View this email in your browser
Cylchlythyr Ebrill 2024
Croeso i Gylchlythyr Ebrill 2024
Fis diwethaf, gwelsom Mark Drakeford yn rhoi'r gorau i'w rôl fel y Prif Weinidog a Vaughan Gething yn cael ei ethol fel y Prif Weinidog newydd.
Gwelsom hefyd argymhellion yn dilyn ymgynghoriad Ambiwlans Awyr Cymru y dylai canolfannau Ambiwlans Awyr y Trallwng a Chaernarfon gau.
Mae fy nghylchlythyr yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer o faterion eraill hefyd.
Fel arfer, os ydych chi eisiau'r wybodaeth ddiweddaraf am rywbeth nad ydw i wedi sôn amdano yn fy nghylchlythyr, neu os galla i helpu mewn unrhyw ffordd arall, anfonwch e-bost ataf yn [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.
Prif Weinidog newydd
Llongyfarchiadau i Vaughan Gething ar gael ei ethol yn Brif Weinidog.
Mae ganddo lawer o waith o'i flaen. Rwy'n credu bod angen iddo ganolbwyntio ar leihau amseroedd aros y GIG, sef yr amseroedd aros hiraf yn y DU ar hyn o bryd. Mae angen iddo hefyd wella safonau addysg a gwella'r economi a chyflogau clir yng Nghymru.
Mae gennym ni rai pethau yn gyffredin; cafodd y ddau ohonon ni ein geni ym 1974, a'n hethol i'r Senedd yn 2011, ond mae gennym flaenoriaethau gwahanol yn wleidyddol. Ond ar ddiwedd y dydd, rydw i bob amser wedi ceisio gweithio gydag aelodau eraill o'r Senedd o bleidiau eraill pan allwn ni ddod o hyd i dir cyffredin.
Mae cyfle nawr i ni newid y drefn. Un o'i brif flaenoriaethau fydd dangos y bydd yn Brif Weinidog i Gymru gyfan, ac mae gwir angen i Lywodraeth Cymru ailennill ymddiriedaeth ffermwyr a chymunedau gwledig.
Dim penderfyniad o hyd ar yr Ambiwlans Awyr
Fis diwethaf, cyhoeddodd Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans yr adroddiad ac adolygiad terfynol o wasanaeth yr Ambiwlans Awyr, a oedd yn cynnwys ei argymhellion a fyddai'n golygu cau canolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng. Yn dilyn hyn, fe wnes i holi’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan AS, a gofyn iddi ymyrryd. Gofynnais hefyd pa effaith yr oedd y broses ymgysylltu wedi’i chael. Bydd llawer yn teimlo bod y penderfyniad hwn wedi'i wneud o'r cychwyn cyntaf.
Er nad dyma'r argymhelliad yr oedden ni ei eisiau, mae'n bwysig cofio mai dim ond argymhelliad oedd e. Roedd disgwyl i'r penderfyniad terfynol gael ei wneud yr wythnos diwethaf ar 28 Mawrth, gan Bwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru yn dilyn yr argymhelliad a roddwyd iddo. Mae'r pwyllgor hwn yn cynnwys y prif swyddogion gweithredol o'r 7 Bwrdd Iechyd yng Nghymru.
Cyn y cyfarfod, ar y cyd â’r Aelod Seneddol Craig Williams ac aelodau eraill o'r ddwy Senedd sy'n cynrychioli ardaloedd eraill a fydd yn cael eu heffeithio, fe wnaethon ni ysgrifennu at bob Prif Swyddog Gweithredol, ar sail drawsbleidiol, gan gyflwyno'r achos cryf pellach sydd gennym ni yn erbyn cau'r canolfannau. Rwy'n falch na wnaethon nhw dderbyn yr argymhellion, a'u bod wedi cytuno i ohirio unrhyw benderfyniad terfynol tra'u bod yn disgwyl rhagor o wybodaeth. Rydw i ac ymgyrchwyr blaenllaw eraill yn parhau i weithio i gael y canlyniad rydyn ni i gyd ei eisiau.
Gofynnodd Russell i Weinidog Iechyd Cymru ymyrryd.
Diwrnod Ymwybyddiaeth Llyncu
Cefais wahoddiad i ysbyty'r Drenewydd i nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Llyncu sy'n codi ymwybyddiaeth o sut mae therapyddion iaith a lleferydd yn helpu pobl sy'n byw gydag anawsterau bwyta, yfed a llyncu.
Roedd hi'n dda cyfarfod â'r therapyddion iaith a lleferydd Eleri a Pippa a chleifion i drafod eu gwaith, ond hefyd y mathau o fwydydd mae'r rhai ag anawsterau llyncu yn eu bwyta.
Beth yw 'Diwygio'r Senedd'?
Ar hyn o bryd, mae'r cynlluniau i gynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd o 60 i 96, a newid y ffordd y caiff Aelodau o'r Senedd eu hethol, yn mynd rhagddynt drwy’r 'Bil Diwygio'r Senedd’. Yn sicr, dydw i ddim o blaid y ddeddfwriaeth hon, ac rydw i am esbonio pam.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei Bil yn gynharach eleni, ac mae'r Senedd yn craffu arno ar hyn o bryd. Os caiff ei basio, bydd yn cynyddu maint y Senedd o 60 i 96 o Aelodau, yn caniatáu cynnydd yn nifer Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac yn newid system etholiadol y Senedd sy'n golygu, yn hytrach nag un aelod yn cynrychioli etholaeth, y byddai sawl Aelod o'r Senedd yn cynrychioli etholaethau mwy.
