Canolbarth sydd wedi ei Gysylltu’n Well

Gwella Trafnidiaeth yn y Canolbarth

Diweddarwyd: Ionawr 2024

Ers cael fy ethol i Senedd Cymru, rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros seilwaith trafnidiaeth gwell i Sir Drefaldwyn. Mae cysylltiadau trafnidiaeth da yn hollbwysig i wella’r economi leol a dyna pam rwyf wedi ymgyrchu’n frwd dros ffordd osgoi i’r Drenewydd ac yn parhau i ymgyrchu dros gynlluniau gwella ffyrdd pwysig eraill a thros wella diogelwch ar y ffyrdd. Yn anffodus, Powys sydd ag un o’r cyfraddau damweiniau ffyrdd gwaethaf sy’n arwain at rywun yn cael ei ladd neu ei anafu’n ddifrifol ar ein ffyrdd fesul 100,000 o boblogaeth, a dyma pam mod i’n parhau i alw am wella diogelwch ar y ffyrdd.

Pont ar Ddyfi, Machynlleth

Dwi'n falch bod gwaith yn mynd rhagddo ar gynllun ffordd ac adeiladu pont newydd dros afon Dyfi. Nid oedd yr hen bont wedi’i chynllunio i gludo’r holl draffig sy’n teithio arni erbyn hyn ac mae’n cael ei chau yn aml yn sgil llifogydd cyson sy’n golygu bod traffig yn gorfod dargyfeirio hyd at 30 milltir.

Bydd y bont newydd yn gwella dibynadwyedd croesi afon Dyfi ac yn gwella mynediad i wasanaethau allweddol yn cynnwys gofal iechyd, cyfleoedd gwaith ac addysg i bobl Machynlleth a’r fro.

Mae peth o'r gwaith diweddaraf yn cynnwys gorffen gwaith ar ddec y bont a gosod cwrb a tharmacio'r darnau o'r ffordd bresennol sy'n arwain at y bont. Gwnaed gwaith hefyd i agor un o fwâu pont rheilffordd y Cambrian a fydd yn caniatáu llwybr mwy diogel i gerddwyr a beicwyr o'r bont tuag at yr orsaf reilffordd a'r dref. Dywedodd y datblygwyr wrthyf fod tywydd gwael wedi atal y gwaith rhag cael ei gwblhau'n brydlon. Pan godais y pwnc yn y Senedd ym mis Rhagfyr, cefais wybod bod y cynllun ffordd a'r bont newydd i fod i agor i draffig erbyn diwedd Ionawr / dechrau Chwefror 2024.  

Ffordd osgoi Pant–Llanymynech

Mae’r ymgyrch am ffordd osgoi i Pant-Llanymynech yn dal i fod yn gynllun gwella ffordd a diogelwch pwysig. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adeiladu ffordd osgoi Pant/Llanymynech ac yn cydweithio i ddatblygu’r cynllun. Mae Highways England yn arwain gwaith datblygu’r prosiect mewn ymgynghoriad â swyddogion trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. 

Mae astudiaeth ffordd osgoi wedi'i chomisiynu ac ar hyn o bryd mae'n cael ei hystyried gan Lywodraeth y DU i'w chynnwys yn y 'National Highways Road Investment Programme' ar gyfer cyflawni cynlluniau ffyrdd newydd rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2030.

Rwy'n parhau i godi'r cynllun yn y Senedd gyda'r Gweinidog yn rheolaidd. Mae Craig Williams AS a minnau’n parhau i godi'r cynllun pwysig hwn.

Gwelliannau ffordd ar yr A458 Middletown

Yn anffodus bu nifer o ddamweiniau ar ffordd yr A458 o’r Trallwng i’r Amwythig, gan gynnwys damwain angheuol tua diwedd 2023. Mae angen gwneud y ffordd hon yn fwy diogel a chredaf fod angen cynllun ffordd ar gyfer y llwybr hwn.

Mae hwn yn fater yr wyf wedi’i godi gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru ynghylch y rhan hon o’r ffordd. Byddaf yn parhau i weithio gyda Chynghorydd Amanda Jenner.

Cynlluniau Caersŵs

Mae cynlluniau ffyrdd llai eraill wedi’u cynnig i ddatrys problemau llif traffig a phryderon diogelwch, yn cynnwys y rhai yng nghroesfan Moat Lane ger Caersŵs gyda’r cynnig i greu cylchfan yn lle’r gyffordd bresennol. Hefyd yng Nghaersŵs, rydw i wedi bod yn hyrwyddo pont droed newydd dros yr afon, gyda Les George y Cynghorydd Sir ac eraill. Mae’r bont bresennol yn beryglus i gerddwyr ei chroesi. Mae’r gwaith i fwrw ymlaen â’r cynllun wedi bod yn araf ac wedi’i lesteirio, ynghyd â chynlluniau llai eraill, gan benderfyniad Llywodraeth Cymru i atal adeiladu’r holl gynlluniau newydd dros dro er mwyn cynnal adolygiad.

