
Gwella Trafnidiaeth Canolbarth Cymru
Diweddarwyd : Ionawr 2025
Ers i mi gael fy ethol i’r Senedd, rydw i wedi bod yn ymgyrchu dros well seilwaith trafnidiaeth ar gyfer Sir Drefaldwyn. Mae cysylltiadau trafnidiaeth da yn allweddol ar gyfer gwella'r economi leol a dyna pam y bûm yn ymgyrchu’n frwd dros ffordd osgoi i’r Drenewydd a Phont Dyfi newydd ym Machynlleth.
Yn anffodus, Powys sydd ag un o'r cyfraddau uchaf o ran damweiniau ffyrdd sy'n achosi i rywun gael ei ladd neu ei anafu'n ddifrifol fesul 100,000 o'r boblogaeth. Rydw i’n parhau i ymgyrchu dros gynlluniau eraill ar gyfer gwella ffyrdd a diogelwch.
Gwelliannau i'r ffordd - A458 Treberfedd
Yn anffodus bu sawl damwain ar yr A458 rhwng y Trallwng a'r Amwythig, gan gynnwys damweiniau angheuol. Mae angen gwneud y ffordd hon yn fwy diogel, a chredaf fod angen cynllun ar gyfer y llwybr hwn.
Rydw i wedi trafod y rhan hon o'r ffordd gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru a gyda'r Heddlu yn lleol. Rydw i wedi cyfarfod â swyddogion Priffyrdd Llywodraeth Cymru ynghyd â chynrychiolwyr allweddol ar y safle i drafod gwelliannau diogelwch. Mewn diweddariad ar ddiwedd 2024, hysbysodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Ken Skates AS, fod Llywodraeth Cymru wedi ail-farcio ffyrdd, gan gynnwys y llinellau gwyn dwbl i ddangos na ddylid goddiweddyd ar yr A458 ger Treberfedd, mewn ymateb uniongyrchol i bryderon a godwyd gennyf i a phreswylwyr. Fodd bynnag, mae yna alwadau i ymestyn y llinellau dwbl dim goddiweddyd ymhellach tuag at Dreberfedd. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru hefyd fod swyddogion yn cynnal astudiaeth ymchwiliol, gan gynnwys defnyddio teledu cylch cyfyng, i benderfynu a oes angen mesurau pellach i wella diogelwch ar y ffyrdd yn yr ardal hon. Rydw i’n disgwyl diweddariadau pellach yn gynnar yn 2025. Mae angen mesurau pellach yn fy marn i, a byddaf yn parhau i weithio gyda'r Cynghorydd Amanda Jenner sydd wedi cyflwyno deiseb i fynnu bod gwaith diogelwch yn cael ei wneud.
Ffordd osgoi Pant–Llanymynech
Mae'r ymgyrch dros ffordd osgoi Pant-Llanymynech yn parhau i fod yn gynllun pwysig o ran gwella ffyrdd a diogelwch. Gwnaeth Llywodraeth flaenorol y DU a Llywodraeth Cymru ymrwymiadau i symud ymlaen gyda ffordd osgoi Pant/Llanymynech. Mae Highways England wedi bod yn arwain ar ddatblygiad y prosiect mewn ymgynghoriad â swyddogion trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Fe wnes i gwrdd â Gweinidog perthnasol Llywodraeth y DU ar y pryd yn Llanymynech. Roedd astudiaeth ffordd osgoi wedi'i chomisiynu. Mewn ymateb ym mis Tachwedd (2024) cefais yr wybodaeth ddiweddaraf. Mae Llywodraeth y DU yn ystyried pedwar opsiwn sy’n deillio o'r astudiaeth i'w cynnwys yn eu Strategaeth Buddsoddi Ffyrdd ar gyfer cyflwyno cynlluniau ffyrdd newydd rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2030. Fy ngobaith yw y bydd Llywodraeth newydd y DU yn arddel ymrwymiad cynharach i adeiladu ffordd osgoi ac rydw i’n parhau i godi'r cynllun yn y Senedd gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn rheolaidd.
Cynlluniau yng Nghaersws
Mae cynlluniau ffyrdd llai eraill yn cael eu cynnig i ddatrys llif traffig a phryderon diogelwch, gan gynnwys wrth groesfan Moat Lane ger Caersws gyda chylchfan arfaethedig yn disodli'r gyffordd bresennol. Hefyd yng Nghaersws, ynghyd â'r Cynghorydd Sir Les George ac eraill, rydw i wedi bod yn hyrwyddo pont droed newydd dros yr afon. Mae'r bont bresennol yn beryglus i gerddwyr ei chroesi. Mae'r gwaith o ddatblygu'r cynllun hwn wedi bod yn araf iawn ac wedi cael ei rwystro ynghyd â phrosiectau llai eraill oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi stop ar adeiladu pob cynllun newydd, yn amodol ar adolygiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod cynigion yn cael eu datblygu ar hyn o bryd gan Gyngor Sir Powys ar gyfer pont droed newydd fel rhan o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Rydw i wedi bod yn pwyso am fanylion i gyflwyno'r cynigion hyn ond mae gwybodaeth hyd yma wedi bod yn amwys iawn ac mae yna amharodrwydd i rannu'r manylion. Dwi’n parhau i roi pwysau i gyflwyno’r wybodaeth a'i rhannu â'r gymuned leol.
