Diogelu ein Tirwedd rhag Peilonau ar Raddfa Fawr

Diogelu ein Tirwedd rhag Peilonau ar Raddfa Fawr

Diweddarwyd: Ionawr 2024

Mae nifer sylweddol o drigolion lleol wedi cysylltu â mi i fynegi eu pryderon am gynlluniau Bute Energy a Green GEN Cymru i ddatblygu fferm wynt ac is-orsaf newydd yn Sir Drefaldwyn, a fyddai'n golygu adeiladu hyd at 25 o dyrbinau gwynt mawr. 

Ar hyn o bryd, gan nad oes seilwaith National Grid sy'n gallu casglu a dosbarthu pŵer a gynhyrchir, mae Green GEN Cymru wedi cynnig is-orsaf a fyddai'n cysylltu parciau ynni trwy beilonau dellt mawr a llinell uwchben 132kv newyd trwy rannau o Ogledd Powys. Byddai'n cysylltu â'r prif gyswllt grid yn Swydd Amwythig.

Bydd llawer yn cofio cynigion blaenorol am fferm wynt ar raddfa fawr ddegawd yn ôl, lle ymatebodd ein cymunedau yn unfrydol yn erbyn diffyg ystyriaeth ac empathi llwyr National Grid a datblygwyr i drigolion a thirweddau. Mae'n hanfodol bod cwmnïau ynni adnewyddadwy’n sicrhau eu bod yn cynnwys cymunedau bob cam o'r daith, yn hytrach na gorfodi prosiectau ar y Canolbarth.

Mae Craig Williams AS a minnau wedi mynychu cyfarfodydd cyhoeddus, gan gynnwys cyfarfod a ddenodd nifer da o bobl ym Meifod. Mae'n bwysig bod pobl yn parhau i fynychu cyfarfodydd cyhoeddus, digwyddiadau ymgynghori ac yn ymateb i unrhyw ymgynghoriad gan y datblygwyr. Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad diweddaraf drwy fynd i: https://llynlortenergypark.wales/?lang=cy

Wrth i'n hanghenion pŵer gynyddu a mwy o ffynonellau ynni adnewyddadwy ar gael, fel ynni adnewyddadwy ar raddfa fferm, mae'n bwysig bod gennym gysylltiadau grid gwell. Fodd bynnag, ni fyddai'r llinell a gynigir yn gwneud fawr ddim i helpu prosiectau o'r fath yma yn y Canolbarth.

Mae'r cynigion hyn yn cyfeirio'n benodol at linellau uwchben yn hytrach na chysylltiad o dan y ddaear. Mae'n bwysig cofio nad yw ceblau tanddaearol heb eu problemau chwaith. Rwy'n poeni y gallai rhagor o linellau peilonau gael eu codi trwy Ddyffryn Efyrnwy ac ardaloedd eraill.

At hynny, mae maint tyrbinau gwynt sydd newydd eu cynnig yn destun pryder. Nid yw tyrbinau anferthol a ddefnyddir ar y môr yn addas ar gyfer ein tirwedd. Nid yw diwydiannu ein tirwedd gyda ffermydd gwynt ar raddfa fawr a pheilonau’n croesi bryniau a dyffrynnoedd y Canolbarth yn dderbyniol.

Mae pobl Sir Drefaldwyn wedi ymgyrchu'n galed dros y degawd diwethaf yn erbyn peilonau ar raddfa fawr i amddiffyn ein tirwedd hardd. Mae'n rhaid i ni fod yn barod i wrthwynebu unrhyw gynlluniau amhriodol pellach.