View this email in your browser
Newyddion Mawrth 2024
Croeso i’m cylchlythyr ar gyfer Mawrth 2024
Yr wythnos diwethaf, gwelsom y brotest fwyaf erioed i gael ei chynnal yn y Senedd, gyda miloedd o ffermwyr ac eraill sy'n poeni am ein cymunedau gwledig yn ymgasglu yng Nghaerdydd. Mae fy nghylchlythyr yn rhoi diweddariad ar hyn a materion eraill.
Fel bob amser, os ydych chi eisiau diweddariad ar rywbeth nad yw'n cael sylw yn fy nghylchlythyr, neu os galla i helpu mewn unrhyw ffordd arall, anfonwch e-bost ataf yn [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.
Cefnogi'r Diwydiant Ffermio
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i ffermwyr wneud mwy am lai, gyda llai o gymorth ganddi er gwaethaf gofynion amgylcheddol cynyddol. Mae'r diwydiant bellach ar ei liniau.
Fis diwethaf, ymunais â ffermwyr yn y Drenewydd wrth iddyn nhw geisio cyfarfod â'r ddau ymgeisydd sydd am fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, ymunais â Phrif Weinidog y DU wrth iddo gyfarfod â ffermwyr yn Llandudno, a'r wythnos diwethaf bûm yn siarad â'r rhai a ddaeth i brotestio yn y Senedd, yn y brotest fwyaf erioed ym Mae Caerdydd.
Gallwch ddarllen fy niweddariad llawn yn y ddolen isod, a gwylio fy nghyfraniad at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig, a oedd yn galw am ddileu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig.
Darllenwch fy niweddariad llawn
Roedd mis Chwefror yn nodi 5 mlynedd ers agor Ffordd Osgoi'r Drenewydd
Mae'r ffordd osgoi wedi bod yn gadarnhaol i'r Canolbarth. Ers i'r ffordd osgoi agor, mae cynlluniau pwysig eraill wedi'u cyflawni, megis y Bont ar Ddyfi a agorodd fis diwethaf.
Mae cynlluniau eraill rwy'n mynd i’r afael â nhw’n cynnwys gwaith yng Nghaersws, yr angen dybryd am gynllun gwella ffyrdd ar yr A44 rhwng Llangurig ac Aberystwyth i wella diogelwch, atgyweiriadau yn Nhalerddig ac rwy’n gweithio gyda Craig Williams AS i sicrhau gwelliannau i'r A458 yn Middletown, heb sôn am ffordd osgoi Pant–Llanymynech.
Darllenwch fy Niweddariad Llawn
Pwysigrwydd Prentisiaethau
Fis diwethaf, ochr yn ochr â Craig Williams AS, mi wnes i ymweld â Carpenter & Paterson yn y Trallwng. Mae'r busnes, a sefydlwyd ym 1956, yn dylunio a chynhyrchu cynhyrchion ar gyfer amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys cynhyrchu pŵer, ynni adnewyddadwy a niwclear.
Ar hyn o bryd, prentisiaid yw dros 12% o weithlu'r cwmni, gyda llawer ohonyn nhw wrthi ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiect sy'n cyflenwi cynhyrchion i brosiect Hinkley Point C sy'n cael ei ystyried yn hanfodol i anghenion ynni'r DU i'r dyfodol.
Ar ein hymweliad, cawsom hefyd gwmni Nick Jones o Myrick Training Services. Mae'r elusen yn helpu i gysylltu cyflogwyr, colegau a phrentisiaid i gefnogi'r gweithlu.
Roedd hi’n dda cael cyfarfod â rhai o'r prentisiaid sy'n gweithio i'r cwmni ar hyn o bryd, a llongyfarch Calum Greatorex am gipio gwobr 'Prentis y Flwyddyn' yn ddiweddar gydag Academi Sgiliau Cymru fel prentis Lefel 3 Myrick.
Mae yna boeni sut y bydd toriadau i raglenni Prentisiaethau yn cael effaith negyddol, sy'n bwyntiau y llwyddais i'w codi yn uniongyrchol gyda'r Prif Weinidog.
Amseroedd Aros Plant: Amseroedd aros y GIG a sut i gau'r bylchau
Fis diwethaf, noddais ddigwyddiad yn y Senedd ac ymunais â'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH) i drafod tueddiadau mewn amseroedd aros i blant ledled Cymru. Nod y digwyddiad oedd annog Aelodau o'r Senedd i ganfod atebion arloesol nid yn unig i fynd i'r afael â'r ôl-groniad ond hefyd i leihau nifer y plant sydd angen triniaeth yn y dyfodol.
Trafodais gyda phediatregwyr eu profiadau o ofalu am blant a sut maen nhw'n credu y gall Cymru ddarparu'r gofal gorau posibl yn y dyfodol.
Lansiodd yr RCPCH eu hadroddiad hefyd. Mae'r adroddiad yn rhoi dadansoddiad o ddata amseroedd aros yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru a fydd, os cânt eu cyflawni, yn cefnogi'r gweithlu iechyd plant i ddarparu gofal diogel, amserol ac effeithiol. Byddaf yn parhau i hyrwyddo'r adroddiad a'i argymhellion. Mae'n rhaid i leihau amseroedd aros am driniaeth yng Nghymru fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Gwobrau'r Gynghrair Cefn Gwlad yn y Senedd
Cynhaliodd Cynghrair Cefn Gwlad Cymru ei seremoni wobrwyo flynyddol, yr ‘Oscars Cefn Gwlad’ yn y Senedd yr wythnos diwethaf. Llongyfarchiadau i gigyddion Izzys, Siop y Pentref Llanymynech, Bunners yn Nhrefaldwyn, tafarn Dolau a Siop Bentref Mantles am gipio gwobrau cyntaf ac ail ac am dderbyn canmoliaeth uchel yn rowndiau terfynol y Gynghrair Cefn Gwlad yn y Senedd yr wythnos hon.
Pleser oedd cael bod yn bresennol yn y digwyddiad, a chyflwynwyd y gwobrau gan Gareth Wyn Jones a Chyfarwyddwr Cynghrair Cefn Gwlad Cymru Rachel Evans.
Darllenwch fy niweddariad llawn
Hyrwyddir gan Russell George AS, 13 Parkers Lane, Y Drenewydd, SY16 2LT
Mae costau'r cyhoeddiad hwn wedi’u talu gan Gomisiwn y Senedd o arian cyhoeddus.
Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list.