Achub ein Safle Ambiwlans Awyr yn y Canolbarth

Diweddarwyd ar 1 Mawrth 2023

 

Ymgyrch i sicrhau bod Canolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng yn aros ar agor yn yr hirdymor

 

Ym mis Chwefror 2023, fe wnaethom ni ddysgu bod cytundeb gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru i weithredu o'r ganolfan ym Maes Awyr y Trallwng wedi ei ymestyn i 2026.

 

Er ein bod yn croesawu’r newyddion hyn, mae'r ymgyrch leol bellach yn symud i sicrhau bod y ganolfan yn aros yn y Trallwng y tu hwnt i 2026 ac i'r dyfodol.

 

Ar hyn o bryd rydym ni’n disgwyl cynnig newydd ar gyfer sut y dylid ad-drefnu gwasanaethau Ambiwlans Awyr Cymru, ac mae proses ymgysylltu ar y gweill.

 

Yn ystod 2022, cafodd pobl o bob rhan o'r canolbarth a minnau fy synnu a'n siomi gyda’r cynnig y gallai canolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng gau. Yn hanner olaf y flwyddyn, ar ôl datgelu'r cynigion, bûm yn cydweithio'n agos â grwpiau ymgyrchu ac unigolion pryderus i ymgyrchu dros gadw ein canolfan yn y Canolbarth, a sicrhau bod proses ymgysylltu a chraffu briodol ar waith.

 

Codais y mater pwysig hwn sawl tro yn y Senedd gyda gweinidogion gan gynnwys y Prif Weinidog a chynhaliwyd dadl ar y pwnc ddechrau mis Ionawr 2023.

 

Roedd y cyfathrebu am y cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau (gan gynnwys cau canolfannau’r Trallwng a Chaernarfon) yn warthus. Gwadodd gwahanol sefydliadau a oedd yn rhan o'r cynlluniau Gyfrifoldeb, gan anwybyddu pryderon dilys, a chreu pryder difrifol yn lleol.

 

Yn dilyn ymgyrchu lleol cryf, cytunwyd y byddai'r cynlluniau gwreiddiol yn cael eu hoedi, y byddai’r cynlluniau gwreiddiol yn destun craffu, ac y byddai cynlluniau newydd yn cael eu cyflwyno mewn cydweithrediad â phroses ymgysylltu ffurfiol.

 

Fodd bynnag, rydym ni wedi gweld sawl mis o'r broses ymgysylltu ffurfiol yn cael ei hoedi a'i gohirio. Rydw i wedi bod yn gweithio'n agos gyda Craig Williams AS ac eraill er mwyn sicrhau bod yna gyfathrebu clir a thryloyw ar unrhyw gynigion wrth symud ymlaen, gyda'r nod yn y pen draw o gadw'r ganolfan yn y Trallwng.

 

Mae hwn yn wasanaeth amhrisiadwy sy'n cael ei ddarparu gan Ambiwlans Awyr Cymru a GIG Cymru i'r Canolbarth. Mae'n hanfodol bod y gwasanaeth hwn yn parhau i fod wedi'i leoli yn y Trallwng yn yr hirdymor.

 

Mae'n hynod bwysig ein bod yn dal ati gyda gwaith caled pobl leol i godi problemau dilys ynghylch y cynigion. Byddwn yn annog pawb i gyflwyno ymatebion fel unigolion, grwpiau a sefydliadau i'r broses ymgysylltu pan fydd yn cael ei lansio. Dydy’r frwydr i gadw'r ganolfan ar agor ddim drosodd eto.

 

Mae'r adolygiad annibynnol o'r cynigion yn parhau, ac rwy'n disgwyl y bydd yn cael ei lansio yn fuan. Byddaf – wrth gwrs – yn parhau i roi diweddariadau i bawb trwy fy nghylchlythyr, ar fy

nhudalen Facebook ac ar fy ngwefan cyn gynted ag y bydd y manylion llawn yn cael eu cyhoeddi.