Rwyf wedi codi diogelwch y groesfan gerddwyr ger y groesffordd gyda'r Gweinidog hefyd. Er mai digon araf fu'r cynnydd gyda hyn hefyd, rwy'n falch bod y Gweinidog wedi cytuno i gynnal asesiad diogelwch o'r groesfan gerddwyr.

Yn ystod 2023, bues i'n pwyso ar y Prif Weinidog a'r Gweinidog sy'n gyfrifol am Drafnidiaeth ynghylch cynlluniau yng Nghaersŵs. Cadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd cynlluniau cyffordd Moat Lane a’r groesfan gerddwyr ar draws yr afon yn parhau i ddatblygu, ac y bydd angen cynllunio rhai o'r argymhellion mwy diweddar sy'n cynnwys elfennau diogelwch a theithio llesol ychwanegol yn y prosiect - gan nodi ei bod hi'n anochel y byddant yn gorfod bodloni'r un profion ag unrhyw gynllun ffordd arall, heb sôn am fater fforddiadwyedd. Yn fy nhrafodaeth ddiweddaraf gyda'r Gweinidog ym mis Tachwedd, cadarnhaodd fod y cynlluniau gwella diogelwch ffyrdd arfaethedig wedi'u cynnwys yn y Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol, a bod ei swyddogion yn gwneud gwaith pellach a ddylai fod yn barod erbyn mis Ebrill 2024. Mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd digwyddiad ymgysylltu'n cael ei gynnal yn lleol wedyn.

A44 Llangurig i Aberystwyth

Byddaf yn parhau i alw am welliannau diogelwch ar y ffordd hon sydd ymhlith y gwaethaf am ddamweiniau yn y DU. O’r diwedd, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen am welliannau oherwydd materion fel diogelwch ar y ffyrdd, effeithlonrwydd cyffyrdd a chyflwr cyffredinol y ffordd. Ym mis Tachwedd, cadarnhaodd diweddariad gan y Gweinidog fod swyddogion Llywodraeth Cymru’n disgwyl cwblhau astudiaeth erbyn mis Ebrill. Rwy'n gobeithio cael mwy o newyddion yn y gwanwyn. Byddaf yn parhau i weithio i sicrhau bod gweinidogion yn ymroi i wella'r rhan hon o'r ffordd, hyd at y diwedd.

Cwymp Ffordd yn Nhalerddig

Yn gynharach yn 2023 codais yr angen am waith trwsio i'r gefnffordd yn Nhalerddig. Yn dilyn cwymp ffordd ym mis Tachwedd, codais fel mater brys gyda'r Gweinidog i wneud atgyweiriadau ar fyrder i ailagor y ffordd. Rwy'n falch bod gwaith wedi'i wneud i ailagor y ffordd dan reolaeth goleuadau traffig. Byddaf yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu'r gwaith trwsio parhaol sydd ei angen i ganiatáu i'r ffordd gael ei hagor yn llawn i draffig dwy ffordd.

Gwasanaeth Trên Gwell

Trist yw cofnodi bod y gwasanaeth trên yn Sir Drefaldwyn yn dal i fod yn wael gyda threnau’n cael eu canslo, yn hwyr neu’n orlawn yn gyson. Rwyf wedi lleisio pryderon yn barhaus am berfformiad Trafnidiaeth Cymru ar linell y Cambrian o Aberystwyth i Amwythig, gan ofyn am sicrwydd ynghylch ymrwymiadau a wnaed gan Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae fflyd newydd o drenau’n cael eu hadeiladu er mwyn i Linell y Cambrian redeg ar y system signalau unigryw, ond yn anffodus bu oedi oherwydd problemau gyda'r cyflenwad o gydrannau sy'n gydnaws â'r system signalau hon. Bydd trenau newydd yn rhedeg erbyn y gaeaf nesaf. Cefais sicrwydd y bydd y trenau hyn yn darparu mwy o le i deithwyr ac yn gallu cyflymu’n gynt, gan alluogi gwasanaethau i gadw at yr amserlen yn fwy dibynadwy. Rwy'n parhau i leisio rhwystredigaeth am y gwasanaeth gwael hwn ac yn gofyn am sicrwydd y bydd y trenau newydd yn darparu gwasanaethau gwirioneddol well i ni'n lleol, a byddaf yn pwyso ar Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno'r trenau newydd hyn cyn gynted ag y gallant.

Hefyd, rwy'n falch o gefnogi cynlluniau i wella hygyrchedd yng ngorsaf drenau'r Drenewydd, fel rhan o'r rhaglen 'Access for All' a ariennir gan Adran Drafnidiaeth San Steffan. Bydd y prosiect yn golygu buddsoddiad sylweddol yng ngorsaf y Drenewydd trwy adeiladu pont droed a lifftiau cwbl hygyrch newydd sbon i gysylltu platfform un a dau. Mae hygyrchedd o fudd i bobl o bob oed ac yn helpu i hyrwyddo'r defnydd o'r rhwydwaith rheilffyrdd drwy leihau allyriadau carbon a'r ddibyniaeth ar deithiau mewn ceir.