Economi leol gref

Diweddarwyd: Awst 2024

Ffyniant Bro yn y Canolbarth   

Yn dilyn penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, sefydlodd Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU gronfa Levelling Up  https://www.gov.uk/government/collections/new-levelling-up-and-community-investments i ddisodli cyllid yr UE. Mae'n hynod bwysig i ni yn y Canolbarth, mae'r gronfa Ffyniant Bro yn rhoi cyfle i Bowys yn benodol wneud cais am fuddsoddiad nad oedd ar gael drwy'r system ariannu Ewropeaidd flaenorol. Yn fy marn i, nid oedd yn gynllun ariannu arbennig o deg ledled Cymru. Ni dderbyniodd Powys gyfran deg o arian yr UE gan nad oedd yn cael ei dosbarthu fel un o’r ardaloedd economaidd tlotaf ac felly nid oedd yn derbyn cyllid ar gyfradd uwch o gymharu ag ardaloedd eraill o Gymru.

Mae'r gronfa Ffyniant Bro yn helpu i gefnogi twf economaidd lleol i adfywio canol ein trefi a'n stryd fawr, cefnogi unigolion i gyflogaeth, gwella cysylltiadau trafnidiaeth lleol a buddsoddi mewn diwylliant lleol – a’r cyfan yn rhoi llais cryfach i gymunedau feddiannu eu hoff asedau lleol a allai ddiflannu fel arall.

Er mwyn cefnogi'r amcanion hyn, lansiodd llywodraeth flaenorol y DU bedair rhaglen fuddsoddi newydd i gefnogi cymunedau ledled y wlad. Mae ganddyn nhw i gyd heriau a chyfleoedd cyffredin, a oedd yn faterion yr oedd llywodraeth ddiwethaf y DU yn benderfynol o’u datrys mewn cydweithrediad â phartneriaid lleol. Y rhaglenni buddsoddi hyn yw:

  • Cronfa Adfywio Cymunedol y DU
  • Cronfa Ffyniant Bro
  • Y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol
  • Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig

Rwyf wedi cefnogi ceisiadau gan Gyngor Sir Powys i'r cronfeydd hyn i gefnogi sawl prosiect yn Sir Drefaldwyn, gan gynnwys adfer camlas Maldwyn a gwelliannau i Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar draws y sir. Mae rhai o'r prosiectau hyn yn cynnwys pontydd troed yn Aberriw, Caersŵs, Garthmyl a Llangadfan, a gwaith ail-wynebu mewn lleoliadau ledled y sir, yn enwedig mannau poblogaidd i dwristiaid fel Llyn Efyrnwy a Llanrhaeadr.

Drwy'r gronfa Perchnogaeth Gymunedol, darparodd Llywodraeth flaenorol y DU £150 miliwn am 4 blynedd i gefnogi grwpiau cymunedol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gymryd perchnogaeth o asedau ac amwynderau sydd mewn perygl o fynd i'r gwellt. Mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn gallu gwneud cais am gyllid i gaffael asedau pwysig a'u rhedeg er budd y gymuned leol.  Bydd y Gronfa yn para tan fis Mawrth 2025 gyda chyfnodau ymgeisio rheolaidd gydol y flwyddyn i ymgeiswyr gyflwyno cais llawn i'r Gronfa. Dyma'r manylion llawn https://www.gov.uk/government/publications/community-ownership-fund-prospectus

Rwy'n falch iawn bod degau o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn ein hardal dros y tair blynedd diwethaf wedi'i ennill trwy Lywodraeth flaenorol y DU, gan sicrhau buddsoddiad digonol i allu bwrw ymlaen â phrosiectau sylweddol. Bydd yn gwella’n darpariaeth i dwristiaid, ac yn gwneud y Canolbarth yn lle deniadol i ymweld ag e. Gyda'r newid diweddar yn Llywodraeth y DU, rwy'n gobeithio y bydd y gronfa Ffyniant Bro yn parhau fel y gall Canolbarth Cymru a Sir Drefaldwyn yn arbennig barhau i elwa ar y cyllid a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth flaenorol.

Bargen Dwf y Canolbarth 

Rwy'n gefnogwr cryf o Fargen Dwf y Canolbarth a’m cyfraniad yn amlwg wrth gyflwyno’r achos o blaid bargen o’r fath gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae’r arafwch yn nhaith y Fargen Dwf yn sefyllfa rwystredig iawn - buddsoddiad ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion yw’r fenter.

