Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Hafan
  • Cefndir Russell
  • Ymgyrchoedd
  • Cysylltu
  • ENG
Site logo

Cefndir Russell

  • Tweet

 

Gwybodaeth am Russell George

Russell George yw’r Aelod o Senedd Cymru dros Sir Drefaldwyn ac mae wedi cynrychioli’r etholaeth er 2011. Russell yw Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Economi, Busnes a Seilwaith a chanddo ef hefyd mae cyfrifoldeb yr wrthblaid dros Ganolbarth Cymru. Mae wedi cadeirio Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Senedd Cymru er 2016.

Ganed Russell yn y Trallwng ym 1974 a chafodd ei fagu yn Sir Drefaldwyn ac yno yr aeth i’r ysgol. Mae ganddo radd mewn Astudiaethau Gwybodaeth a’r Cyfryngau o Brifysgol Canolbarth Lloegr. Etholwyd Russell i Gyngor Sir Powys yn 2008 ac roedd yn aelod o fwrdd rheoli gweithredol y Cyngor rhwng 2008 a 2011.

Pan etholwyd ef i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011, fe’i penodwyd yn Weinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy cyn dod yn Weinidog yr Wrthblaid dros Amaethyddiaeth a Materion Gwledig rhwng 2014 a 2016. Ym mis Mai 2016, etholwyd Russell i'r Cynulliad gyda mwyafrif cynyddol.

Rhwng 2013 a 2016, sefydlodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyfathrebu Digidol ac ef oedd cadeirydd y Grŵp hwn a oedd yn ymgyrchu dros welliannau i’r graddau yr oedd band eang cyflym iawn a signal ffonau symudol ar gael yng Nghymru ac, yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, roedd yn aelod gweithgar o Bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd a Phwyllgor Deisebau y Cynulliad.

Blaenoriaethau presennol Russell yw cadw a gwella gwasanaethau cyhoeddus lleol i bobl Sir Drefaldwyn. Mae hefyd yn teimlo'n angerddol am annog pobl iau i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus ac mae'n awyddus i gefnogi ac annog busnesau newydd a thwf busnesau bach. Roedd Russell yn chwarae rhan fawr yn y gwaith o hyrwyddo ffordd osgoi'r Drenewydd ac mae'n ymgyrchu dros wella band eang yn ardaloedd gwledig Cymru. Mae hefyd wedi bod wrthi’n lobïo dros fargen Twf Canolbarth Cymru ar gyfer y rhanbarth.

Mae ei ddiddordebau personol yn cynnwys hel achau. Ef yw Llywydd Cyngor Sgowtiaid Ardal Sir Drefaldwyn a Dirprwy Lywydd Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor Sir Drefaldwyn. Mae hefyd yn Is-lywydd Ymddiriedolaeth Adfer Dyfrffyrdd Sir Drefaldwyn ac yn aelod o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt y Sir, ac mae’n aelod o Hope Church yn y Drenewydd; felly mae wedi bod yn rhan o lawer o brosiectau sy'n cefnogi'r gymuned.

Cyn cael ei ethol i'r Senedd, roedd Russell yn gynghorydd tref, yn llywodraethwr ysgol, yn aelod o Fwrdd Coleg Powys, ac yn aelod o Bwyllgor Rheoli Theatr Hafren.

 Russell George

Mae Russell yn ymgyrchydd lleol ymroeddig.

 

Roedd yn ymgyrchydd blaenllaw wrth ddatrys problemau traffig yn y Drenewydd, ac mae bellach yn ymgyrchu dros welliannau eraill i'r ffyrdd ledled y Sir.

 

 

Russell gyda Craig Williams, yr Aelod Seneddol dros Sir Drefaldwyn

 

Mae'n mwynhau cynrychioli'r gymuned ac mae'n aml yn cymryd rhan mewn prosiectau cymunedol lleol.

Russell George AS Sir Drefaldwyn

Troedyn

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Russell
Site logoHyrwyddir gan Alex Williams ar ran Russell George, 13 Lôn Parkers, Y Drenewydd, SY16 2LT. *Nid yw Senedd Cymru, neu Russell George yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau.
Hawlfraint 2021 Russell George AS Sir Drefaldwyn. Cedwir pob hawl.
Wedi’i bweru gan Bluetree