Economi leol gref
Diweddarwyd : Ionawr 2025
Campws Gweithgynhyrchu Uwch newydd, Y Drenewydd
Rydw i wedi bod yn gefnogwr brwd o Fargen Twf Canolbarth Cymru ac mi wnes i gyfrannu’n helaeth at gyflwyno'r achos dros fargen o'r fath i Lywodraethau blaenorol Cymru a'r DU pan oeddwn yn Gadeirydd Pwyllgor Economi y Senedd. Mae’r diffyg cynnydd gyda'r Fargen Twf, sy'n fuddsoddiad ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion, wedi bod yn rhwystredig. Mae prosiectau da bellach yn cael eu cyflwyno drwy’r Fargen Twf, gan gynnwys Campws Gweithgynhyrchu Uwch newydd yn y Drenewydd, ac mae safleoedd datblygu masnachol pellach yn cael eu hystyried yn Arddlîn, Tal-y-bont, y Trallwng a'r Drenewydd.
Bydd y Campws Gweithgynhyrchu Uwch newydd sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y Drenewydd wedi'i leoli ger y Coleg ar Ffordd Llanidloes. Mae'r cynlluniau'n cael eu datblygu gan Gyngor Sir Powys gyda chyllid ar gyfer y campws yn dod o Fargen Twf Canolbarth Cymru. Mae'r cynlluniau'n cynnwys creu canolfan arloesi/sgiliau ar gyfer gweithgynhyrchu, cefnogi busnesau gyda phrentisiaethau, sgiliau, ymchwil a datblygu. Bydd yn cynnwys parc technoleg cofleidiol ar y safle a'i nod yw datblygu'r sector Sgiliau Gwyrdd ochr yn ochr â Gweithgynhyrchu Uwch. Mae’n hwb cadarnhaol i economi Dyffryn Hafren ac rwy'n croesawu'r cynlluniau hyn yn fawr. Disgwylir i'r gwaith o adeiladu'r campws ddechrau ar y safle yn ddiweddarach eleni (2025).
Buddsoddi mewn seilwaith digidol
Nod y rhaglen ddigidol, sydd hefyd yn cael ei hariannu drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru, yw datgloi cyfleoedd economaidd trwy fuddsoddi mewn seilwaith digidol, a chyflymu’r ddarpariaeth seilwaith digidol ledled y Canolbarth. Hyd yma mae'r rhaglen ddigidol wedi canolbwyntio ar wella darpariaeth band eang i'r rhai sy'n anodd eu cyrraedd lle nad oes ymyrraeth fasnachol neu gyhoeddus wedi'i chynllunio yn y dyfodol agos, ac ar sut y gellir darparu cysylltedd digonol i’r eiddo hyn. Mae rhagor o fanylion am y prosiect yma <https://www.tyfucanolbarth.cymru/YRhaglenDdigidol>
Adfer Camlas Maldwyn
Rwy’n parhau’n gefnogwr brwd i’r gwaith adfer yng Nghamlas Maldwyn, ac rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r tîm ehangach sy'n gyfrifol am y gwaith. Mae'n hanfodol sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy i’r gamlas, ynghyd â gwella cyfleoedd twristiaeth i ymwelwyr, busnesau a'r gymuned.
Mae adfer y gamlas wedi bod yn bosib diolch i gyllid gan Gronfa Ffyniant Bro y DU a gyflwynwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU i gymryd lle cyllid yr UE, yn dilyn y penderfyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Bydd y prosiect hefyd yn elwa ar gyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru i symud i gam nesaf y gwaith adfer rhwng Llanymynech ac Arddlîn.
Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol, cyffrous ac rwy'n gwbl grediniol y bydd yn dod â buddion sylweddol ac eang i Sir Drefaldwyn, sy’n bwysig hefyd wrth helpu i ddenu buddsoddiad preifat.
Cyfleusterau Chwaraeon Newydd Drenewydd Actif Newtown
Rydw i wedi cefnogi Drenewydd Actif Newtown gyda'u nod o greu gofod cynhwysol a grymus i hyrwyddo iechyd a lles corfforol a meddyliol ar gyfer holl aelodau ardal y Drenewydd a'r cymunedau cyfagos. Nod y prosiect yw datblygu cyfleuster ystafelloedd newid a champfa y clwb chwaraeon, a chreu gofod cymunedol amlddefnydd newydd a fydd yn galluogi'r cyfleuster i gynnal amrywiaeth o raglenni a phrosiectau, gyda'r nod o rymuso ac ymgysylltu â'r gymuned leol. Rydw i wedi bod yn gweithio gyda Drenewydd Actif Newtown, ar y cyd â'r Cynghorydd Peter Lewington, i sicrhau ceisiadau am gyllid ar gyfer datblygu'r cyfleusterau hyn. Mae’r ceisiadau wedi cynnwys cais i Chwaraeon Cymru ynghyd â chais i'r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol a sefydlwyd hefyd gan Lywodraeth flaenorol y DU i gefnogi cymunedau.
