
Diweddarwyd Gorffennaf 2025
Cynigion i ohirio triniaeth i gleifion o Bowys yn Ysbytai Lloegr
O 1 Gorffennaf, bydd rhai cleifion o Bowys yn aros yn hirach na chleifion o Loegr, pan fyddant yn cael eu trin mewn ysbytai yn Lloegr. Cytunwyd ar y cynlluniau a gynigiwyd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ôl ym mis Mawrth. Bydd hyn yn arwain at gleifion Powys yn wynebu mynediad arafach at driniaeth yn ysbytai Lloegr er gwaethaf y capasiti sydd ar gael.
Dywedodd y Bwrdd fod angen ystyried camau ychwanegol i fyw o fewn eu modd ac i ymateb i'r disgwyliadau ariannol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’n golygu y bydd ysbytai yn Henffordd, Amwythig, Telford a Chroesoswallt bellach yn gweithredu yn unol â thargedau perfformiad GIG Cymru, gan arafu triniaeth i gleifion o Bowys.
Ni ellir amddiffyn y gofyn i ddarparwyr iechyd yn Lloegr arafu'r broses o ddarparu gofal i gleifion o Bowys, er bod digon o gapasiti. Mae’n annerbyniol bod cleifion o Bowys yn cael eu trin fel dinasyddion ail ddosbarth.
Rydw i wedi codi'r mater hwn yn aml yn y Senedd. Gofynnais i'r Llywodraeth sicrhau bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael ei ariannu'n ddigonol i gyrraedd targedau amser aros Lloegr ar gyfer trigolion Powys sy'n cael eu cyfeirio ar draws y ffin.
Pan godais hyn gyda'r Prif Weinidog, roeddwn i'n falch ei bod hi'n cytuno bod y sefyllfa yn annerbyniol. Dilynais y mater mewn llythyr ffurfiol. Yn anffodus, cefais ymateb amhriodol gan Lywodraeth Cymru. O ystyried ymatebion y Prif Weinidog dro ar ôl tro i mi fod y sefyllfa yn annerbyniol, gofynnais iddi hi a'r Gweinidog Iechyd a fyddai'r Llywodraeth yn sicrhau bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael ei ariannu i bwynt lle y gallai brynu capasiti gofal iechyd yn Lloegr yn seiliedig ar amseroedd aros yn Lloegr.
Ni wnaeth ymateb y Llywodraeth ateb y cwestiwn hwn ac, yn hytrach, cadarnhaodd fod arian wedi'i ddarparu i gyrraedd targedau amser aros llawer arafach Cymru. Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru, er ei bod yn dweud fod y sefyllfa’n annerbyniol, bellach yn derbyn y bydd cleifion o Bowys yn aros yn hirach na chleifion o Loegr hyd yn oed pan fyddant yn cael eu trin yn yr un ysbyty ac yn cael eu gweld gan yr un gweithwyr iechyd proffesiynol, a hynny ar sail y ffaith eu bod yn byw ym Mhowys.
Rwy'n parhau i graffu ar safbwynt Llywodraeth Cymru; ni allant ei chael hi’r ddwy ffordd, gan ddweud bod y sefyllfa’n annerbyniol er mai nhw sy’n gyfrifol yn y pen draw am gleifion GIG Cymru a Phowys.
Camau i Ddiogelu Gwasanaethau Strôc Acíwt yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth
Ymhlith y cynigion sy'n cael eu hystyried gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mae'r posibilrwydd o israddio gwasanaethau strôc ym Mronglais, symudiad a allai fod â goblygiadau dinistriol i gleifion yn y Canolbarth.
Mewn opsiynau sydd wedi'u cyflwyno gan y bwrdd iechyd, byddai Ysbyty Bronglais yn dod yn ysbyty 'Trin a Throsglwyddo' ar gyfer cleifion strôc. Byddai hyn yn golygu y byddai cleifion wedyn yn cael eu trosglwyddo i ysbyty arall yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda.
Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Mehefin (2025) yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, daeth tua 400 o bobl at ei gilydd o bob rhan o'r rhanbarth i leisio’u pryderon. Roedd consensws cryf yn y cyfarfod y byddai’r bwriad i gael gwared ar yr Uned Strôc ym Mronglais a'r newid i fod yn fodel 'Trin a Throsglwyddo', gan gludo cleifion i ysbytai Llanelli neu Llwynhelyg, yn peryglu diogelwch a lles cleifion. Mynegodd y gynulleidfa, a oedd yn cynnwys cyn-glinigwyr, bryder mawr bod y cynlluniau hyn yn anymarferol ac yn beryglus.
