwy dibynadwy dros Afon Dyfi a gwella mynediad at wasanaethau allweddol, gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth, gofal iechyd ac addysg.

Rwy’n falch bod y Gweinidog wedi cytuno i fynd i’r afael â’r materion ymarferol hyn gyda’i swyddogion ond mae’n hanfodol bod penderfyniad yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl ynglŷn â hyfywedd hirdymor y prosiect, fel bod gwelliannau brys yn cael eu cyflwyno i’r rhan hon o’r seilwaith ffyrdd yn Sir Drefaldwyn.

Rwyf wedi holi Ken Skates, Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, nifer o weithiau ynghylch pryd y bydd mewn sefyllfa i wneud penderfyniad ynglŷn â’r prosiect, a dywedodd fod cwmpas prosiect Pont ar Ddyfi wedi newid sawl gwaith yn ystod y cam datblygu. O ganlyniad, mae angen adolygu'r costau terfynol cyn iddo allu gwneud penderfyniad, a disgwylir iddo wneud hynny yn fuan.

 

Ffordd Osgoi Pant-Llanymynech

Mae'r ymgyrch leol am ffordd osgoi Pant-Llanymynech hefyd wedi bod yn rhygnu mynd ers degawdau ac mae'r diffyg cynnydd yn creu pryder sylweddol i drigolion, yn atal twristiaid rhag ymweld â chanolbarth Cymru a gwario eu harian yno, ac yn effeithio ar fusnesau lleol yn y Canolbarth sy'n dibynnu ar allforio eu nwyddau dros y ffin.

Mae llawer o bobl yn byw, yn gweithio ac yn cyrchu gwasanaethau cyhoeddus ar y naill ochr a’r llall i ffin Cymru a Lloegr ond nid yw ein trefniadau llywodraethu presennol yn cynnig cymhelliad i wella'r cysylltiadau hynny. Dim ond os bydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydweithio ar y cynllun trawsffiniol hanfodol hwn y gellir cyflwyno datrysiad hirdymor.

Felly, croesawais yr ymrwymiad gan lywodraeth newydd y DU i fwrw ati i gyflwyno Ffordd Osgoi Pant-Llanymynech a chynlluniau uchelgeisiol ym Margen Twf y Gororau i wella rhwydweithiau trafnidiaeth a hybu twf economaidd dros ffin Cymru.

Pwysais i'r ymrwymiad hwn gael ei gynnwys ym maniffesto'r Blaid Geidwadol ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol diweddar felly rwy'n falch iawn bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a chynghorau ar ddwy ochr y ffin i drafod Bargen Twf y Gororau, a fydd yn cyflawni gwelliannau mawr eu hangen i’r ffyrdd, ac yn rhoi hwb i economïau lleol ac i gydweithrediad rhwng cymunedau yng Nghymru a Lloegr.

 

Cynlluniau Trafnidiaeth Eraill

O ran materion eraill sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth a phriffyrdd, rwyf wedi cael trafodaethau i ddechrau nifer o gynlluniau llai i ddatrys problemau llif traffig a phryderon diogelwch yn y sir, gan gynnwys troi rhannau o'r ffyrdd yn Llangurig a Llanidloes yn rhai deuol, ynghyd â gwelliannau yng Nghroesfan Moat Lane ger Caersws. Mae digwyddiad ymgynghori cyhoeddus yn cael ei drefnu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun olaf hwn, a allai o bosibl gynnwys cylchfan. Mae diddordeb cynyddol unwaith eto mewn cynllun gwella sylweddol i uwchraddio'r ffordd rhwng y Trallwng a'r Amwythig. Yn gynharach eleni cafodd Pont Cefn dros y rheilffordd ei chyfyngu yn Nhrewern oherwydd mesurau rheoli traffig yn dilyn difrod i'r bont ei hun o ganlyniad i ddamwain. Gwnaeth hyn darfu’n fawr ar fusnesau a chymudwyr, ynghyd ag ymwelwyr â'r ardal. Ar ôl i mi drafod faint o frys yw atgyweirio'r bont gyda Network Rail a'r Gweinidog yn ogystal â gofyn cwestiynau yn siambr y Senedd yn ei gylch, cwblhawyd y gwaith atgyweirio o'r diwedd ym mis Gorffennaf 2019.

 

Rheilffyrdd

Mae disgwyliadau pobl o ran gwasanaeth rheilffordd Cymru yn syml. Fel y dywedodd y corff gwarchod i ddefnyddwyr y rheilffyrdd, Transport Focus: “Mae teithwyr yn dweud wrthym mai eu prif flaenoriaethau ar gyfer rheilffordd newydd Cymru a’r Gororau yw cael sedd ar wasanaethau dibynadwy sy’n rhoi gwerth da am arian.”