Mae ail ran i gynigion Llywodraeth Cymru hefyd, sy'n ceisio cyflwyno cwotâu rhywedd a fyddai'n mynnu bod pleidiau gwleidyddol yn sicrhau bod o leiaf hanner eu hymgeiswyr yn fenywod.
Darllenwch fy niweddariad llawn
Mynd i'r afael â throseddau cefn gwlad
Mae Craig Williams a minnau wedi cyfarfod ag uwch swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn ystod y misoedd diwethaf i drafod y cynnydd enfawr mewn troseddau cefn gwlad ar hyd ffin Powys a Swydd Amwythig sydd wedi gweld lladradau gwerth dros £10 miliwn ers mis Gorffennaf diwethaf - ergyd drom i gymaint o ffermwyr a busnesau lleol.
Maen nhw wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, a hoffwn i ddiolch i Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Gorllewin Mersia am eu gwaith. Fis diwethaf, fe wnaethon nhw ddod at ei gilydd ar gyfer diwrnod o weithredu ar droseddau cefn gwlad a arweiniodd at arestio 7 aelod allweddol o grŵp troseddu cyfundrefnol yn Swydd Amwythig. Cafwyd hyd i symiau mawr o arian parod, peiriannau ac offer fferm hefyd.
Ers i'r cynnydd enfawr hwn mewn lladradau ddechrau, mae Craig a minnau wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â Phrif Gwnstabl a swyddogion Dyfed-Powys i annog gwell amddiffyniad i'n ffermwyr. Mae gwaith yr heddlu wedi bod yn allweddol i'r ymgyrch hon, gyda thystiolaeth DNA ac esgidiau allweddol yn cael ei chanfod yn lleoliadau troseddau Powys. Mae hyn wedi eu galluogi i gydweithio'n agos â Heddlu Gorllewin Mersia a rhannu gwybodaeth, gyda 17 o swyddogion Dyfed-Powys yn ymuno â'r ymgyrch i helpu timau arestio.
Disgwylir y bydd tua 20-30 o droseddau o ranbarth Dyfed-Powys yn cael eu cynnwys unwaith y bydd yr holl dystiolaeth wedi'i hadolygu. Mae hyn yn newyddion calonogol i ffermwyr a busnesau ledled Sir Drefaldwyn, gan ddod â'r cyfnod gofidus hwn o ladradau i ben a dod â'r rhai sy'n gyfrifol o flaen eu gwell a chanfod gwerth miliynau o bunnoedd o offer wedi'u dwyn.
5,500 o welingtons
Mae grisiau'r Senedd wedi gweld nifer o brotestiadau ac arddangosiadau dros y blynyddoedd, ond byddwn i'n dadlau nad oes yr un wedi bod mor ingol a phwerus ag arddangos 5,500 o welingtons gwag.
Roedd y welingtons gwag yn cynrychioli'r ffermydd gwag a'r cymunedau gwag a welir ar hyd a lled y Gymru wledig os bydd cynigion Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Lafur Cymru yn mynd rhagddynt heb newidiadau mawr.
Yn dilyn y nifer enfawr o ffermwyr fu’n protestio yn y Senedd a'r 5,500 o welingtons a arddangoswyd, rwy'n credu nawr, gyda Phrif Weinidog newydd ac Ysgrifennydd Materion Gwledig newydd, Huw Irranca-Davies AS, y bydd cyfle i'r ddau ohonyn nhw ailystyried eu cynlluniau ac ailosod y polisi hwn drwy wrando ar ffermwyr.
Gwella diogelwch ar y ffyrdd
Fis diwethaf, cyfarfu Russell a’r Aelod Seneddol Craig Williams â swyddogion yr Heddlu a'r Llywodraeth i drafod diogelwch ar yr A458 rhwng y Trallwng a'r Amwythig.
Gwella diogelwch ar ein ffyrdd yw un o brif flaenoriaethau’r Aelod Seneddol Craig Williams a minnau ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Yn anffodus, bu nifer o ddamweiniau ar yr A458 rhwng y Trallwng a'r Amwythig dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys damwain angheuol tua diwedd 2023. Mae Craig Williams a minnau'n credu bod angen gwneud y gefnffordd allweddol hon yn llawer mwy diogel, ac rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu dros gynllun gwella ffyrdd sydd ei angen ers tro byd.
Ynghyd â Craig a'r Cynghorydd Amanda Jenner, rydyn ni hefyd wedi cyflwyno pryderon preswylwyr i Lywodraeth Cymru a Heddlu Dyfed-Powys i'w hannog i wneud newidiadau diogelwch hanfodol ar hyd y ffordd. Mae'r ffordd bellach yn 'ardal o bryder' swyddogol a fydd yn gweld swyddogion plismona'r ffyrdd yn bresennol arni yn rheolaidd, a bydd y llinellau gwyn solet yn cael eu hymestyn ymhellach tuag at Middletown.
Hyrwyddir gan Russell George AS, 13 Parkers Lane, Y Drenewydd, SY16 2LT
Mae costau'r cyhoeddiad hwn wedi’u talu gan Gomisiwn y Senedd o arian cyhoeddus.
Ydych chi eisiau newid sut rydych chi'n derbyn yr e-byst hyn?
Gallwch chi update your preferences o'r unsubscribe from this list.