Newyddion Rhagfyr 2023
Croeso i'm cylchlythyr Rhagfyr 2023
Wrth i'r Nadolig nesáu, hoffwn anfon dymuniadau gorau'r ŵyl i chi a'ch teulu. Mae hefyd yn amser addas i feddwl am yr holl bobl hynny sy'n ei chael hi'n anodd dros gyfnod y Nadolig, gan gynnwys yr holl deuluoedd sy’n dioddef yng nghanol rhyfeloedd y byd.
Mae'r cylchlythyr hwn yn cynnwys diweddariadau ar sawl maes fel £17 miliwn o fuddsoddiad newydd i Bowys, ein hyb bancio newydd, a straeon eraill.
Fel arfer, os gallaf eich helpu gydag unrhyw fater neu bryder, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy e-bostio - [email protected]
Nadolig Llawen iawn i chi gyd.
Diolch i Rose May Foskett am wneud gwaith ardderchog yn dylunio fy ngherdyn Dolig eleni. Rwyf bob amser yn derbyn ceisiadau anhygoel ac mae'n anodd dewis yr enillydd!
£17 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU
Ddiwedd mis Tachwedd, croesawodd yr Aelod Seneddol Craig Williams AS a minnau y newyddion heddiw gan Lywodraeth y DU fod Powys wedi llwyddo yn nhrydydd rownd y Gronfa Ffyniant Bro i dderbyn £17,714,498.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar y dyfarniad gwerth £16 miliwn a dderbyniodd Sir Drefaldwyn yn rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro tuag at adfer Camlas Maldwyn.
Roedd y cais yn canolbwyntio ar fuddsoddi trafnidiaeth yn y Sir i gefnogi'r diwydiant twristiaeth hamdden yn ogystal ag economi ehangach y Canolbarth. Bydd gwaith adnewyddu i bontydd ar hyd a lled y sir yn ogystal â rhaglen ailwynebu priffyrdd ar raddfa fawr. Mae rhai o'r prosiectau hyn yn cynnwys y pontydd troed yn Aberriw, Caersŵs, Garthmyl a Llangadfan, rhoi wyneb newydd i ffyrdd mewn lleoliadau ar draws y sir, yn enwedig mannau poblogaidd i dwristiaid fel Llyn Efyrnwy a Llanrhaedr-ym-Mochnant.
Yn hanesyddol, mae Sir Drefaldwyn a Phowys wedi colli allan ar fuddsoddiadau enfawr fel cyhoeddiad Llywodraeth y DU fis diwethaf o'r £17 miliwn pellach o'r Gronfa Ffyniant Bro. Gan weithio ochr yn ochr â'r Aelod Seneddol Craig Williams, rwyf wrth fy modd bod degau o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad wedi’i sicrhau i'n hardal dros y tair blynedd diwethaf. Bydd yr arian hwn yn darparu buddsoddiad mawr ei angen i alluogi prosiectau sylweddol i symud ymlaen, a fydd yn cryfhau ein cynnig twristiaeth, ac yn gwneud y Canolbarth yn lle deniadol i ymweld ag ef.
Hyb bancio i agor
Mae'r Aelod Seneddol Craig Williams a minnau wedi gweithio'n ddyfal gyda Cash Access UK sy'n darparu Hyb Bancio newydd i wasanaethu'r Trallwng a'r cylch.
Mae'r Hyb Bancio newydd yn agor yn y Trallwng y mis hwn a bydd yn cynnig mynediad a gwasanaethau bancio a rennir i gwsmeriaid pob banc mawr. Dyma fydd un o'r canolfannau bancio cyntaf o'i fath i agor yng Nghymru a bydd wedi'i leoli yn hen adeilad Banc Lloyds ar y stryd fawr. Bydd yr Hyb ar agor o 9 y bore tan 5 yr hwyr ddydd Llun i ddydd Gwener ac yn gallu cynnig gwasanaethau bancio bob dydd a thrafodion arian parod.
Ar ben hyn, bydd banciwr cymunedol o bob banc ar gael ar system rota, a fydd wrth law i helpu gydag ymholiadau a materion mwy cymhleth. Mae'r amserlen ar gyfer hyn wedi'i rhestru isod.
