Dyfodol Addysg ym Mhowys
Diweddarwyd: Awst 2025
Adolygiad o Addysg Ôl-16
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi opsiynau a'i ffordd ymlaen a ffefrir ar gyfer addysg ôl-16. Mae'r opsiwn a ffefrir gan y Cyngor yn cynnwys cau pob Chweched Dosbarth ledled Powys a sefydlu canolfannau ôl-16 newydd yn y Drenewydd ac Aberhonddu, mewn partneriaeth â Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot (sydd â safleoedd coleg yn y ddwy dref). Mae'r cynnig yn cynnwys dull gweithredu gwahanol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae angen gwelliannau brys ar ysgolion ym Mhowys. Dyma farn ddiweddar y corff arolygu cenedlaethol Estyn, a gododd 'bryderon sylweddol' am wasanaethau addysg Cyngor Sir Powys. Mae angen newid, gwella a chefnogi darpariaeth ôl-16 ym Mhowys, ond nid wyf yn argyhoeddedig mai dyma'r ffordd orau o fynd o’i chwmpas hi. Ymddengys mai prin iawn yw'r dystiolaeth y byddai'r opsiwn a ffefrir gan y Cyngor i gau pob Chweched Dosbarth yn mynd i'r afael ag argymhellion Estyn.
Mae sawl Chweched Dosbarth ardderchog yn y sir sy'n haeddu cymorth a chyfle i ffynnu, yn hytrach na'u cau. Yn ogystal, mae angen rhoi llawer mwy o ystyriaeth i hyfywedd Ysgolion Uwchradd sydd heb ddarpariaeth Chweched Dosbarth.
Rwy'n credu y byddai ystod amrywiol o fodelau cyflenwi ar gyfer addysg ôl-16 ledled Powys yn fwy buddiol. Byddai cyfuniad o ddarpariaeth Chweched Dosbarth ac addysg drydyddol yn rhoi dewisiadau gwirioneddol i bobl ifanc yn y sir. Gallai'r model dwy ganolfan arfaethedig a thaliadau cludiant posibl ar gyfer addysg ôl-16 arwain at fwy o fyfyrwyr yn penderfynu mynd i Loegr i dderbyn eu haddysg.
Mae'r Cyngor wedi nodi y bydd yn cynnal proses 'ymgysylltu' yn ddiweddarach eleni, a fydd yn llywio ymgynghoriad ffurfiol ehangach. Mae'n hanfodol bod yr ymgynghoriad hwn yn ddilys a'i fod yn ystyried safbwyntiau'r holl breswylwyr mewn ffordd ystyrlon cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Cyngor Sir Powys a'i Gynghorwyr sy'n bennaf cyfrifol yn y pen draw am benderfyniadau yn ymwneud â chynigion i ad-drefnu ysgolion. Byddaf yn parhau i ddadlau o blaid cynnal ymgynghoriadau dilys lle mae lleisiau pob rhiant a chymuned yn cael eu clywed.
Cau Ysgolion a Newidiadau i Gategorïau Iaith
Mae Cyngor Sir Powys wedi newid categori iaith Ysgol Bro Caereinion i Ysgol Cyfrwng Cymraeg. Bydd newidiadau'r Cyngor, o dan arweiniad y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur, yn cael eu cyflwyno yn raddol flwyddyn ar ôl blwyddyn gan ddechrau gyda'r dosbarth Derbyn ym mis Medi eleni a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2026. Rwyf wedi derbyn pryderon difrifol gan rieni, gan gynnwys rhieni sydd â phlant mewn ysgolion cynradd sy'n bwydo Ysgol Bro Caereinion, sy'n nodi nad oedd proses ymgynghori ddigonol wedi’i chynnal cyn cyflwyno'r cynigion.
Yn dilyn y pryderon a godwyd, cytunodd y Cyngor y bydd plant sydd eisiau dysgu trwy gyfrwng y Saesneg yn nalgylch Bro Caereinion yn cael cludiant ysgol am ddim i fynychu'r ysgol uwchradd agosaf sy'n addysgu trwy gyfrwng y Saesneg. Rwyf wedi gofyn eto yn fwy diweddar am gadarnhad gan Gyngor Sir Powys o’r trefniant hwn yn dilyn pryderon gan rieni. Fodd bynnag, ni fydd darpariaeth cludiant ysgol am ddim i ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn dod i rym tan fis Medi 2026, ac nid yw'r sefyllfa hon yn deg nac yn rhesymol i blant sydd i fod i ddechrau Blwyddyn 7 ym mis Medi. Rwyf wedi gofyn i Gyngor Sir Powys adolygu'r penderfyniad hwn a darparu cludiant ysgol am ddim i ddisgyblion sy'n dymuno dechrau Blwyddyn 7 mewn ysgol cyfrwng Saesneg fis Medi eleni. Mae rhai plant yn parhau i fethu â chael cludiant am ddim i fynychu'r ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg agosaf mewn rhannau eraill o Swydd Drefaldwyn. Mae'r sefyllfa hon yn annheg ac rwyf wedi codi'r mater yn uniongyrchol gyda Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru.
