Gwella Band Eang a Signal Ffonau Symudol
Diweddarwyd Ionawr 2025
Band eang
Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud o ran ehangu darpariaeth band eang ledled Powys, ond mae llawer o gartrefi yn dal i gael trafferth gyda chysylltedd gwael. Yn Sir Drefaldwyn, mae dros 89% o adeiladau yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn (dros 30 Mbps), ac mae gan 61% fand eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid (dros 1000 Mbps). Fodd bynnag, mae'r ffigurau hyn yn parhau i fod yn is na'r cyfartaleddau cenedlaethol o 98% ac 81%, yn y drefn honno.
Mae Prosiect Gigadid Llywodraeth y DU, menter gwerth £5 biliwn i ddarparu band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid i'r ardaloedd anoddaf eu cyrraedd, yn mynd rhagddo ledled Sir Drefaldwyn. Rydw i wedi gweithio yn agos â’r cyn-AS Craig Williams i helpu i hyrwyddo sawl cynllun sydd wedi'u targedu'n lleol.
Mae'r gwaith o gyflwyno mewn ardaloedd fel Ceri, Llanbrynmair, a Thregynon wedi bod yn llwyddiannus, gyda Llanbrynmair wedi cyrraedd darpariaeth ffeibr llawn gwibgyswllt 100% i bob cartref ar gyfnewidfa Llanbrynmair, sef yr ardal gyntaf yn y DU i wneud hynny. Mae prosiectau tebyg yn Aberriw wedi cyrraedd 100% o'r targed, gydag Openreach yn uwchraddio'r rhwydwaith i gwmpasu 470 o adeiladau yn ystod 2024. Ym mis Rhagfyr (2024), roedd gan 94% o gartrefi yn ardal cyfnewidfa Tregynon fynediad at ddarpariaeth ffeibr lawn. Yn Llanrhaeadr, mae'r gwaith adeiladu yn parhau ac ym mis Rhagfyr roedden nhw wedi cyrraedd darpariaeth ffeibr llawn o 50%. Mae miloedd o eiddo yn y Canolbarth wedi cael eu cysylltu yn ystod 2024.
Trwy Building Digital UK (BDUK), sefydliad a grëwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU, mae contractau'n cael eu dyfarnu i ddod â band eang gigadid i ardaloedd eraill nad ydyn nhw’n dod o dan gynlluniau masnachol. Mae'r bartneriaeth rhwng BDUK, cynghorau lleol ac Openreach yn sicrhau bod gwaith seilwaith, fel cloddio ffosydd a gosod ffeibr yn datblygu mewn ffordd effeithlon. Disgwylir i lawer mwy o adeiladau elwa eleni (2025). Unwaith y bydd y rhwydwaith ar waith, bydd trigolion a busnesau yn gallu uwchraddio i'r gwasanaethau gwell hyn trwy gyfrwng eu darparwyr.
Dwi’n parhau i gwrdd â chynrychiolwyr y diwydiant yn rheolaidd, gan gynnwys Ofcom ac Openreach, i eirioli dros wasanaethau band eang gwell.
Ffonau Symudol
Dwi wedi bod yn cefnogi cynlluniau ar gyfer 16 mast symudol newydd ar draws Sir Drefaldwyn. Dyma’r system gyfathrebu hollbwysig 4G newydd ar gyfer gwasanaethau brys Prydain. Mae sawl mast eisoes yn weithredol, ac mae’r manylion i’w gweld isod. Byddaf yn cyfarfod â BDUK yn ystod mis Ionawr (2025) i drafod y cynnydd ar y mastiau nad ydyn nhw ar-lein eto.
Mae seilwaith allweddol hefyd yn cael ei ddarparu gan EE trwy gyfrwng gwaith uwchraddio i’w rwydwaith presennol, ac mae'r Swyddfa Gartref yn ategu hyn trwy adeiladu mastiau i roi signal rhwydwaith symudol 4G i'r gwasanaethau brys yn rhai o rannau mwyaf gwledig ac anghysbell Prydain. Bydd hyn yn golygu gwell cysylltedd o lawer ar gyfer ffonau symudol i ni yn y Canolbarth.
Dwi hefyd yn siarad yn rheolaidd â darparwyr ffonau symudol i bwysleisio pwysigrwydd darparu gwasanaeth masnachol drwy'r mastiau hyn.
Diweddariadau ar y mastiau isod:
• Y Fan, Llanidloes - Mae'r mast hwn ar waith ac mae’n darparu signal newydd ers mis Mawrth 2024.
• Llanidloes - Mae'r mast hwn ar waith ac yn darparu signal newydd ers mis Mawrth 2024.
• Llangynog - Trosglwyddwyd i’r Gweithredwyr Rhwydwaith Symudol ym mis Hydref. Bydd yn cael ei roi ar waith dros y 12 mis nesaf.
• Penffordd-las – Dyw’r mast hwn ddim yn rhan o’r rhaglen wreiddiol bellach. Fodd bynnag, bydd y mast yn parhau i gael signal masnachol EE fel rhan o gytundeb EE gyda'r Swyddfa Gartref.
• Llanrhaeadr-ym-mochnant - trosglwyddwyd i’r gweithredwyr rhwydweithiau symudol ym mis Hydref. Bydd yn cael ei roi ar waith dros y 12 mis nesaf.
• Coedwig Hafren, Llanidloes - Cymeradwywyd y mast hwn ym mis Hydref. Disgwylir i'r gwaith adeiladu ar gyfer y gwaith uwchraddio ddechrau'r mis hwn.
• Manafon, y Trallwng - Mae'r mast hwn yn dal i gael ei ystyried ar gyfer y rhaglen.
• Rhiwargor - Mae'r mast hwn wedi'i roi ar waith ac mae’n darparu signal newydd ers mis Mai 2024.
• Llyn Efyrnwy, Llanwddyn - Mae'r mast hwn yn dal i gael ei ystyried ar gyfer y rhaglen.
• Ty’n-y-ffynon, Llyn Efyrnwy - Mae'r mast hwn yn y cam dylunio a rhoi ar waith ac mae hyn yn rhan o gam cyntaf y broses gymeradwyo.
• Maengwynedd, Croesoswallt - Mae'r mast hwn wedi'i roi ar waith ac mae’n darparu signal newydd ers mis Tachwedd 2024.
• Llanfyllin - Mae'r mast hwn wedi'i roi ar waith ac mae’n darparu signal newydd ers mis Hydref 2024.
• Tregynon - Mae'r mast hwn wedi'i roi ar waith ac mae’n darparu signal newydd ers mis Mehefin 2024.
• Bettws Cedewain - Cymeradwywyd y mast hwn i'w uwchraddio ym mis Hydref 2024 ac mae disgwyl i'r gwaith uwchraddio gael ei gwblhau ym mis Chwefror 2025.
• Aberhosan, Machynlleth - Mae'r mast hwn yn dal i gael ei ystyried ar gyfer y rhaglen.
• Hirnant, Abertridwr - Mae'r mast hwn yn dal i gael ei ystyried ar gyfer y rhaglen.