Cysylltiad Band Eang a Ffonau Symudol Gwell

diweddaru ar 03/01/2023

Wrth edrych ar gysylltiad band eang a ffonau symudol, mae’r gwasanaeth yn waeth mewn ardaloedd gwledig o Gymru o’i gymharu â threfi a dinasoedd adeiledig. Taflodd y pandemig oleuni ar faint rydyn ni’n dibynnu’n rheolaidd ar gysylltiad da i weithio, i gysylltu â’n teulu a’n ffrindiau ac ar gyfer hamdden. Mae cysylltiad cryf a dibynadwy bellach yn angenrheidiol, nid yn ‘rhywbeth braf i’w gael’ yn unig.

Gydol fy amser fel Aelod o’r Senedd, rydw i wedi ymgyrchu am gysylltiad band eang a ffonau symudol gwell ar gyfer Sir Drefaldwyn. Er bod cynnydd da wedi’i wneud, mae llawer mwy o waith i’w gyflawni.

Ffonau Symudol

Nod y Rhwydwaith Gwledig a Rennir, a ddatblygwyd gan y pedwar gweithredwr rhwydwaith ffonau symudol mawr, yw darparu 4G i 95% o’r DU erbyn 2025. Yn y Canolbarth, disgwylir y bydd y pedwar gweithredwr rhwydwaith mawr yn darparu 4G i  78% o gartrefi ac y bydd 98% yn gallu ei gael gan o leiaf un gweithredwr mawr.

Rydw i wedi cyfarfod yn rheolaidd â darparwyr rhwydwaith i ofyn am ddiweddariad ar eu cynlluniau ac i alw arnyn nhw i roi blaenoriaeth i’r Canolbarth. Yn ystod haf 2022, pan gefais y cyfarfod diwethaf â’r darparwyr, fe roesant sicrwydd i mi bod gwaith ar droed i wella cysylltiad yn sylweddol yn Sir Drefaldwyn. Drwy’r Rhwydwaith Gwledig a Rennir, bydd Sir Drefaldwyn yn elwa ar ddeuddeg safle gan O2 a Vodafone. Bydd pedwar o’r safleoedd hyn yn cael eu rhannu â Three hefyd: Aberhosan (Machynlleth), Pen-y-garnedd (Llanrhaeadr-ym-Mochnant) Cefn Coch, a Moelfre (Llanfyllin).

Bydd yr wyth safle arall yn cael eu datgelu ar ôl cadarnhau’r manylion cynllunio terfynol. Bydd y gwaith hwn yn golygu y bydd Sir Drefaldwyn yn elwa ar signal, cysylltiad a dewis gwell gan ddarparwyr.

Band eang

Mae cynnydd mawr yn cael ei wneud, gyda llawer mwy o gartrefi’n gallu cael cyflymder band eang da, ond mae llawer o gartrefi ym Mhowys yn dioddef gyda chyflymder band eang araf tu hwnt, neu’n methu cael mynediad at fand eang o gwbl.

Mae 20 y cant o eiddo nawr yn gallu cael mynediad at fand eang “gwibgyswllt” – gyda chyflymder o 300 megabit yr eiliad (mb/s) neu fwy. Mae hwn i fyny o 11 y cant bum mlynedd nôl. Er bod band eang ffeibr newydd wedi gwella cyflymder y rhyngrwyd i lawer, mae rhai cymunedau mewn perygl o gael eu gadael ar eu hôl o hyd.

Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr y diwydiant ac yn fy nghyfarfod â rheoleiddiwr y diwydiant, Ofcom, ym mis Medi 2022, trafodwyd yr hawl gyfreithiol sydd gan gartrefi a busnesau yn Sir Drefaldwyn i ofyn am wasanaeth band eang gweddus a fforddiadwy gyda chyflymder o 10 mb/s o leiaf, o dan y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol ar gyfer band eang. 

Mae Openreach wedi cyhoeddi uchelgais i adeiladu darpariaeth ffeibr lawn i gyrraedd 25 miliwn o gartrefi ledled y DU erbyn Rhagfyr 2026. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd gwledig yn ogystal â threfi a dinasoedd mawr.

