
Diweddarwyd ar 3 Ionawr 2023.
Er ein bod ni’n gwerthfawrogi bod mwy o bobl yn bancio ar-lein bellach nag erioed o’r blaen, mae nifer sylweddol o bobl leol yn dibynnu ar fanciau’r stryd fawr i drefnu eu bywydau a rhedeg eu busnesau. Yn 2022, gweithiais yn galed i hyrwyddo anghenion defnyddwyr banciau ffisegol a byddaf yn parhau i hyrwyddo eu hanghenion yn y flwyddyn i ddod.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer o fanciau’r stryd fawr wedi cau mewn trefi ledled Sir Drefaldwyn gyda rhagor wedi cau yn 2022. Cafodd canghennau Banc Barclays yn y Trallwng a'r Drenewydd eu cau ym mis Medi a chyhoeddwyd bod cangen Lloyds yn y Trallwng yn cau hefyd
Dyna pam fy mod i, a Craig Williams, yr Aelod Seneddol, yn ymgyrchu am welliant dramatig mewn gwasanaethau bancio ar y stryd fawr. Mae cynnydd da’n cael ei wneud gyda chynigion am hyb bancio yn y Trallwng, ac i agor canghennau pellach o bosib drwy fodel bancio cymunedol mewn trefi eraill.
Yn dilyn cyhoeddiadau am gau canghennau yn 2022, cynhaliodd Craig Williams AS a minnau arolwg i’n helpu i gyflwyno achos dros ddatblygu rhagor o wasanaethau bancio.
Roedd yr ymatebion i’r arolwg yn mynegi pryderon am:
Sut y bydd pobl a busnesau’n talu arian i mewn ac yn trefnu alldaliadau.
Yr effaith ar y stryd fawr yn y prif drefi.
Banciau ddim yn ymgynghori â phobl leol cyn cyhoeddi eu bod yn bwriadu cau.
Ysgogodd cau cangen y Trallwng adolygiad gan LINK – rhwydwaith Mynediad Arian Parod a Pheiriannau Arian y DU, sy’n asesu effaith cau banciau ac yn nodi ble mae angen cyfleusterau a rennir newydd. Mae hyn yn rhan o ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn Araith y Frenhines 2022, i ddiogelu mynediad cymunedau at arian parod.
Rwy’n falch bod LINK wedi argymell agor hyb bancio parhaol newydd yn y Trallwng, gan gynnig mynediad a gwasanaethau bancio a ariennir. Bu Craig a minnau’n cyfarfod â swyddogion LINK i drafod sut y bydd hyn yn cael ei weithredu ac i sicrhau y bydd gwasanaethau bancio llawn yn hygyrch i gwsmeriaid holl fanciau’r hyb. Rwy'n deall bod y prosesau cyfreithiol arferol yn parhau ynglŷn ag adeilad penodol i'w ddefnyddio at y diben hwn yng nghanol y dref. Mae Craig a minnau’n cefnogi’r hyb newydd hwn ac yn gobeithio y bydd LINK yn ystyried agor hybiau eraill yn nhrefi mwyaf Sir Drefaldwyn. Rwy'n edrych ymlaen yn y flwyddyn i ddod at gefnogi cynlluniau LINK ac rwy'n gobeithio gweld cynnydd gwirioneddol arnynt yn fuan.
Yn ystod fy amser fel Cadeirydd Pwyllgor Economi’r Senedd cwblhawyd adroddiad o’r enw ‘Mynediad at Fancio’. Yn dilyn ein hymchwiliad, mae cynlluniau’n mynd rhagddynt ar gyfer Banc Cymunedol i Gymru a gobeithio y bydd canghennau’n gallu llenwi rhywfaint o’r gwacter a adawyd mewn trefi eraill, fel Llanidloes, Machynlleth a’r Trallwng. Rwy’n parhau i drafod â’r sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru i’w hannog i agor cyfleusterau yma yn y Canolbarth.