Diogelu ein Tirwedd rhag gormod o beilonau

Gwarchod ein Tirwedd rhag Peilonau Mawr

Diweddarwyd : Mawrth 2025 

Mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi gyda'u pryderon am gynlluniau Bute Energy a Green GEN Cymru i ddatblygu ffermydd gwynt newydd, is-orsaf a seilwaith grid o fewn Sir Drefaldwyn.

Mae Green GEN Cymru wedi cynnig adeiladu is-orsaf, a fyddai'n cysylltu parciau ynni trwy beilonau dellt mawr, a llinell uwchben 132kv newydd trwy rannau o Ogledd Powys. Byddai hyn yn gysylltiedig â'r prif gysylltiad grid yn Swydd Amwythig.

Bydd llawer ohonoch yn cofio cynigion am fferm wynt fawr dros ddegawd yn ôl, pan ymatebodd ein cymunedau mewn grym yn wyneb y diffyg ystyriaeth ac empathi llwyr a ddangoswyd gan y Grid Cenedlaethol a datblygwyr tuag at drigolion a thirweddau. Mae'n hanfodol bod cwmnïau ynni adnewyddadwy yn sicrhau eu bod yn mynd â chymunedau gyda nhw, yn hytrach na gorfodi prosiectau ar y Canolbarth.

Rydw i wedi mynychu nifer o gyfarfodydd cyhoeddus ar hyn yn ystod 2024. Mae'n bwysig bod pobl yn parhau i fynychu cyfarfodydd cyhoeddus, digwyddiadau ymgynghori a’u bod yn ymateb i ymgynghoriadau.

Wrth i'n hanghenion am bŵer gynyddu a bod mwy o ffynonellau ynni adnewyddadwy yn dod ar-lein (fel ynni adnewyddadwy ar raddfa fferm), mae’n hanfodol ein bod yn cael cysylltiadau grid gwell. Fodd bynnag, ni fyddai'r llinell a gynigir yn gwneud fawr ddim i helpu prosiectau o'r fath yn y Canolbarth.

Mae'r cynigion hyn yn cyfeirio'n benodol at linellau uwchben yn hytrach na chysylltiad o dan y ddaear. Mae'n bwysig cofio nad yw ceblau tanddaearol hefyd heb ei broblemau. Mae gen i bryderon difrifol am y llinellau peilon arfaethedig trwy Ddyffryn Efyrnwy ac ardaloedd eraill, ac rydw  i wedi  codi hyn yn y Senedd sawl gwaith. Mae Gweinidogion wedi dweud wrthyf mai polisi Llywodraeth Cymru yw trawsyrru tanddaearol ac nid ar y ddaear, ond mae'r canllawiau ar hyn yn nodi bod yn rhaid pwyso a mesur barn gytbwys gyda chostau a fyddai'n golygu bod prosiectau derbyniol fel arall yn anhyfyw. Rydw i wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru ers tro byd i ddiweddaru ei dogfen Polisi Cynllunio Cymru fel bod gosod seilwaith newydd o dan y ddaear ar gyfer trawsyrru trydan yn amod absoliwt yn hytrach nag yn un a ffefrir, ac y dylai'r polisi ddatgan 'Rhaid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear'.  Yn 2024, mi wnes i gymryd rhan mewn dadl yn y Senedd yn galw eto ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru ei pholisi i adlewyrchu’r gofyniad bod llinellau pŵer newydd yn cael eu gosod o dan y ddaear ond yn anffodus pleidleisiodd Llywodraeth Lafur Cymru yn erbyn y cynnig.

Hefyd, mae maint y tyrbinau gwynt yma sydd newydd eu cynnig yn peri pryder. Dydy defnyddio tyrbinau anferthol ar y tir, sydd i fod ar gyfer y môr, ddim yn briodol a dydy diwydiannu ein tirwedd gyda ffermydd gwynt a pheilonau mawr sy’n croesi bryniau a dyffrynnoedd y Canolbarth ddim yn dderbyniol.

Mi ges fy mrawychu hefyd gan adroddiadau bod is-gwmnïau Bute Energy wedi bod yn cyrchu tir yn anghyfreithlon yn Sir Drefaldwyn heb gydsyniad na chaniatâd cyfreithiol. Yn ogystal â hyn, cafodd sawl tirfeddiannwr yn ystod 2024 hysbysiadau yn mynnu mynediad i dir ac eiddo er mwyn cynnal arolygon ar gyfer llwybrau peilon arfaethedig. Mae'r rhain yn faterion rydw i wedi’u trafod yn uniongyrchol gyda Bute a GreenGEN a byddaf yn parhau i godi materion sy'n cael eu dwyn i'm sylw. Ym mis Gorffennaf (2024), rhoddodd Ofgem drwydded i GreenGEN i'w galluogi i ddatblygu, perchnogi a gweithredu rhwydwaith dosbarthu trydan 132kV yng Nghymru sy'n golygu eu bod bellach yn gallu symud ymlaen â'u cynlluniau yn gyfreithlon. Mae Sir Drefaldwyn yn Erbyn Peilonau (MAP) yn mynd i’r afael â’r mater peilonau yn yr ardal a gall ddarparu cefnogaeth. Mynychais gyfarfod MAP yn ddiweddar ac rwy'n parhau’n hapus i weithio gyda MAP ac eraill er mwyn rhoi cymaint o bwysau a dylanwad ar Lywodraeth Cymru ag y gallaf. Gellir cysylltu â MAP drwy e-bostio [email protected] .

Mae pobl Sir Drefaldwyn wedi brwydro'n galed dros y degawd diwethaf i ymgyrchu yn erbyn peilonau mawr er mwyn gwarchod ein tirwedd hardd. Mae'n rhaid i ni fod yn barod i wrthwynebu unrhyw gynlluniau amhriodol pellach.