View this email in your browser
Cylchlythyr Hydref 2024
Croeso i gylchlythyr Hydref 2024.
Dyma fy nghylchlythyr cyntaf yn ôl yn y Senedd yn dilyn toriad yr haf ac mae llawer wedi digwydd.
Rydyn ni wedi gweld penderfyniadau a newidiadau polisi mawr gan Lywodraethau'r DU a Chymru, megis y penderfyniad i ddod â’r taliadau tanwydd gaeaf cyffredinol i ben, ac i ddileu'r bil cwota Rhywedd.
Fel arfer, os hoffech dderbyn diweddariad ar rywbeth nad ydw i wedi'i grybwyll yn fy nghylchlythyr, neu os gallaf eich helpu mewn unrhyw ffordd, anfonwch e-bost ataf: [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.
Ambiwlans Awyr Cymru
Does dim llawer i'w adrodd ar hyn o bryd, ond roeddwn i eisiau egluro’r sefyllfa bresennol.
Yn dilyn penderfyniad sylfaenol diffygiol a wnaed gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru ym mis Ebrill i gau a chanoli canolfannau Ambiwlans Awyr y Trallwng a Chaernarfon, mae grwpiau ymgyrchu yn y ddwy ardal wedi bod yn cydweithio i herio'r penderfyniad.
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddwyd cais am adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys. Roedd y cais yn herio cyfreithlondeb penderfyniad Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru. Ar hyn o bryd rydyn ni’n dal i aros am benderfyniad gan y Llys.
Dywedwyd wrthym hefyd y byddai ‘gwasanaethau gofal critigol pwrpasol gwell ar y ffyrdd' yn cael eu darparu i gefnogi ardaloedd gwledig ac anghysbell. Dywedwyd wrthym y byddai rhagor o wybodaeth am hyn yn cael ei darparu ym mis Hydref, felly rydyn ni’n disgwyl am y manylion hyn maes o law.
Newidiadau i etholiadau'r Senedd
Ym mis Medi, rhyddhaodd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ei gynigion cychwynnol ar gyfer ad-drefnu etholaethau'r Senedd.
Roedd hyn yn cynnwys etholaeth Sir Drefaldwyn a Glyndŵr yn cael ei chyfuno â sedd Dwyfor Meirionnydd i ffurfio etholaeth newydd i'r Senedd
Mae hyn yn dilyn pasio Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn gynharach eleni. Bydd cynnydd yn nifer yr Aelodau o’r Senedd o 60 i 96.
Byddai 6 aelod yn cynrychioli pob un o'r ardaloedd arfaethedig newydd.
Doeddwn i ddim o blaid y ddeddfwriaeth hon, ac mae fy niweddariad llawn yn nodi'r newidiadau a pham roeddwn i’n eu gwrthwynebu.
Defnyddio Chwaraeon i wella ein hiechyd
Yn gynharach yr wythnos hon, roeddwn i’n falch o noddi digwyddiad ar y cyd â Chwaraeon Cymru i drafod sut mae Chwaraeon yn cael eu defnyddio fel adnodd iechyd ataliol mwyaf y genedl.
Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i drafod manteision buddsoddi mewn Chwaraeon gyda'r sectorau chwaraeon ac iechyd.
Cynhaliwyd panel o weithwyr proffesiynol chwaraeon ac iechyd a fu’n trafod manteision chwaraeon o safbwynt helpu i leddfu'r pwysau ar y GIG a sut y gall canlyniadau iechyd gwell fod o fudd economaidd hefyd.
Taliadau Tanwydd Gaeaf
Er nad yw Taliadau Tanwydd Gaeaf yn faterion i'r Senedd, rydw i wedi cael llawer o bobl yn cysylltu â mi am benderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â’r taliadau tanwydd gaeaf cyffredinol i bensiynwyr i ben.
Amcangyfrifir na fydd dros 20,000 o bensiynwyr yn Sir Drefaldwyn a Glyndŵr yn unig yn derbyn hyd at £300 y gaeaf hwn. Mae'r taliad tanwydd gaeaf, hyd yma, wedi bod yn cael ei dalu i bob pensiynwr i helpu gyda biliau ynni. Roedd y taliad yn seiliedig ar yr egwyddor y byddai pobl hŷn yn cael eu gadael yn agored i niwed ac mewn mwy o berygl pe na bai modd iddyn nhw dalu am wres digonol.
