Economi Leol Gref

Economi Leol Gref

Diweddarwyd: Ionawr 2024

Ffyniant Bro y Canolbarth   

Yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae llywodraeth y DU wedi sefydlu cronfa Ffyniant Bro https://www.gov.uk/government/collections/new-levelling-up-and-community-investments yn lle arian yr UE. Mae'n hynod bwysig i ninnau yma yn y Canolbarth, gan fod y gronfa Ffyniant Bro yn rhoi cyfle i Bowys yn arbennig wneud cais am fuddsoddiad nad oedd ar gael trwy system ariannu flaenorol Ewrop. Yn fy marn i, nid oedd yn gynllun ariannu arbennig o deg ledled Cymru. Ni dderbyniodd Powys gyfran deg o arian yr UE gan nad oedd yn cael ei hystyried yn un o’r ardaloedd economaidd tlotaf ac felly nid oedd yn derbyn y gyfradd uwch o gyllid o gymharu ag ardaloedd eraill o Gymru.

Mae'r gronfa Ffyniant Bro yn helpu i gefnogi twf economaidd lleol er mwyn adfywio canol ein trefi a'r stryd fawr, helpu unigolion i gael gwaith, gwella cysylltiadau trafnidiaeth lleol a buddsoddi mewn diwylliant lleol, wrth roi llais cryfach i gymunedau gymryd meddiant o asedau lleol pwysig a allai gael eu colli fel arall.

Er mwyn cefnogi'r amcanion hyn, mae Llywodraeth y DU wedi lansio pedair rhaglen fuddsoddi newydd i gefnogi cymunedau ledled y wlad. Mae pob un yn rhannu heriau a chyfleoedd cyffredin, y mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o fynd i'r afael â nhw mewn cydweithrediad â phartneriaid lleol. Y rhaglenni buddsoddi hyn yw:

  • Cronfa Adfywio Cymunedol y DU
  • Y Gronfa Ffyniant Bro
  • Y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol
  • Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Rwyf wedi bod yn cefnogi ceisiadau gan Gyngor Sir Powys i'r cronfeydd hyn er mwyn cefnogi sawl prosiect yn Sir Drefaldwyn.

Ym mis Tachwedd 2023, croesawodd Craig Williams AS a minnau'r newyddion gan Lywodraeth y DU fod Powys wedi llwyddo yn nhrydedd rownd y Gronfa Ffyniant Bro i dderbyn £17,714,498. Mae'r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar y dyfarniad gwerth £16 miliwn a dderbyniodd Sir Drefaldwyn yn rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer adfer Camlas Maldwyn.

Roedd y cais diweddaraf hwn yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn trafnidiaeth yn y Sir i gefnogi'r diwydiant twristiaeth hamdden yn ogystal â'r economi ehangach yn y Canolbarth. Bydd gwelliannau i Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar draws y sir yn ogystal â rhaglen ar raddfa fawr i roi wyneb newydd ar briffyrdd. Mae rhai o'r prosiectau hyn yn cynnwys pontydd troed hawliau tramwy Aberriw, Caersŵs, Garthmyl a Llangadfan, a gwaith ail-wynebu mewn lleoliadau ar draws y sir, yn enwedig mannau poblogaidd i dwristiaid fel Llyn Efyrnwy a Llanrhaeadr.

Rwy'n falch iawn bod degau o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn ein hardal dros y tair blynedd diwethaf wedi'i sicrhau. Bydd yr arian hwn yn darparu buddsoddiad mawr ei angen i alluogi prosiectau arwyddocaol i symud ymlaen, a fydd yn cryfhau ein cynnig twristiaeth, ac yn gwneud Canolbarth Cymru’n lle deniadol i ymweld ag ef.

Byddaf yn parhau i gefnogi ceisiadau'r Canolbarth sy'n cynnig gwerth am arian, a byddaf yn gweithio ochr yn ochr â’m cydweithiwr Craig Williams AS a Chyngor Sir Powys ar gyflawni’r holl brosiectau hyn.

Drwy'r gronfa Perchnogaeth Gymunedol, mae Llywodraeth y DU yn darparu £150 miliwn dros bedair blynedd i gefnogi grwpiau cymunedol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gymryd perchnogaeth o asedau ac amwynderau sydd mewn perygl o gael eu colli. Gall grwpiau gwirfoddol a chymunedol wneud cais am gyllid i gaffael asedau pwysig a'u rhedeg er budd y gymuned leol. Bydd y Gronfa ar waith tan fis Mawrth 2025 gyda chyfnodau ymgeisio rheolaidd gydol y flwyddyn i ymgeiswyr gyflwyno cais llawn i'r Gronfa. Mae'r manylion ar gael yn https://www.gov.uk/government/publications/community-ownership-fund-prospectus

Bargen Dwf y Canolbarth 

Rwyf wedi bod yn gefnogwr brwd i Fargen Dwf y Canolbarth ac yn rhan fawr o’r gwaith o gyflwyno’r achos am fargen o’r fath gyda Llywodraethau blaenorol Cymru a’r DU. Mae'r diffyg cynnydd gyda'r Fargen Dwf - buddsoddiad ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion - yn rhwystredig iawn.