Rydw i wrth fy modd bod degau o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad i'n hardal dros y pedair blynedd diwethaf wedi'u sicrhau drwy Lywodraeth flaenorol y DU a bod hynny wedi galluogi prosiectau sylweddol i symud yn eu blaen. Bydd hyn yn cryfhau ein cynnig twristiaeth ac yn gwneud Canolbarth Cymru yn lle deniadol i ymweld ag ef. Gyda Llywodraeth newydd yn San Steffan ers mis Gorffennaf, rwy'n gobeithio y bydd yr arian hwn yn parhau fel y gall Canolbarth Cymru, a Sir Drefaldwyn yn arbennig, elwa o hyd ar y cyllid a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth flaenorol.
Cefnogi ein Sector Twristiaeth
Ddwy flynedd yn ôl cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gyflwyno Treth Twristiaeth yng Nghymru. Siom o’r mwyaf oedd clywed bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod yn bwriadu bwrw rhagddi â'r cynnig yn dilyn yr ymgynghoriad, a chyflwynwyd y ddeddfwriaeth gerbron y Senedd yn hydref 2024. Bydd yr Ardoll Dwristiaeth Leol yn cael ei chymhwyso i arosiadau dros nos yng Nghymru os bydd awdurdodau lleol yn dewis ei chyflwyno.
Yn fy marn i, bydd y Dreth Twristiaeth yn niweidiol iawn i'r diwydiant twristiaeth a'r economi ehangach, ac yn enwedig i'n hardaloedd mwy gwledig. Pan fyddaf yn cwrdd â chynrychiolwyr y diwydiant, maen nhw’n nodi’n glir y difrod a ddaw yn sgil y dreth hon. Rydw i wedi galw'n barhaus am i’r polisi hwn gael ei ddileu a byddaf yn parhau i wneud hynny yn y Senedd.
Rydw i hefyd yn bryderus iawn ynghylch cyflwyno'r trothwy ar eiddo gwyliau hunanarlwyo Llywodraeth Cymru drwy gynyddu nifer y diwrnodau y mae'n ofynnol i eiddo hunanarlwyo fod ar gael i'w osod o 70 diwrnod i 182 diwrnod mewn un flwyddyn. O ganlyniad, mae llawer o eiddo hunanarlwyo yn gorfod talu cyfraddau treth sylweddol uwch oherwydd nad ydyn nhw’n gallu bodloni'r trothwy uwch. Daw'r rheolau newydd yn dilyn pryderon bod llawer o eiddo ledled Cymru yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai bwriad y newid i’r meini prawf yw sicrhau bod eiddo'n cael eu gosod yn rheolaidd fel busnesau llety gwyliau.
Mae'r newid hwn eisoes yn cael goblygiadau enfawr i lawer o fusnesau llety gwyliau ledled Cymru a bydd y polisi yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol yma yn y Canolbarth. Fy mhryder i yw bod rhai busnesau eisoes yn cael eu gorfodi i gau, a fydd yn niweidiol i'r economi leol.
Rydw i wedi codi'r mater hwn yn rheolaidd yn y Senedd, ac yn benodol gyda Phrif Weinidogion y gorffennol a’r presennol. Rydw i wedi ceisio dangos pa mor anodd fydd y polisi hwn i fusnesau yn y Canolbarth lle mae'r tymor gwyliau yn fyrrach nag mewn rhannau eraill o Gymru. Mae fy nghydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno esemptiadau pellach i'r polisi hwn, ac i leihau nifer y diwrnodau i 105 diwrnod, ac i orfodi pleidlais yn y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar y rheol 182 diwrnod. Yn anffodus, nid yw Llywodraeth Cymru yn gwrando ac mae wedi gwrthod adolygu'r ddeddfwriaeth hon.
Mae fy nghydweithwyr a minnau yn y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i fyfyrio ar y pryderon difrifol a fynegwyd gan ddarparwyr llety hunanarlwyo ledled Cymru. Mae angen i Lywodraeth Cymru gefnogi’r sector yn hytrach na gwthio polisïau byth a hefyd sy’n rhwystro ei dwf. Byddaf yn parhau i wrthwynebu'r materion hyn ac i graffu ar Lywodraeth Cymru. Mae yna achos clir dros newid.
Mae angen i'n diwydiant twristiaeth fod yn gryfach, ac mae poblogrwydd cynyddol treulio’r gwyliau gartref ac atyniadau twristiaeth ecogyfeillgar yn ategu hyn. Mae Banc Datblygu Cymru wedi tynnu sylw at y busnesau twristiaeth a lletygarwch hyn sy'n dal i gael trafferth adfer o'r pandemig.
Mae twristiaeth yn hynod bwysig i economi’r Canolbarth - mae’n cefnogi ein busnesau lleol yn ogystal â thynnu sylw at Bowys fel cyrchfan i ymweld ag ef. Mae'n un o'r cyfranwyr mwyaf at swyddi lleol, busnesau lleol, a'r economi leol - ac felly mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i gefnogi'r diwydiant.