Terfynau Cyflymder 20mya
Diweddariad Ionawr 2025
Daeth rheoliadau Llywodraeth Cymru a newidiodd y rhan fwyaf o gyfyngiadau cyflymder o 30mya i 20mya i rym yn 2023. Cafwyd cryn ymateb gan y cyhoedd, gan gynnwys deiseb ar wefan y Senedd gyda bron i hanner miliwn o lofnodion yn gwrthwynebu'r newid. Pleidleisiais yn erbyn y rheoliadau, ac fel Ceidwadwyr Cymreig rydyn ni wedi ymrwymo i wyrdroi rheoliadau terfyn cyflymder 20mya Llywodraeth Cymru.
Yn fy marn i, er bod cyfyngiad cyflymder is mewn rhai ardaloedd yn briodol, fel y tu allan i ysgolion ac ardaloedd prysur eraill, rwy’n gwbl grediniol bod angen i Lywodraeth Cymru wneud y broses yn haws ar gyfer gostwng cyfyngiadau cyflymder mewn ardaloedd sy’n destun pryder, a lle mae yna gefnogaeth gan y gymuned, yn hytrach na chyflwyno'r polisi cyffredinol fel y gwnaethon nhw.
Mewn llawer o achosion rydw i wedi gofyn am newid i 20mya fy hun, ond mae'r 20mya diofyn wedi cael effaith negyddol ddifrifol yn fy marn i. Mi wnes i gynnal fy arolwg fy hun trwy ofyn i bobl Sir Drefaldwyn roi sgôr i gyflwyniad Llywodraeth Cymru o'i pholisi 20mya cyffredinol, gyda 0 yn anfodlon iawn a 10 yn fodlon iawn. Roedd 77% o'r ymatebwyr i'm harolwg o'r farn bod y cyflwyniad yn is na 3, sy'n golygu bod dros dri chwarter yr ymatebwyr yn anfodlon gyda dull gweithredu Llywodraeth Cymru.
Yn sgil ymateb a phwysau'r cyhoedd, dywedodd Llywodraeth Cymru, er ei bod yn parhau i gredu mai 20mya yw'r terfyn cyflymder cywir ger ysgolion, ysbytai, meithrinfeydd, canolfannau cymunedol, ardaloedd chwarae ac mewn ardaloedd preswyl adeiledig, y byddai'n mynd ati i fireinio'r polisi.
Nododd Ysgrifennydd y Cabinet, sydd bellach yn gyfrifol, ei gynlluniau i ymgysylltu â'r cyhoedd a chyflawni'r "cyflymder cywir ar y ffyrdd cywir."
Mae'r adolygiad bellach wedi dod i ben, ond dydw i ddim yn fodlon bod y gwaith hwn yn ystyried ac yn cynrychioli barn Cymru gyfan. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth yn credu y bydd y canllawiau newydd a ddarperir i awdurdodau priffyrdd yn helpu i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer ffyrdd lleol.
Mae'r canllawiau hefyd yn gofyn i awdurdodau bwyso a mesur manteision ac anfanteision codi'r terfyn cyflymder, gan ystyried ffactorau gan gynnwys pellter o amwynderau, yr effaith ar lwybrau bysiau, a dwysedd tai yn yr ardal. Daeth y fframwaith newydd i rym ym mis Medi 2024 a disgwylir i nifer y ffyrdd a adolygir amrywio'n sylweddol, yn dibynnu ar faint o adborth a dderbynnir gan bob awdurdod priffyrdd. Mae gan awdurdodau priffyrdd fynediad at gyllid ychwanegol o £5m ar gyfer y flwyddyn ariannol hon i newid terfynau cyflymder.