Gwybodaeth am Russell George
Russell George yw Aelod o’r Senedd dros Sir Drefaldwyn ac mae wedi cynrychioli’r etholaeth ers 2011. Russell yw Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid ac mae hefyd yn gadeirydd pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd.
Ganed Russell yn y Trallwng ym 1974. Mynychodd yr ysgol yn Sir Drefaldwyn, cyn graddio mewn Gwybodaeth ac Astudiaethau’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Canolbarth Lloegr. Etholwyd Russell i Gyngor Sir Powys yn 2008 ac roedd yn aelod o fwrdd rheoli gweithredol y Cyngor.
Etholwyd Russell am y tro cyntaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd yn 2011. Dychwelodd yn 2016 a 2021, gan gynyddu ei fwyafrif ym mhob etholiad.
Mae wedi dal sawl portffolio ac wedi siarad yn y gorffennol ar ran y Ceidwadwyr Cymreig ar yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Amaethyddiaeth a Materion Gwledig a’r Economi, Busnes a Seilwaith.
Rhwng 2013 a 2016, sefydlodd a chadeiriodd Russell Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Gyfathrebu Digidol a fu’n ymgyrchu dros welliannau yn y band eang cyflym iawn a’r signal ffonau symudol sydd ar gael yng Nghymru.
Ei flaenoriaethau ar hyn o bryd yw gwarchod a gwella gwasanaethau cyhoeddus lleol ar gyfer pobl Sir Drefaldwyn. Mae Russell yn angerddol am annog pobl iau i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus ac mae’n awyddus i gefnogi ac annog busnesau newydd a busnesau bach i dyfu.
Cyfrannodd Russell yn helaeth at hyrwyddo ffordd osgoi’r Drenewydd ac ymgyrchodd dros well band eang yng nghefn gwlad Cymru. Roedd hefyd yn gyfrifol am lobïo dros Fargen Twf y Canolbarth i’r rhanbarth, ynghyd ag ysbyty Cymunedol newydd a chyfleuster iechyd i wasanaethu Gogledd Powys.
Mae ei ddiddordebau personol yn cynnwys hel achau, ac ef yw Llywydd Cyngor Sgowtiaid Ardal Sir Drefaldwyn a Dirprwy Lywydd Cymdeithas MND Sir Drefaldwyn. Mae hefyd yn Is-lywydd Ymddiriedolaeth Adfer Dyfrffyrdd Trefaldwyn, mae’n aelod o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn ac yn aelod o Eglwys Hope yn y Drenewydd lle mae wedi cymryd rhan mewn sawl prosiect i gefnogi’r gymuned.
Cyn cael ei ethol i’r Senedd, roedd Russell yn Gynghorydd Tref, Llywodraethwr Ysgol, yn aelod o Fwrdd Coleg Powys ac yn aelod o Bwyllgor Rheoli Theatr Hafren.