Os ydych chi’n bensiynwr neu'n adnabod pensiynwr a fydd yn colli’r taliad tanwydd gaeaf, mae sawl sefydliad y gallwch chi gysylltu â nhw os ydych chi’n poeni:
• https://www.moneyhelper.org.uk/en/benefits/benefits-in-later-life/benefits-in-retirement
• https://www.ageuk.org.uk/information-advice/money-legal/manage-your-money
• https://www.ageuk.org.uk/information-advice/money-legal/benefits-entitlements/warm-home-discount/
Clamp o gam
Fy araith ar lwyddiannau 6 o etholwyr yn ymgymryd â’u tasg enfawr.
Fy araith ar gyflawniadau 6 etholwr a aeth ati i wneud clamp o gamp.
Bob wythnos yn y Senedd, ar wahân i graffu ar ddeddfwriaeth a holi Gweinidogion, mae cyfleoedd i ddathlu cyflawniadau.
Yr wythnos hon roeddwn wrth fy modd o allu siarad am 6 etholwr a gymerodd ran yn her 3 chopa Cymru i godi ymwybyddiaeth a thynnu sylw at waith yr elusen Max Appeal.
Codwyd £2,000, sy'n glamp o gamp, a llwyddwyd i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr hefyd.
Gallwch ddarganfod mwy am Max Appeal a'u gwaith yma: Max Appeal
Gwobrau'r Gynghrair Cefn Gwlad
Mae Gwobrau blynyddol y Gynghrair Cefn Gwlad bellach yn agored i enwebiadau cyhoeddus ac rydw i am fachu ar y cyfle hwn i annog trigolion Sir Drefaldwyn i enwebu ein busnesau lleol gwych.
Mae Gwobrau'r Gynghrair Cefn Gwlad yn ffordd o gefnogi a hyrwyddo cymunedau gwledig. Maen nhw’n dathlu pobl sy'n mynd yr ail filltir i sicrhau y gall diwydiant bwyd a ffermio gwledig Prydain, busnesau bach, sgiliau traddodiadol, mentrau blaengar ac, yn anad dim, ei phobl, lwyddo.
Mae'r gwobrau hyn yn gyfle gwych i arddangos yr entrepreneuriaid lleol gweithgar sy'n helpu Cymru wledig i ffynnu.
Credaf fod ansawdd y cynnyrch lleol yn Sir Drefaldwyn yn rhagorol ac mae llawer o fusnesau a hyrwyddwyr cymunedol yn haeddu cydnabyddiaeth genedlaethol.
Y llynedd, cefais y fraint o weld Sir Drefaldwyn yn cystadlu yng ngwobrau Cymru ac enillodd ein cigyddion lleol Izzy, sydd wedi'u lleoli yn Llanrhaeadr-ym-mochnant, wobr haeddiannol iawn yn rownd derfynol Tŷ'r Arglwyddi.
Rwy'n annog pawb i gymryd rhan a chyflwyno enwebiad. I enwebu, dilynwch y ddolen hon: https://www.countryside-alliance.org/awards
Beth am wneud ein gorau glas i ddod â mwy o wobrau yn ôl i Sir Drefaldwyn a rhannu llwyddiant ein hardal gyda gweddill y wlad?
Cymorthfeydd a Chystadleuaeth
Byddaf yn Morrisons y Drenewydd ddydd Gwener yma, ac yn Tesco y Trallwng yn ddiweddarach y mis hwn. Mae croeso i chi alw heibio am sgwrs os hoffech godi unrhyw fater gyda mi.
Rydw i hefyd yn cynnal fy nghystadleuaeth flynyddol! Mae manylion sut y gall pobl ifanc gymryd rhan yn fy nghystadleuaeth Cerdyn Nadolig isod!
Hyrwyddir gan Russell George AS, 13 Parkers Lane, Y Drenewydd, SY16 2LT
Mae costau'r cyhoeddiad hwn wedi’u talu gan Gomisiwn y Senedd o arian cyhoeddus.
Ydych chi eisiau newid sut rydych chi'n derbyn yr e-byst hyn?
Gallwch chi update your preferences o'r unsubscribe from this list.