Diwygio'r Senedd

Diweddarwyd Awst 2025

Newidiadau i Etholiadau'r Senedd a chynnydd yn nifer yr Aelodau

Bydd nifer yr Aelodau o’r Senedd yn cynyddu o 60 i 96. Hyn yn dilyn pleidlais derfynol a gynhaliwyd yn 2024.

Pleidleisiodd Aelodau o’r Senedd Llafur a Phlaid Cymru, ynghyd â'r un A Democratiaid Rhyddfrydol, o blaid Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Pleidleisiodd holl aelodau'r Ceidwadwyr Cymreig o'r Senedd yn erbyn y ddeddfwriaeth hon. Doeddwn i ddim o blaid y ddeddfwriaeth, a hoffwn nodi'r newidiadau a pham fy mod i'n eu gwrthwynebu.

Mae pasio'r Bil hwn yn golygu y bydd maint y Senedd yn cynyddu i 96 Aelod ym mis Mai y flwyddyn nesaf. Hefyd, bydd y system etholiadol yn newid i un wedi'i seilio'n llawn ar gynrychiolaeth gyfrannol; gyda'r pleidleiswyr bellach yn pleidleisio dros blaid yn hytrach nag ymgeisydd. Gyda’r ddeddfwriaeth bellach yn gyfraith gwlad, mae’n golygu y bydd gan y Senedd 16 etholaeth newydd. Bydd pob uwchetholaeth yn cynnwys 6 Aelod o'r Senedd yr un, o blith rhestr gaeedig.

Ni fydd un aelod yn cynrychioli etholaeth mwyach, ond sawl Aelod o'r Senedd yn cynrychioli ardal fwy. Yn fy marn i, bydd hyn yn arwain at golli'r cysylltiad rhwng yr etholwr a'r Aelod o'r Senedd. Mae pleidleiswyr yn deall ac yn disgwyl cael perthynas agos â'u haelod etholaethol a'u dwyn i gyfrif wedyn.

Cyhoeddodd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru ei Benderfyniadau Terfynol ar gyfer Adolygiad 2026 o etholaethau'r Senedd ym mis Mawrth (2025). Cadarnhaodd y Comisiwn yr 16 etholaeth newydd ar gyfer y Senedd sydd wedi'u creu drwy baru 32 o etholaethau seneddol y DU yng Nghymru. Bydd yr etholaethau hyn yn dod i rym yn awtomatig yn etholiad y Senedd 2026. Bydd etholaeth Maldwyn a Glyndŵr yn cael ei chyfuno â sedd Dwyfor Meirionnydd i ffurfio etholaeth Senedd newydd, o'r enw Gwynedd Maldwyn.

Yn bersonol, dydw i ddim yn credu bod mandad cyhoeddus ar gyfer Senedd mwy o faint nac ar gyfer y newidiadau arfaethedig i'r system bleidleisio, felly ni ddylid gweithredu unrhyw un o'r cynigion hyn, ac yn sicr nid heb i'r cyhoedd ddweud eu dweud mewn refferendwm. Ni chafodd gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig i'r Bil sy'n galw am refferendwm ei gefnogi gan bleidiau eraill.

Rwy'n poeni y bydd Aelodau o’r Senedd y dyfodol yn ddyledus am eu sedd i benaethiaid eu plaid ac nid oherwydd eu perthynas agos â'r pleidleiswyr. Mae hyn, rwy'n credu, yn anghywir ac yn beth drwg i ddemocratiaeth. Bydd yn costio hyd at £18 miliwn y flwyddyn, neu'n cyfateb i 650 o nyrsys.

Wrth guro ar ddrysau pobl a siarad â nhw, dydw i ddim wedi dod ar draws unrhyw un sy'n meddwl mai'r ateb i broblemau Cymru yw gwario miliynau ar fwy o wleidyddion – rhagor o feddygon, deintyddion ac athrawon sydd ei angen arnom ni, nid gwleidyddion.