Roeddwn i'n falch o annerch y cyfarfod ochr yn ochr â gwleidyddion eraill. Tynnais sylw at y ffaith fod Uned Strôc Bronglais yn achub bywydau pobl y Canolbarth ac mi wnes i dalu teyrnged i'r grŵp ymgyrchu 'Diogelu Gwasanaethau Bronglais'. Yn fy sylwadau i'r cyfarfod cyhoeddus, tynnais sylw at ba mor bwysig yw hi y gall aelodau o'r teulu ymweld ag anwyliaid tra’u bod yn gwella yn dilyn strôc a nodais y byddai teuluoedd o ardaloedd fel Llanidloes neu Fachynlleth yn wynebu taith pedair awr yn ôl ac ymlaen i gefnogi anwyliaid yn ystod eu cyfnod critigol o adsefydlu.
Mae'n gwbl afresymol disgwyl i gleifion ym Mhowys sydd wedi dioddef strôc gael eu trosglwyddo i Ysbyty Llwynhelyg neu Lanelli.
Mae pob awr yn hanfodol ar ôl cael strôc a byddai'r holl opsiynau a gynigir ar hyn o bryd yn golygu na fyddai preswylwyr yn cael mynediad at ofal strôc amser-dyngedfennol. Byddai hyn eto yn golygu bod cleifion Powys yn dioddef.
Rydw i wedi codi'r mater hwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Jeremy Miles sawl gwaith eleni. Rydw i hefyd wedi cael sawl cyfarfod gyda'r Gymdeithas Strôc ynglŷn â'r cynigion hyn. Mae llawer gormod yn y fantol i gael hyn yn anghywir. Rydw i wedi annog Llywodraeth Cymru, a'r Byrddau Iechyd dan sylw i sicrhau nad yw cleifion ym Mhowys yn cael eu hanwybyddu a bod eu mynediad at wasanaethau strôc hanfodol ac amser-dyngedfennol yn cael ei warantu.
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan 31 Awst 2025. I weld ac ymateb i'r ymgynghoriad, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/canolbarth-a-gorllewin-iachach/ymgynghoriad-cynlluniau-gwasanaethau-clinigol/.
Newidiadau i Ysbyty Llanidloes ac Ysbytai Bwthyn eraill
Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cyfarfod ddiwedd Gorffennaf (2025) i benderfynu ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llanidloes.
Y llynedd, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys newidiadau dros dro arfaethedig i'r ddarpariaeth gwasanaethau mewn ysbytai bwthyn lleol. Roedd pryder arbennig ynglŷn ag israddio gwasanaethau yn Ysbyty Coffa’r Rhyfel Llanidloes. Mynychais gyfarfod cyhoeddus yn Llanidloes yr haf diwethaf, lle’r oedd trigolion o Lanidloes a'r ardal gyfagos yn bresennol.
Fe wnaeth cannoedd o aelodau o'r cyhoedd amlinellu eu pryderon am gynlluniau'r Bwrdd Iechyd i wneud newidiadau i'r ddarpariaeth gwasanaethau yn Ysbyty Llanidloes, ond hefyd, roedd yno feddygon teulu a chyn-feddygon teulu, a gweithwyr iechyd proffesiynol lleol eraill a oedd yn gwrthwynebu cynlluniau'r Bwrdd Iechyd. Rwy’n bryderus y bydd yr hyn y mae'r Bwrdd Iechyd yn cyfeirio ato fel newid dros dro i'r ddarpariaeth, yn newid parhaol. Testun pryder pellach yw y bydd israddio gwasanaethau yn ei gwneud hi'n anoddach cadw a recriwtio staff.
Yn ddiweddarach y llynedd, cymeradwyodd y Bwrdd Iechyd gynigion a fydd yn newid y model o ofal cleifion mewnol yn Llanidloes am gyfnod o chwe mis o fis Rhagfyr 2024.
Rydw i wedi rhannu ein pryderon yn uniongyrchol yn y Senedd a gyda Gweinidogion sawl gwaith, ac wedi gofyn yn ddiweddar i'r Prif Weinidog ystyried gwir ddigonolrwydd y broses ymgynghori hon ac i egluro a yw'r newidiadau arfaethedig yn rhai dros dro go iawn. Dydy’r ffaith bod yr israddiadau hyn yn cael eu gyrru gan gyfyngiadau ariannol ddim yn ennyn hyder.
Pan wnes i bwyso ar y Prif Weinidog ynglŷn â’r mater hwn, awgrymodd fod newidiadau i wasanaethau yn dod o dan gylch gorchwyl byrddau iechyd lleol yn unig, gan ymbellhau Llywodraeth Cymru o'r realiti sy'n wynebu ein hysbytai. Ond credaf fod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i ariannu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ddigonol.
Byddaf yn parhau i rannu ein pryderon yn y Senedd a gyda'r Bwrdd Iechyd.
