Ionawr 2026
Cefnogi ein ffermwyr
Mae Sector Ffermio Cymru yn cyflogi tua 50,000 o bobl ar ein ffermydd, gyda thua 230,000 hefyd yn cael eu cyflogi ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd a diod gyfan. Ar ben hynny, am bob £1 o arian cyhoeddus sy'n cael ei fuddsoddi mewn ffermio, mae £9 yn dychwelyd i economi Cymru. Mae allbwn ffermio yn werth £2.2 biliwn a mwy bob blwyddyn, a sector bwyd Cymru yn werth £9.3 biliwn i economi’r wlad. Am y rhesymau hyn, credaf fod angen i Lywodraethau Cymru a'r DU wneud mwy i gefnogi'r diwydiant.
Tua diwedd 2025, cytunwyd ar Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Dyma fydd prif ffynhonnell cymorth y llywodraeth i ffermio yng Nghymru o 2026 ymlaen. Rwy'n cefnogi barn undebau’r ffermwyr bod angen i'r cynllun barhau i esblygu er mwyn sicrhau ei fod yn gallu cyflawni ar gyfer ffermio yng Nghymru.
Rwy'n credu bod rhaid i'r llywodraeth bresennol ac unrhyw lywodraeth yn y dyfodol roi ymrwymiad parhaus i gynnal, o leiaf, y gyllideb 70:30 bresennol sydd wedi'i rhannu rhwng yr haenau cyffredinol ac opsiynol a chydweithredol.
Roedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio a chyd-fynd â Lloegr o ran y polisi tafod glas yn un trychinebus, ac yn un a gostiodd yn ddrud i economi'r Canolbarth. Rwyf wedi siarad yn helaeth â'r rhai sy'n ymwneud â'r sector ac wedi codi'r mater sawl gwaith yn y Senedd.
Gan droi at newidiadau treth etifeddiant Llywodraeth y DU, daeth 2025 i ben gyda theimlad o ryddhad i lawer o ffermydd teuluol ledled Cymru, wrth i lywodraeth y DU gyhoeddi newid sylweddol i Ryddhad Eiddo Amaethyddol a Ryddhad Eiddo Busnes, gan godi'r trothwy o £1m i £2.5m. Pe na bai'r newid hwn wedi digwydd, rwy'n credu y byddai hyn wedi arwain at chwalu ffermydd teuluol. Byddai'n rhaid i lawer o deuluoedd werthu rhannau o'u fferm, gan wneud y busnes yn llai hyfyw. Canlyniad lleihau ffermydd teuluol yw y byddwn yn dod yn fwy dibynnol ar fwyd a gyflenwir o'r tu allan i'r DU.
Mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd wneud llawer mwy i fynd i'r afael â'r dinistr sy'n cael ei achosi gan TB buchol. Credaf fod angen trechu'r clefyd mewn ffordd gyfannol; gweithio mewn partneriaeth â ffermwyr a milfeddygon i ddileu'r gronfa o haint o fewn buchesi, dileu trosglwyddiad rhwng buchesi a difa bywyd gwyllt heintiedig, sydd eu hunain yn dioddef marwolaeth boenus oherwydd TB.
Maes arall sydd wedi achosi pryder cynyddol yn y blynyddoedd diwethaf yw'r pwysau cynyddol ar fusnesau ffermio o reoleiddio gan y llywodraeth. Mae'r diwydiant ffermio wedi gofalu am ein cefn gwlad ers canrifoedd, a dyma pam y penderfynais i ac aelodau eraill o'r Ceidwadwyr Cymreig bleidleisio yn erbyn y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (NVZ), ynghyd â’r baich rheoleiddio diangen pellach a dull nad yw'n addas i bawb.
Mae'r baich ychwanegol yng Nghymru yn golygu bod ffermwyr hefyd yn llai cystadleuol na busnesau fferm sydd dim ond ychydig filltiroedd dros y ffin yn aml iawn.
Er mwyn cefnogi ein busnesau ffermio a'n cymunedau gwledig, rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau bod cytundebau masnach yn amddiffyn ffermwyr Cymru. Rhaid i Lywodraeth bresennol Cymru a'r Llywodraeth nesaf sicrhau bod Cynllun Ffermio Cymru wedi'i ariannu'n briodol gyda diogeledd bwyd wrth wraidd popeth, ymrwymo i ddileu TB buchol, cael gwared ar barthau perygl nitradau Cymru gyfan, a newid rheolau caffael cyhoeddus i hyrwyddo cynnyrch Cymru a diogelu'r gyllideb amaethyddol.
Rwy'n falch bod y sector ffermio yn cael cefnogaeth y cyhoedd, llawer ohonynt heb unrhyw gysylltiad â'r diwydiant. Mae angen cynnal y gefnogaeth hon, ac mae'n ddyletswydd ar y sector ffermio a gwleidyddion fel fi sy'n cefnogi galwadau'r diwydiant yn llawn i danlinellu'n union pam mae angen i ni gefnogi ein ffermwyr. Mae angen polisïau sy'n gweithio i'r Gymru wledig, nid dim ond rhai sy'n swnio'n dda ar bapur ym Mae Caerdydd.ithio i Gymru wledig, nid dim ond rhai sy'n swnio'n dda ar bapur ym Mae Caerdydd.