Er gwaethaf ymrwymiadau clir iawn a wnaed cyn etholiad Cyngor Sir Powys ym mis Mai 2022 i beidio â chau ysgolion gwledig, mae'r Cyngor dan arweiniad y Democratiaid Rhyddfrydol wedi bwrw ymlaen â chynlluniau i gau nifer o ysgolion gwledig.
Mae'r Cyngor wedi cau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn, ac mae'r rhan fwyaf o'r disgyblion wedi symud i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain. Yn fwy diweddar, mae'r Cyngor wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r cynllun i gau Ysgol Bro Cynllaith yn Llansilin. Yn sgil pryderon a godwyd gyda mi a'r pryderon diweddar a fynegwyd gan Estyn yn dilyn arolygiad o Adran Addysg y Cyngor, rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymchwilio i'r penderfyniad. Yn anffodus, mae'r ymateb a gefais yn cadarnhau mai penderfyniad yr awdurdod lleol yw hwn ac nid yw Llywodraeth Cymru yn barod i ymyrryd.
Fe wnaeth Cyngor Sir Powys benderfyniad arall i gau Ysgol Gynradd Treowen yn y Drenewydd a chynyddu maint Ysgol Calon y Dderwen newydd er mwyn iddi dderbyn mwy o ddisgyblion. Cytunodd y Cyngor y bydd hyn yn digwydd mewn dau gam, a'r cam cyntaf yw cau Ysgol Treowen ym mis Awst eleni a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Calon y Dderwen ym mis Medi. Fel rhan o gam dau, bydd Ysgol Calon y Dderwen yn symud i adeilad newydd ar safle presennol Ysgol Calon y Dderwen yn ystod 2026/27. Roedd gennyf, ac mae gennyf o hyd, bryderon mawr am y penderfyniad hwn oherwydd y posibilrwydd na fydd digon o le ar y safle ar gyfer adeilad newydd Ysgol Calon y Dderwen i ddarparu ar gyfer plant ychwanegol. Hefyd, mae'n bosibl na fydd yr ardal yn gallu ymdopi â'r traffig ychwanegol ar adegau pan fydd plant yn cyrraedd ac yn gadael yr ysgol, ac mae'n debygol y bydd nifer sylweddol o gartrefi newydd yn cael eu datblygu yn ardal Treowen. Rwy'n credu y gallai penderfyniad y Cyngor ar y mater hwn fod yn un cibddall. Rwyf wedi cyfarfod â nifer o rieni a phreswylwyr yn Nhreowen.
Rwyf wedi cael gwybod yn fwy diweddar bod y Cyngor yn ystyried unwaith eto y posibilrwydd o gau Ysgol Gynradd Llandinam. Mae hon yn ergyd arall i'r ysgol a'r gymuned hon ar ôl iddynt wynebu'r posibilrwydd o gau'r ysgol ychydig flynyddoedd yn ôl.
Rwyf wedi dadlau'n gryf, a byddaf yn parhau i ddadlau, bod yn rhaid i ymgynghoriadau fod yn ddilys a bod angen gwrando ar safbwyntiau pob preswylydd yn ystyrlon cyn gwneud penderfyniadau, gan gynnwys sylwadau gan drigolion nad ydynt efallai yn gallu ymgysylltu trwy gyfarfodydd electronig/o bell. Mae'n bwysig bod Cyngor Sir Powys yn cymryd yr amser i wrando ar yr holl rieni a chymunedau a allai gael eu heffeithio gan y cynigion, gan sicrhau yn benodol bod ei gynigion yn mynd i'r afael ag anghenion pob dysgwr, gan gynnwys disgyblion sy'n ffynnu mewn lleoliadau ysgolion bach.
Rwyf wedi trefnu cyfarfodydd â rhieni o ysgolion sydd wedi cael eu hystyried i’w cau ac rwyf wedi siarad â llawer o drigolion yn fy nghymorthfeydd. Roeddwn i’n falch mod i wedi cyfrannu at sicrhau bod pryderon trigolion a rhieni’n cael eu clywed yn ystod ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgol Yr Ystog. Ni wnaeth y Cyngor fwrw ymlaen â'r cynllun i gau'r ysgol hon. Mae hyn yn dangos bod cynigion yn gallu newid a'i bod yn bwysig cymryd rhan mewn ymgynghoriadau a mynychu cyfarfodydd lleol.
Cyngor Sir Powys a Chynghorwyr Cyngor Sir Powys sy'n bennaf gyfrifol yn y pen draw am gynigion i ad-drefnu ysgolion. Byddaf yn parhau i annog pobl i ymgysylltu ag ymgynghoriadau, a byddaf yn ymateb i'r Awdurdod Lleol fy hun ar sail fy safbwyntiau, a safbwyntiau sydd wedi'u mynegi i mi. Rwyf wedi codi materion penodol yn ymwneud â chynigion mewn ymateb i bryderon, a byddaf yn parhau i wneud hynny.