Rydw i hefyd wedi codi diogelwch y groesfan i gerddwyr ger y groesffordd gyda'r Gweinidog. Mae asesiad diogelwch o'r groesfan i gerddwyr wedi'i gynnal ond yn anffodus barn Llywodraeth Cymru yw y dylid cadw'r groesfan fel y mae a gwneud rhai gwelliannau bach i ba mor weledol yw’r groesfan.
Rydw i wedi pwyso ar amryw o Weinidogion sy'n gyfrifol am gynlluniau yng Nghaersws. Cadarnhaodd cyn Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS, wrthyf y bydd cynllun cyffordd Moat Lane yn parhau i ddatblygu, ac y bydd angen cynllunio rhai o'r argymhellion mwy diweddar sy'n cynnwys elfennau diogelwch ychwanegol a theithio llesol fel eu bod yn rhan o’r prosiect. Nododd hefyd ei bod yn anochel bod yn rhaid iddo fodloni'r un profion ag unrhyw gynllun ffordd arall, a bodloni profion fforddiadwyedd. Mewn diweddariad yn yr Hydref (2024) gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, cadarnhawyd i mi fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystyried gwelliannau i gynllun y gyffordd a'r rhan o ffordd sy'n arwain at bont yr afon. Gellid bod angen cydweithio â chynnig Cyngor Sir Powys i ddarparu pont droed ar wahân dros yr afon. Yn amodol ar opsiwn gwella ffyrdd a ffefrir, bydd dyluniad manwl yn dilyn a gallai'r gwaith o bosibl ddechrau yn 2026/2027.
A483 rhwng Aber-miwl a Garthmyl
Mae'r rhan o'r A483 ar hyd y gamlas wedi'i chyfyngu i derfyn o 30mya ers peth amser oherwydd llain ymyl ffordd wan. Yn fy marn i, mae'r cyfyngiad wedi bod ar waith ers llawer rhy hir ac rydw i wedi bod yn codi'r angen am waith atgyweirio i gryfhau'r llain a chael gwared ar y cyfyngiad dros dro. Mewn ymateb a gefais ym mis Rhagfyr (2024) gan Lywodraeth Cymru, cefais gadarnhad bod y cynllun manwl ar gyfer y gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau a bod y gwaith i fod i ddechrau ar y safle y mis hwn (Ionawr 2025)
A44 Llangurig i Aberystwyth
Rydw i wedi bod yn galw am welliannau diogelwch ar hyd y ffordd hon ers blynyddoedd lawer. Mae’r lefel o ddamweiniau ar y rhan hon o’r ffordd ymysg y gwaethaf yn y DU. O’r diwedd, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen am welliannau oherwydd materion fel diogelwch ar y ffyrdd, effeithlonrwydd cyffyrdd a chyflwr cyffredinol y ffordd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth wedi cadarnhau i mi ddiwedd 2024 bod Llywodraeth Cymru yn datblygu datrysiad diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer yr A44 a bydd rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn ystod Haf eleni. Byddaf yn parhau i weithio i sicrhau bod Gweinidogion yn gweld gwella'r rhan hon o'r ffordd fel blaenoriaeth.
Ffordd wedi Cwympo yn Nhalerddig
Rydw i wedi bod yn codi'r angen am waith atgyweirio i'w wneud ar y Gefnffordd yn Nhalerddig ers peth amser. Yn dilyn cwymp y ffordd yn 2023, codais hyn gyda'r Gweinidog er mwyn i atgyweiriadau brys gael eu gwneud i ailagor y ffordd ac er mwyn blaenoriaethu gwaith atgyweirio parhaol i'r wal gynnal. Roedd y gwaith hwn i fod i ddechrau ym mis Hydref y llynedd ond cafodd ei aildrefnu oherwydd y gwrthdrawiad trên yn Nhalerddig a'r ymchwiliad a ddilynodd y gwrthdrawiad. Mae'r gwaith bellach wedi'i drefnu i ddechrau'r mis hwn (Ionawr 2025). Byddaf yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu'r atgyweiriadau parhaol sydd eu hangen i ganiatáu i'r ffordd gael ei hagor yn llawn i draffig dwy ffordd. Rydw i hefyd wedi mynd i’r afael â rhagor o broblemau diogelwch ar y ffyrdd yn Nhalerddig yn dilyn damweiniau ger y gyffordd i ffordd Bont Dolgadfan a ger Tyrpeg. Rydw i wedi galw ers tro am ostyngiad yn y terfyn cyflymder yn y lleoliad hwn ac am arwyddion rhybudd ychwanegol i fynd i'r afael â pheryglon cynllun y ffordd. Byddaf yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru er mwyn gosod mesurau diogelwch ar y ffyrdd yn y lleoliad hwn.