Cyfleuster Iechyd Newydd Canolbarth Cymru
Ar ôl blynyddoedd lawer o ymgyrchu, bydd ysbyty a chyfleuster iechyd newydd yn cael ei adeiladu yn y Drenewydd a bydd yn gweithio ochr yn ochr â'r rhwydwaith presennol o ysbytai cymunedol ym Machynlleth, Llanidloes a'r Trallwng, yn ogystal ag ysbytai cyffredinol ardal o amgylch ein ffiniau. Bydd hyn yn sicrhau bod claf yn derbyn triniaeth briodol yn llawer nes at y cartref.
Mae'n rhwystredig bod cynlluniau'n symud ymlaen yn arafach na’r disgwyl yn wreiddiol.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys yn arwain Rhaglen Lles Gogledd Powys. Bydd angen i Lywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo ei chefnogaeth i'r ysbyty a'r cyfleuster newydd eisoes, gymeradwyo’r cynlluniau yr un fath.
Mae cynlluniau hefyd yn cael eu datblygu gan Gyngor Sir Powys ar gyfer disodli adeilad ysgol newydd, Ysgol Calon y Dderwen, sydd ar hyn o bryd ar y safle lle bydd yr hwb iechyd newydd yn y Drenewydd.
Er fy mod i’n falch fod cefnogaeth pob sefydliad i'r prosiect a'r cyfleuster adeiladu newydd yn gadarn, rwy'n siomedig gyda chyflymder y cynnydd. Mae'r prosiect bellach wedi'i gynllunio i gael ei gyflawni fesul cam, yn hytrach nag mewn un cam, ac mae’r cyfleusterau newydd a'r adeiladau wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl.
Dydw i ddim yn credu bod Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys, na'r Bwrdd Iechyd wedi symud ymlaen gyda’u cynlluniau mor gyflym ag yr oedden nhw wedi ymrwymo iddyn nhw. Fodd bynnag, nodaf fod y Bwrdd Iechyd a Chyngor Sir Powys wedi cyflwyno cais am gyllid i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd 2024 ar gyfer Cam Un o ddatblygiad y campws. Bydd y Cam hwn yn canolbwyntio ar agwedd gymunedol a gofal sylfaenol y prosiect, ac ar ddatblygu cyfleusterau newydd o'r radd flaenaf ar y campws. Gallai'r cam cyntaf fod ar agor erbyn 2028.
Byddai gwasanaethau Cam Un yn cynnwys:
- hwb iechyd i fenywod
- gwasanaethau i blant a phobl ifanc
- darpariaeth iechyd meddwl i blant ac oedolion
- gofod clinig ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol
- mannau i’w harchebu gan ystod o weithgareddau lles dan arweiniad y gymuned
- siop un stop ar gyfer gwybodaeth am fyw’n iach
- cyfleusterau hyfforddi ar gyfer y gweithlu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol
- cyngor a chymorth tai, gan gynnwys i'r rhai sy'n ddigartref.
Rwy'n falch fod cam un yn symud ymlaen. Mae'r bwrdd iechyd yn dweud wrthyf eu bod yn bwriadu rhannu eu cynlluniau gyda'r cyhoedd ehangach yn ddiweddarach yr Haf hwn.
Mae ceisiadau cyllid ar gyfer y camau nesaf bellach yn cael eu hystyried. Byddai Cam Dau yn datblygu cyfleusterau newydd ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd yn Ysbyty Sir Drefaldwyn yn y Drenewydd, tra byddai Cam Tri yn ehangu'r ystod o wasanaethau diagnostig a thriniaeth sydd ar gael yng Ngogledd Powys, yn ogystal â lleihau'r angen i deithio i ysbytai acíwt y tu allan i'r sir ar gyfer rhai triniaethau. Rydw i, ynghyd â'r Bwrdd Iechyd a'r Cyngor, yn parhau i ganolbwyntio'n gadarn ar sicrhau ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y tri cham.
Gallwch ddysgu mwy a chofrestru i dderbyn diweddariadau pellach yn www.dweudeichdweudpowys.cymru
Rwy'n parhau i gefnogi'r prosiect ac rwy'n awyddus y bydd y cyfleuster newydd yn arwain at wasanaethau iechyd a lles mawr eu hangen a gwell yn ein hardal; gydag archwiliadau iechyd ac apwyntiadau gwell yn cael eu cynnig yn lleol, a mwy o fân lawdriniaethau yn cael eu darparu ym Mhowys yn hytrach na gorfod teithio allan o'r sir.
Darpariaeth Gwasanaeth Brys Newydd yn Amwythig
Mae'r gwaith adeiladu wedi bod yn mynd rhagddo ers y llynedd, fel rhan o gynllun i'w sefydlu fel y prif ysbyty brys ar gyfer Gogledd Powys, Swydd Amwythig, a Telford a Wrekin. Mae’n ddatblygiad cyffrous i ni yn y Canolbarth, oherwydd bydd yn golygu mynediad at well gofal brys sy'n achub bywydau yn Amwythig.