Yn anffodus, mae nifer yr e-byst yn fy mewnflwch gan gymudwyr rheilffyrdd rhwystredig wedi cynyddu'n sylweddol. Maent yn teimlo’n rhwystredig ynglŷn â threnau sydd wedi'u canslo, gan gynnwys myfyrwyr sydd ar eu ffordd i’r coleg yn cael eu gadael yn aros yn Amwythig, neu bobl sy’n methu â theithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith.

Mae'r cyfrifoldeb am wasanaethau rheilffordd Cymru o dan y fasnachfraint reilffordd a oedd yn cael ei weithredu gan Arriva Trains Wales, ac erbyn hyn gan Drafnidiaeth Cymru, wedi bod yn nwylo Llywodraeth Cymru ers 2006.

Nid wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon o ymdrech i weithio gyda'r gweithredwr blaenorol mewn perthynas â chyflwr y fflyd reilffyrdd yn y 12 mis cyn trosglwyddo i Drafnidiaeth Cymru. Nid wyf yn credu bod y broses gaffael ar gyfer y fasnachfraint newydd gwerth £5 biliwn yn cynnwys strategaeth drosglwyddo effeithiol i sicrhau bod problemau o ran ansawdd y cerbydau yn cael sylw o’r cam cyntaf ar ddechrau'r cytundeb masnachfraint newydd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i weld trenau wedi'u canslo, trenau hwyr, diffyg staff, problemau signalau, problemau capasiti, diffyg gwybodaeth o ansawdd i deithwyr, a gorlenwi, ac mae hyn yn annerbyniol yn ôl safonau unrhyw un. Nid dyma'r gwelliant 'trawsnewidiol' i wasanaethau a addawyd i Gymru gan Lywodraeth Cymru ac nid yw’n cynrychioli capasiti ychwanegol na gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.

Yn ogystal â fy rôl fel Aelod o’r Senedd dros Sir Drefaldwyn a Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Economi a’r Seilwaith, rwyf hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd. Yng ngwanwyn 2019, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar y tarfu ar wasanaethau rheilffyrdd sydd wedi effeithio ar deithwyr, gan dynnu sylw at nifer o achosion posibl ac atebion posibl. Neges glir y Pwyllgor i Drafnidiaeth Cymru oedd y byddai’n rhaid i deithwyr gael eu digolledu'n ddigonol os byddant yn profi lefel debyg o darfu yn y dyfodol, gan y bydd cryn dipyn o amser cyn i'r fflyd lawn o drenau newydd sgleiniog gyrraedd.

Fe'm hysbyswyd bod fflyd newydd o drenau yn cael ei hadeiladu'n benodol ar gyfer Lein y Cambrian ac y bydd yn cael ei chyflwyno o 2022 ymlaen. Bydd y trenau hyn yn cynnig mwy o gapasiti i deithwyr ond bydd hefyd yn gallu cyflymu’n gynt, gan alluogi i wasanaethau weithredu o fewn yr amserlen yn fwy dibynadwy. Fodd bynnag, hyd nes y cyflwynir y trenau newydd, byddaf yn parhau i alw ar Drafnidiaeth Cymru i wella lefel eu gwasanaeth; cynyddu nifer y gwasanaethau i un trên yr awr drwy gydol y dydd; a gwella’r cyfleusterau mewn gorsafoedd. Yn ogystal â threnau gwell, mwy o gapasiti, ac opsiynau gwell o ran prisiau a thocynnau, mae'n rhaid i ni gael gwasanaeth rheilffordd sydd wedi’i integreiddio'n effeithiol â'r dulliau cludo eraill rydym yn eu defnyddio bob dydd. Mae angen trafnidiaeth nad yw'n cael ei hystyried yn rhywbeth sy’n bodoli ar ei phen ei hun, ond yn hytrach yn rhywbeth sy'n cyfrannu at dwf economaidd trawsffiniol ac yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus eraill yn well.

Byddaf yn parhau i gadw ffocws cadarn ar berfformiad a chynlluniau Trafnidiaeth Cymru er mwyn cynyddu’r capasiti a gwella lefelau gwasanaeth ar reilffyrdd Cymru, a byddaf yn ystyried y mater hwn eto yn gynnar yn y flwyddyn newydd pan fydd Gweinidog y Llywodraeth a Phrif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru yn dod i’r pwyllgor yr wyf yn ei gadeirio wrth i ni wneud rhagor o waith craffu.