Gwell Gwasanaeth Rheilffordd
Yn anffodus, mae'r gwasanaeth rheilffordd a dderbyniwn yn Sir Drefaldwyn yn parhau i fod yn wael gyda threnau'n cael eu canslo, eu gohirio, neu â gormod o bobl arnyn nhw yn rheolaidd. Rydw i wedi bod yn codi pryderon yn barhaus am berfformiad Trafnidiaeth Cymru ar linell rheilffordd Cambrian o Aberystwyth i Amwythig ac rydw i wedi bod yn ceisio sicrwydd ynghylch ymrwymiadau a wnaed gan Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae fflyd newydd o drenau yn cael eu hadeiladu er mwyn i Linell y Cambrian redeg ar y system signalau unigryw. Yn anffodus bu oedi, ac yn ôl y sôn mae hyn oherwydd problemau gyda'r cyflenwad o gydrannau sy'n gydnaws â'r system signalau. Yn ystod cyfarfod a gefais gyda Phrif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, dywedwyd wrthyf fod y cerbydau newydd (cerbydau trên) ar Linell y Cambrian wedi cael eu gohirio unwaith eto. Dywedwyd wrthyf yn wreiddiol y byddai'r stoc newydd yn dod ar-lein tua diwedd 2023, a gohiriwyd hynny wedyn tan Aeaf 2024. Rydw i bellach wedi cael gwybod na fydd y stoc newydd ar gael tan ddiwedd y flwyddyn hon (2025) oherwydd oedi wrth gyflenwi'r cerbydau i TrC. Mae hyn yn siomedig iawn pan fo'r stoc newydd eisoes yn cael ei defnyddio ar y llinellau mewn rhannau eraill o Gymru. Rydw i wedi cael sicrwydd y bydd y trenau hyn yn golygu bod modd cario mwy o deithwyr ac y byddan nhw hefyd yn rhedeg yn gyflymach, gan ganiatáu i wasanaethau gadw at yr amserlen yn fwy dibynadwy. Rydw i’n parhau i godi rhwystredigaeth y gwasanaeth gwael hwn ac yn gofyn am sicrwydd y bydd y trenau newydd yn wirioneddol ddarparu gwell gwasanaeth i ni yn lleol a byddaf yn parhau i bwyso ar Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno'r trenau newydd hyn cyn gynted â phosib.
Ers y gwrthdrawiad trên yn Nhalerddig, mae'n rhwystredig bod cynnydd wedi bod mewn trenau gorlawn, ac mewn oedi a chanslo trenau. Rydw i’n parhau i godi'r materion hyn gyda Trafnidiaeth Cymru ac rydw i hefyd wedi’u codi yn Siambr y Senedd gyda'r Prif Weinidog newydd. Rydw i hefyd wedi codi'r materion cynnal a chadw ynghylch y bont ar draws y rheilffordd yn y Trallwng a'r cyfrifoldeb amdani, gan gynnwys cadw'r bont yn glir o sbwriel a'i graeanu yn ystod misoedd y gaeaf. Mewn ymateb a gefais gan Ysgrifennydd y Cabinet ar hyn, cefais wybod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r bont tra bod y ramp i lawr i'r platfform yn perthyn i Network Rail, yn amodol ar gwblhau Cytundeb Diogelu Asedau yn barhaus.
Ar nodyn mwy cadarnhaol, roeddwn i’n falch o ymweld â Gorsaf y Drenewydd i weld drosof fy hun y gwelliannau sy'n cael eu gwneud o ran hygyrchedd gan Network Rail, fel rhan o'r rhaglen Mynediad i Bawb a ariennir gan yr Adran Drafnidiaeth. Mae'r gwelliannau'n cynnwys pont droed newydd dros y rheilffordd gyda lifftiau i gael mynediad at ddwy ochr y platfform, gwell goleuadau, teledu cylch cyfyng ac uwchraddio’r system sain ar gyfer cyhoeddiadau trenau yn yr orsaf. Mae hyn o fudd mawr i ddefnyddwyr anabl a'r rhai sydd â phroblemau symudedd, ynghyd â'r rhai sydd â phramiau a chadeiriau gwthio sydd angen mynd i blatfform un a dau.