Mae'r gwasanaethau a gynlluniwyd yn fwy sylweddol nag adran damweiniau ac achosion brys safonol. Mae hefyd yn golygu y bydd gwasanaethau cleifion mewnol dan arweiniad ymgynghorwyr Menywod a Phlant, yr adran Pen a’r Gwddf, Gofal Critigol a'r Uned Strôc yn dychwelyd i Amwythig.
Bydd Ysbyty Brenhinol Amwythig yn arbenigo mewn Gofal Brys, tra bydd Ysbyty'r Dywysoges Frenhinol yn Telford yn dod yn Ganolfan Gofal Cynlluniedig, gyda'r ddau ysbyty yn cynnal Canolfannau Gofal Brys 24 awr.
Yn ystod fy ymweliad y llynedd, roeddwn i’n gallu gweld y gwaith sydd wedi dechrau ar yr ehangiad pedwar llawr newydd i gefnogi'r gwasanaethau hyn. Efallai y bydd ymwelwyr â'r ysbyty eleni wedi sylwi ar rywfaint o darfu, wrth i'r gwaith adeiladu symud gam ymlaen i wireddu’r gwelliannau hanfodol hyn.
Credaf y bydd y cynlluniau yn lleihau amseroedd aros yr adrannau Damweiniau ac Achosion Brys cyfredol yn y ddau ysbyty, yn ogystal â chyfnodau gollwng a gadael ambiwlansys. Bydd y newidiadau a'r buddsoddiad yn helpu'r Ymddiriedolaeth i barhau i wynebu ei heriau ehangach a gwneud y diwygiadau angenrheidiol i ddenu ymgynghorwyr a chlinigwyr o'r radd flaenaf.
Recriwtio Meddygon Teulu a Deintyddion
Ar y cyd â Chymdeithas Feddygol Prydain (BMA) Cymru, mi wnes i gynnal digwyddiad yn y Senedd y llynedd i gefnogi eu hymgyrch 'Achub ein Meddygfeydd'.
Lansiodd BMA Cymru eu hymgyrch 'Achub Ein Meddygfeydd' yn 2023. Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru ymrwymo i becyn achub ar gyfer Ymarfer Cyffredinol ac i roi'r cymorth sydd ei angen ar feddygon teulu a'u cleifion. Datgelodd data'r arolwg, a rannwyd gydag Aelodau o'r Senedd yn nigwyddiad 'Achub Ein Meddygfeydd', fod 87% o feddygon teulu yn ofni bod eu llwythi gwaith cynyddol yn effeithio ar ddiogelwch cleifion wrth i Gymru weld ei 100fed meddygfa yn cau.
Dydy’r llwyth gwaith anghynaliadwy parhaus i feddygon teulu ddim wedi gwella ac mae'r pwysau fel arfer yn fwy yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae angen buddsoddi yn ein seilwaith gofal iechyd ac mae'n hanfodol bwysig ein bod yn sicrhau bod gan ein meddygfeydd yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i wasanaethu cymunedau ledled Sir Drefaldwyn yn effeithiol. Dros y blynyddoedd diwethaf rydw i wedi siarad â meddygon teulu lleol sydd wedi bod yn trafod y pwysau sydd arnyn nhw, ac rwy'n gwbl ymwybodol nad oes gan lawer o feddygfeydd y cyflenwad llawn o feddygon sydd eu hangen i wasanaethu'r boblogaeth.
Mae recriwtio deintyddion yn Sir Drefaldwyn hefyd yn parhau i fod yn anodd. Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru dro ar ôl tro i weithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i ganiatáu i ddeintyddfeydd gynyddu eu nifer o gleifion GIG Cymru. Rydw i hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi hwb i nifer y deintyddion drwy ad-dalu ffioedd dysgu i ddeintyddion sy'n gweithio yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl eu hastudiaethau.
Mae yna lawer o drigolion sy’n methu cael apwyntiad i weld deintydd y GIG, ac yn ddiweddar symudodd y deintydd llawn amser olaf yn y Drenewydd allan o'r ardal i weithio yn Lloegr. Rydw i wedi dweud yn rheolaidd wrth y Gweinidog Iechyd blaenorol, ac yn awr y Prif Weinidog, nad yw contract deintyddiaeth presennol y GIG yn gweithio i ddeintyddion. Rhaid cytuno ar gyswllt newydd, ac mae angen i Lywodraeth Cymru baratoi pecynnau ariannol i ddenu deintyddion profiadol i weithio yng nghefn gwlad Cymru.
Byddaf yn parhau i rannu fy mhryderon ynglŷn â recriwtio meddygon teulu a deintyddion gyda Llywodraeth Cymru.