Mae’r fargen yn dynodi £110 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Nod y buddsoddiad yw creu rhwng 1,100 a 1,400 o swyddi yn y Canolbarth erbyn 2032 a sicrhau manteision cymdeithasol ac economaidd a chreu cyfleoedd busnes. Mae Cynghorau Sir Powys a Cheredigion wedi bod yn gweithio ar y prosiectau ac o'r diwedd mae cyfres o raglenni a phrosiectau ar y rhestr fer wedi'u nodi ar draws sawl thema gan gynnwys digidol, twristiaeth, amaethyddiaeth, bwyd a diod, ymchwil ac arloesi a chefnogi menter. 

Mae llawer mwy o waith i’w wneud o hyd i lunio manylion y prosiectau hyn ynghyd â chysylltedd gwell a buddsoddiad ar gyfer adeiladau busnes addas yn y Canolbarth. Hoffwn weld ein busnesau lleol yn rhan o’r trafodaethau hefyd. Rwyf wedi dweud erioed ei bod hi’n bwysig ymgysylltu â busnesau a gwrando ar eu hanghenion busnes, nid dim ond beth mae sefydliadau’r sector cyhoeddus yn ei gredu yw anghenion busnesau. Byddaf yn parhau i gefnogi’r prosiect, ond mae'n rhaid iddo gyflawni dros ein busnesau a’n heconomi leol.   

Cefnogi ein Sector Twristiaeth

Yn ystod 2023 cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gyflwyno Treth Dwristiaeth yng Nghymru, ac roeddwn yn siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod yn bwriadu bwrw ymlaen â'r cynnig, gyda'r ddeddfwriaeth ddrafft i fod i gael ei chyflwyno i'r Senedd yn nhymor yr Hydref 2024. Byddai’r Dreth Dwristiaeth Leol yn cael ei chodi ar arosiadau dros nos yng Nghymru.

Yn fy marn i, byddai treth dwristiaeth yn niweidiol iawn i’r diwydiant twristiaeth a’r economi’n ehangach yn enwedig i’n hardaloedd gwledig. Pan gefais gyfarfod gyda chynrychiolwyr y diwydiant fe ddangoswyd y niwed y byddai’r dreth hon yn ei achosi yn glir i mi. Rwyf wedi galw dro ar ôl tro am gael gwared ar y polisi hwn a byddaf yn parhau i wneud hynny yn y Senedd.

Hefyd, rwy'n poeni am gyflwyno trothwy newydd gan Lywodraeth Cymru ar eiddo hunanddarpar trwy gynyddu nifer y diwrnodau y mae'n rhaid i eiddo hunanddarpar fod ar gael i’w osod, o 70 diwrnod i 182 diwrnod mewn un flwyddyn. O ganlyniad, bydd llawer o eiddo hunanddarpar yn gorfod talu cyfraddau trethi llawer uwch yn sgil methu â bodloni’r trothwy uwch. Mae’r rheolau newydd yn dilyn pryderon bod llawer o eiddo ledled Cymru’n cael eu defnyddio fel ail gartrefi. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai bwriad y newid yn y meini prawf yw sicrhau bod eiddo’n cael ei osod yn rheolaidd fel busnes llety gwyliau.

Yn fy marn i, bydd y newid hwn yn effeithio’n aruthrol ar lawer o fusnesau gwyliau ledled Cymru. Bydd y polisi newydd hwn yn cael effaith fawr ar fusnesau’r Canolbarth, a llawer o fusnesau llety gwyliau. Fy mhryder i yw y bydd rhai busnesau’n gorfod cau, a fydd yn niweidiol i’r economi leol.

Rydw i wedi codi’r mater hwn yn gyson yn y Senedd, a chyda’r Prif Weinidog yn benodol, ac wedi ceisio dangos pa mor anodd fydd y polisi hwn i fusnesau'r Canolbarth lle mae’r tymor gwyliau’n fyrrach nag mewn rhannau eraill o Gymru. Rwyf i a’m cydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno eithriadau pellach i'r polisi hwn ac i leihau nifer y diwrnodau i 105 diwrnod ac wedi gorfodi pleidleisiau yn y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar y rheol 182 diwrnod.

Mae fy nghydweithwyr a minnau yn y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y pryderon difrifol a fynegwyd gan ddarparwyr llety hunanarlwyo ledled Cymru. Mae angen i Lywodraeth Cymru gefnogi’r sector nid cyflwyno polisïau parhaus sy'n rhwystro ei dwf. Byddaf yn parhau i wrthwynebu'r materion hyn a pharhau i graffu ar Lywodraeth Cymru. Mae yna achos clir dros newid.

Mae angen helpu'r diwydiant twristiaeth i adfer a chodi’n gryfach nag yr oedd cyn y pandemig gyda chymorth tueddiadau newydd fel gwyliau gartref ac atyniadau twristaidd ecogyfeillgar newydd. Mae Banc Datblygu Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith mai’r busnesau twristiaeth a lletygarwch hyn sy'n dal i gael trafferth adfer o'r pandemig.

Mae’r diwydiant yn bwysig tu hwnt i economi’r Canolbarth, gan gefnogi ein busnesau lleol yn ogystal â thynnu sylw at Bowys fel cyrchfan i ymweld â hi. Twristiaeth yw un o’r cyfranwyr mwyaf at swyddi lleol, busnesau lleol a’r economi leol ac felly mae'n hollbwysig ein bod ni’n parhau i gefnogi’r diwydiant.