Mynediad at wasanaeth arian parod a bancio
Diweddarwyd: Awst 2025
Mae gwasanaethau bancio personol yn hollbwysig i lawer o bobl a busnesau, yn enwedig y rhai sy'n fwy agored i niwed. Mae arian parod yn dal yn bwysig i filiynau o bobl yn y DU, gyda thrafodion arian parod yn dal i fod yn fwy na 40% o'r derbyniadau mewn siopau bach ac nid yw atebion digidol neu ar-lein yn gweithio i bawb eto.
Rwy'n cadeirio'r Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach yn y Senedd. Mae'r grŵp yn cynnwys aelodau o bob plaid, ac mae pob cyfarfod yn canolbwyntio ar bynciau gwahanol. Rydyn ni wedi canolbwyntio ar yr angen i ddiogelu mynediad at arian parod, sy'n fwy o broblem bellach wrth i fanciau gau a pheiriannau twll yn y wal ddiflannu.
Gwelsom ostyngiad sylweddol mewn gwasanaethau bancio ar y stryd fawr, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda Cash Access UK a sefydliadau eraill i sicrhau bod gwasanaethau bancio yn cael eu hadfer yma'n Sir Drefaldwyn, yn enwedig mewn trefi lle mae pob banc wedi cau. Sefydliad nid-er-elw yw Cash Access UK sy'n eiddo i naw o'r prif fanciau ac yn cael ei ariannu ganddyn nhw. Fel rhan o gytundeb i helpu i ddiogelu mynediad at arian parod, rôl Cash Access UK yw helpu i ddarparu gwasanaethau arian parod i gymunedau ledled y DU gan gynnwys adneuo arian a hybiau bancio.
Gofod bancio ar y cyd yw’r Hybiau Bancio. Mae'r Hyb yn cynnig gwasanaeth cownter sy'n cael ei redeg gan Swyddfa’r Post, lle mae cwsmeriaid yr holl brif fanciau a chymdeithasau adeiladu yn gallu bancio'n rheolaidd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm. Ar ben hynny, mae yna fannau preifat lle gall cwsmeriaid siarad â Bancwyr Cymunedol o'u banc eu hunain am faterion mwy cymhleth sy'n gofyn am wybodaeth arbenigol neu breifatrwydd. Mae'r Bancwyr Cymunedol yn gweithio ar system gylchdro, gyda banc gwahanol ar gael ar bob diwrnod o'r wythnos.
Gwelsom gam mawr ymlaen yn 2023 wrth i Hyb Bancio agor yn y Trallwng. Mae'r ganolfan yn y Trallwng ar agor bob dydd o'r wythnos rhwng 9am a 5pm. Mae'r gwasanaeth cownter sydd ar gael yn cynnwys codi arian parod, adneuo arian parod a sieciau, talu biliau cyfleustodau, gwirio balansau ac ati.
Dyma'r Banciau Cymunedol sydd ar gael:
• Dydd Llun: Lloyds
• Dydd Mawrth: Natwest
• Dydd Mercher: HSBC
• Dydd Iau: Santander
• Dydd Gwener: Barclays
Gobeithio y bydd pawb yn gwneud defnydd da o'r gwasanaeth hwn er mwyn annog rhagor o Hybiau Bancio i agor ar hyd a lled y Canolbarth. Rwyf wedi cynnal trafodaeth gyda LINK a Cash Access UK ynglŷn ag agor hybiau pellach ar draws Sir Drefaldwyn.
Hefyd, rwyf wedi noddi digwyddiad yn y Senedd gyda Link Financial sy'n rhedeg hybiau bancio a pheiriannau ATM ledled y DU. Nod y digwyddiad oedd hyrwyddo mynediad at arian parod ar draws etholaethau yng Nghymru. Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â Link Financial ynglŷn ag agor mwy o hybiau bancio a gosod peiriannau ATM ledled Sir Drefaldwyn.
Mae cwmni Link angen lefel benodol o boblogaeth mewn tref neu bentref i ddiwallu ei ofynion ar gyfer hyb/canolfan neu beiriant ATM, ond rwyf innau wedi cyflwyno dadl gref dros sefyllfa lawer o gymunedau Sir Drefaldwyn - sef, er bod lefel poblogaeth canol tref yn is na'r hyn sy'n ofynnol i Link, bod poblogaeth yr ardal ehangach yn llawer mwy.
Oherwydd natur wledig Sir Drefaldwyn, mae llawer o bentrefi o amgylch trefi fel Llanidloes a Machynlleth, lle bydd pobl leol yn teithio iddynt, i ddefnyddio cyfleusterau'r trefi hyn. Fodd bynnag, maen nhw'n cael eu categoreiddio fel rhai y tu allan i'r radiws y mae Link yn ei ddefnyddio i benderfynu pa leoedd sydd angen mynediad at arian parod. Dywedodd Link wrthyf y byddant yn ymchwilio i hyn, a'u bod hefyd yn aros i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol orffen ymgynghori ar fynediad arian parod i gymunedau. Byddan nhw'n cysylltu â mi unwaith y daw'r ymgynghoriad i ben.
Gallwch weld eu lleoliad peiriannau ATM yma: LINK / Cash Locator. Os ydych chi'n ymwybodol o unrhyw ardaloedd yn Sir Drefaldwyn sydd heb fynediad digonol at arian parod, gallwch ofyn i LINK gynnal adolygiad yma: https://www.link.co.uk/consumers/request-access-to-cash/.