Derbyniadau i Ysgolion a Chludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol
Wrth i gynigion ad-drefnu ysgolion y Cyngor fynd rhagddynt, rwyf wedi gofyn i'r Cyngor adolygu ei bolisi Cludiant am ddim Rhwng y Cartref a'r Ysgol. Mae'r polisi presennol yn seiliedig ar ddalgylchoedd ysgolion ar gyfer ysgolion bwydo ac nid yw'n darparu cludiant am ddim rhwng y cartref a'r ysgol i lawer o blant. Mae rhieni yn parhau i gysylltu â mi ynglŷn â'r ffaith fod y Cyngor yn gwrthod darparu cludiant am ddim rhwng y cartref a'r ysgol mewn sawl ardal. Yn fy marn i, mae angen i'r Cyngor fod yn fwy hyblyg oherwydd y pellteroedd ymylol sydd dan sylw, neu i sicrhau dewis rhesymol o dderbyn addysg yn newis iaith y rhiant/disgybl, neu i osgoi gwahanu brodyr a chwiorydd. Rydw i wedi gofyn i'r Cyngor ailystyried ei benderfyniadau ac i fod yn fwy parod i ddarparu cludiant am ddim i ddewis ysgol y plentyn/rhiant.
Mewn rhai achosion, mae rhieni wedi ennill eu hapêl. Fodd bynnag, o'm safbwynt i, nid yw’n ymddangos bod y Cyngor yn gweithredu mewn ffordd gyson. Mae gan rieni mewn rhai ardaloedd fwy o ddewis na rhieni mewn ardaloedd eraill, ac mewn rhai achosion unigol mae’r Cyngor wedi gwyrdroi ei benderfyniad gwreiddiol, ond heb wneud hynny ar gyfer pobl eraill mewn amgylchiadau tebyg. Yn anffodus, mae hyn yn golygu bod yna berygl y bydd plant yn gorfod mynd i ysgol wahanol i’w brawd neu chwaer / brodyr neu chwiorydd neu y bydd rhiant yn gorfod teithio y tu ôl i fws i fynd ag un plentyn i’r ysgol ar wahân. Mae'n ymddangos bod y sefyllfa hon yn mynd yn groes i un o weledigaethau'r Cyngor i fod yn 'Bowys gwyrddach’.
Rwyf wedi derbyn pryderon hefyd am y broses Derbyn i Ysgolion, lle mae'r Cyngor wedi gwrthod ceisiadau i ddisgyblion fynychu rhai ysgolion cynradd ac uwchradd o'u dewis. Mae hyn yn dilyn newid mewn dalgylchoedd ar gyfer ysgolion bwydo a newid y capasiti mewn rhai ysgolion. Unwaith eto, rwyf wedi gofyn i'r Cyngor ailystyried ei benderfyniadau i wrthod derbyn disgyblion penodol, yn enwedig o ystyried bod y Cyngor wedi gwrthdroi ei benderfyniad gwreiddiol ar gyfer rhai disgyblion, ond nid ar gyfer eraill sydd ag amgylchiadau tebyg. Mae capasiti ysgolion yn mynd i beri mwy o bryder gan fod rhai ysgolion eisoes yn dangos arwyddion o fod yn rhy llawn, a gallai'r niferoedd gynyddu ymhellach ar sail y galw yn y blynyddoedd i ddod. Bydd cau ysgolion eraill sy'n llai o ran maint yn y dyfodol a throsglwyddo disgyblion i ysgolion eraill hefyd yn effeithio ar y sefyllfa hon.
O ran y dylanwad y gallaf ei gael, byddaf yn parhau i godi materion gyda’r arweinwyr gwleidyddol perthnasol er mwyn cefnogi achosion unigol lle mae angen i’r Cyngor fod yn fwy hyblyg yn fy marn i. Byddaf hefyd yn parhau i dynnu sylw fy nghydweithwyr yn Senedd Cymru at y pryderon. Rwy’n siarad yn rheolaidd â chynghorwyr Cyngor Sir Powys sy'n rhannu fy mhryderon, ac fe wnes i gefnogi eu cynnig a gyflwynwyd i Gyngor Powys yn galw ar arweinwyr y Cyngor i adolygu a diweddaru'r polisi cludiant ysgol fel ei fod yn hyblyg ac yn cefnogi dewis rhieni (yn enwedig pan nad oes cost ychwanegol i’r Cyngor). Fodd bynnag, ym mis Medi mae'r Cyngor yn cyflwyno polisi sy'n mynd yn groes, yn fy marn i, i'r cynnig a gytunwyd. O dan y polisi hwn, bydd plant yn cael eu cludo allan o'u cymunedau i ysgolion sy'n bellach i ffwrdd o'u cartrefi. Mae'r sefyllfa hon yn annerbyniol, ac mae pobl yn gofyn i'r Cyngor ddychwelyd i'r polisi blaenorol nes bod cabinet y Cyngor yn datblygu polisi newydd sy'n cydymffurfio â'r cynnig a gytunwyd ar 13 Hydref 2022 ac yn anrhydeddu ysbryd polisi Llywodraeth Cymru o ddarparu Cludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol i'r ysgol addas agosaf, ac yn ystyried dewis rhieni.