Mae’r fargen yn dynodi £110 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Bydd y buddsoddiad yn ceisio creu rhwng 1,100 a 1,400 o swyddi yn y Canolbarth erbyn 2032 ac yn sicrhau manteision cymdeithasol ac economaidd a chreu cyfleoedd busnes. Mae Cynghorau Sir Powys a Cheredigion wedi bod yn gweithio ar y prosiectau, ac o'r diwedd, mae rhestr fer o raglenni a phrosiectau bellach yn cael eu nodi ar draws sawl thema gan gynnwys digidol, twristiaeth, bwyd a diod amaethyddol, ymchwil ac arloesi a chefnogi menter. Mae mwy o fanylion am y prosiectau ar gael yma https://www.tyfucanolbarth.cymru/PortffolioBargenTwfCC

Rwy'n teimlo bod llawer mwy o waith i'w wneud o hyd ar y prosiectau hyn ynghyd â chysylltedd a buddsoddiad gwell ar gyfer safleoedd busnes addas yn y Canolbarth. Hoffwn weld ein busnesau lleol yn rhan o’r trafodaethau hefyd. Rydw i’n dweud o hyd ei bod hi’n bwysig cynnwys busnesau a gwrando ar eu hanghenion busnes, nid dim ond beth mae sefydliadau’r sector cyhoeddus yn ei gredu yw anghenion busnesau. Byddaf yn parhau i gefnogi’r prosiect, ond cyflawni dros ein busnesau a’n heconomi leol yw ei rôl.    

Cefnogi ein sector twristiaeth

Y llynedd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad i gyflwyno ardoll leol ar gyfer twristiaeth yng Nghymru. Roeddwn i'n siomedig bod Llywodraeth Cymru, yn dilyn yr ymgynghoriad, wedi cadarnhau ei bod yn bwriadu bwrw ymlaen â'r cynnig, gyda'r ddeddfwriaeth ddrafft wedi'i hamserlennu i'w chyflwyno i'r Senedd yn nhymor yr Hydref 2024. Bydd yr Ardoll Dwristiaeth Leol yn cael ei chodi ar bobl sy’n aros dros nos yng Nghymru.

Yn fy marn i, byddai treth dwristiaeth yn niweidiol iawn i’r diwydiant twristiaeth a’r economi’n ehangach, yn enwedig ein hardaloedd mwy gwledig. Pan gefais gyfarfod gyda chynrychiolwyr y diwydiant, fe ddangoson nhw'n glir i mi y niwed fyddai’r dreth hon yn ei achosi. Rydw i wedi galw dro ar ôl tro am ddileu’r polisi hwn a byddaf yn parhau i wneud hynny yn y Senedd.

Hefyd, rwy'n poeni bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno trothwy newydd ar lety gwyliau hunanarlwyo sy'n golygu y bydd nifer y dyddiau lle mae’n ofynnol i eiddo hunanddarpar fod ar gael i’w osod yn cynyddu o 70 diwrnod i 182 diwrnod mewn un flwyddyn. O ganlyniad, mae llawer o eiddo hunanddarpar yn gorfod talu cyfraddau trethi llawer uwch yn sgil methu â bodloni’r trothwy uwch. Mae’r rheolau newydd yn dilyn pryderon bod llawer o eiddo ledled Cymru’n cael eu defnyddio fel ail gartrefi. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai bwriad y newid yn y meini prawf yw sicrhau bod eiddo’n cael ei osod yn rheolaidd fel busnes llety gwyliau.

Bydd y newid hwn yn effeithio’n sylweddol ar lawer o fusnesau gwyliau ledled Cymru. Bydd y polisi newydd hwn yn effeithio’n sylweddol ar fusnesau’r Canolbarth, a llawer o fusnesau gwyliau. Fy mhryder i yw y bydd rhai busnesau’n gorfod cau, gan niweidio’r economi leol.

Rwyf wedi codi’r mater hwn yn rheolaidd yn y Senedd, a chyda’r Prif Weinidog yn benodol, ac wedi ceisio dangos pa mor anodd fydd y polisi hwn i fusnesau yn y Canolbarth lle mae’r tymor gwyliau’n fyrrach na rhannau eraill o Gymru.  Rwyf i a’m cydweithwyr Ceidwadol Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno eithriadau pellach i'r polisi hwn ac i leihau nifer y diwrnodau i 105 diwrnod. Fe wnaethom orfodi pleidlais yn y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar y rheol 182 diwrnod.

Mae fy nghydweithwyr a minnau yn y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i fyfyrio ar y pryderon difrifol a fynegwyd gan ddarparwyr llety hunanarlwy ledled Cymru. Mae angen i Lywodraeth Cymru gefnogi'r diwydiant ymwelwyr nid pasio polisïau parhaus sy'n rhwystro ei dwf.  Byddaf yn parhau i wrthwynebu'r materion hyn ac yn dal i graffu ar Lywodraeth Cymru. Mae yna achos clir dros newid.

Mae angen i’n diwydiant twristiaeth fod yn gryfach, a mabwysiadu arferion newydd fel gwyliau gartref ac atyniadau twristaidd ecogyfeillgar newydd. Roedd Banc Datblygu Cymru wedi tynnu sylw at y busnesau twristiaeth a lletygarwch hyn sy'n ei chael yn anodd o hyd i lwyddo ar ôl y pandemig.

Mae’r diwydiant yn bwysig iawn i economi’r Canolbarth, mae’n cefnogi ein busnesau lleol ac yn denu ymwelwyr i ddod i Bowys. Mae twristiaeth yn un o’r  cyfranwyr mwyaf o ran darparu swyddi lleol, busnesau lleol ac arian i’r economi leol ac felly mae’n bwysig dros ben ein bod ni’n parhau i gefnogi’r diwydiant.