Fodd bynnag, ni fydd cynlluniau Openreach yn gwasanaethu pob cymuned wledig. Nid cysylltiad band eang ffeibr yw’r unig opsiwn sydd ar gael.

Mae technolegau eraill ar gael ac yn datblygu’n eang, sy’n golygu y gallai atebion a ddiystyrwyd o’r blaen fod yn opsiwn ar gyfer rhai cymunedau bellach.

Gallwch wirio pa opsiynau sydd ar gael i’ch ardal chi yma: https://checker.ofcom.org.uk/en-gb/broadband-coverage

Mae rhai rhannau o Sir Drefaldwyn yn defnyddio amrywiaeth o dechnolegau eraill, ac rwy’n cefnogi cymunedau ac yn gweithio gyda busnes sy’n darparu’r mathau hyn o atebion yn aml.

Ateb Ffôn/Band Eang 4G:

Gellir gosod llwybrydd band eang i gysylltu’ch eiddo i fand eang drwy rwydwaith ffôn symudol 4G. Nid yw’n golygu defnyddio ffôn symudol a does dim angen ceblau na llinell ffôn. Gellir gosod antena allanol ar ochr eich eiddo mewn ardaloedd lle nad yw’r  signal 4G yn gryf y tu mewn. Mae yna becynnau data anghyfyngedig ar gael nawr hefyd gyda nifer o ddarparwyr.

Cysylltiad Lloeren:

Mae lloeren yn trawsyrru data i ac o ddysgl sydd wedi’i gosod ar eich eiddo i ddod â band eang i chi. Mae hwn yn darparu cyflymder lawrlwytho cyflym iawn a dylai fod ar gael ym mhobman. Fel arfer, mae cysylltiad lloeren yn cynnwys ffi untro i osod y cyfarpar darlledu a chontract tymor sefydlog a delir drwy danysgrifiad misol. Mae rhagor o wybodaeth yn: ISP Review - Satellite Broadband ISPs

Ateb Band Eang Cymunedol:

Mae hyn yn galluogi eiddo i ariannu ateb band eang cyflym iawn fel rhan o brosiect grŵp. Mae gwybodaeth am sefydlu prosiect band eang a arweinir gan y gymuned i’w chael ar dudalen band eang cymunedol Cyngor Sir Powys.

Allwedd Band Eang Cymru:

Mae’r cynllun hwn yn darparu grantiau i ariannu (neu ran-ariannu) costau gosod cysylltiadau band eang newydd i gartrefi a busnesau yng Nghymru. Nid yw’n cynnwys costau rhentu misol. Mae’n rhaid i gysylltiadau newydd drwy’r cynllun hwn sicrhau newid sylweddol mewn cyflymder. Mae’n rhaid i’r cysylltiad newydd fod o leiaf ddwbl eich cyflymder lawrlwytho cyfredol. Mae faint o gyllid y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad newydd: £400 ar gyfer 10 Mb/s ac uwch. £800 ar gyfer 30 Mb/s ac uwch. Cyn gwneud cais i’r cynllun hwn, dylech wirio’ch cymhwysedd gydag Ofcom ac Openreach i weld a allwch chi gael gwasanaeth band eang cyflym drwy’r cysylltiadau hyn:

https://checker.ofcom.org.uk/en-gb/broadband-coverage

https://www.openreach.com/fibre-broadband/ultrafast-full-fibre-broadband#fibrechecker

Dylech hefyd ystyried cyflymder angenrheidiol y cysylltiad ar gyfer eich cartref neu’ch busnes heddiw a thros y 12 mis nesaf. Yn olaf, dylech ddewis darparwr gwasanaeth rhyngrwyd sy’n gallu diwallu’r anghenion a nodwyd gennych a chael dyfynbris ysgrifenedig ganddo. Bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth o’r camau hyn gyda’ch cais.

Defnyddiwch y ffurflen gais hon: https://llyw.cymru/allwedd-band-eang-cymru-ffurflen-gais. Ar ôl llenwi’r ffurflen hon dylech ei hanfon i bandeang@llyw.cymru.