• Dydd Llun: Lloyds
• Dydd Mawrth: NatWest
• Dydd Mercher: HSBC
• Dydd Iau: Santander
• Dydd Gwener: Barclays
Rheoli argaeau yn well
Yn anffodus, rydym yn agosáu at yr adeg o'r flwyddyn pan mae llifogydd yn ein meddyliau eto - yn enwedig i rai cymunedau sydd wedi cael eu taro yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Gofynnais i'r Prif Weinidog am y wybodaeth ddiweddaraf am sut y gallai gwell rheolaeth ar gronfeydd dŵr Clywedog a Efyrnwy liniaru llifogydd a stormydd difrifol. Fe wnaeth gydnabod y dylai rhagolygon tywydd gwell olygu y gellid clirio lle yn y cronfeydd hyn trwy ryddhau dŵr cyn y digwyddiadau tywydd hyn.
Yn y gorffennol, mae amodau'r tywydd wedi dangos gwendid trefniadau gweithredol a'r gwaith o reoli peryglon llifogydd yng Nghlywedog a Llyn Efyrnwy sydd wedi arwain at orlifo'r ddwy gronfa ddŵr, a'r canlyniad oedd llifogydd i lawr yr afon yn y ddwy ardal. Mae'r ddwy gronfa yn eiddo i Hafren Dyfrdwy, sy'n rhan o Severn Trent, ac yn cael eu rheoli ganddo, ond dim ond ar gais Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr y gellir creu lle sbâr drwy ryddhau dŵr.
Mae angen arbennig i Cyfoeth Naturiol Cymru weithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Lloegr i reoli llifogydd yn ein cymunedau yn fwy effeithiol. Mae afonydd yn llifo dros y ffin a gall rheolaeth wael gan y naill gorff neu'r llall effeithio'n sylweddol ar yr ardal arall.
Cynigion addysg
Mae Cyngor Sir Powys wedi bod yn ymgynghori ar nifer o newidiadau arfaethedig.
Ar hyn o bryd, mae sawl cynnig ar y bwrdd yr hoffwn roi diweddariad i chi arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys symud Ysgol Bro Caereinion i ddod yn ysgol cyfrwng Cymraeg a chau sawl ysgol gynradd.
Rwy'n trafod pob cynnig penodol a'm barn ar fy ngwefan. Defnyddiwch y ddolen isod i weld y wybodaeth hon.
Ymwybyddiaeth o dwyll
Yn ddiweddar, cynhaliodd yr Aelod Seneddol Craig Williams a minnau ddigwyddiad Ymwybyddiaeth o Dwyll yn y Trallwng.
Mae twyll yn gallu cael effaith emosiynol mor ddwfn a sylweddol yn ogystal ag ariannol ar ddioddefwyr.
Roedd hi'n braf dod ag ystod eang o sefydliadau ynghyd fel banciau, yr heddlu ac eraill i gynnig cyngor a chefnogaeth.
Cyngor ar Bopeth oedd un o fynychwyr y digwyddiad. Mae sawl ffordd o drafod unrhyw bryderon penodol am sgamiau gyda nhw:
• Llinell gymorth i ddefnyddwyr, ar agor dydd Llun i ddydd Gwener (8am tan 6pm). 0808 223 1133
• Sgyrsfan ar-lein.
• Cyswllt e-bost.
Gallant eich llywio i’r cyfeiriad cywir a rhoi cymorth os ydych chi’n diodde’n emosiynol ar ôl sgam, ar fancio’n benodol ac ar riportio.
Darpariaeth Gwasanaeth Argyfwng newydd yn Amwythig
View this email in your browser

Mae Russell George AS yn gofyn i'r Prif Weinidog am reoli argaeau’n well er mwyn helpu i osgoi llifogydd.

Darllenwch fy niweddariad llawn
Ymwybyddiaeth o dwyll
Yn ddiweddar, cynhaliodd yr Aelod Seneddol Craig Williams a minnau ddigwyddiad Ymwybyddiaeth o Dwyll yn y Trallwng.
Mae twyll yn gallu cael effaith emosiynol mor ddwfn a sylweddol yn ogystal ag ariannol ar ddioddefwyr.
Roedd hi'n braf dod ag ystod eang o sefydliadau ynghyd fel banciau, yr heddlu ac eraill i gynnig cyngor a chefnogaeth.
Cyngor ar Bopeth oedd un o fynychwyr y digwyddiad. Mae sawl ffordd o drafod unrhyw bryderon penodol am sgamiau gyda nhw:
• Llinell gymorth i ddefnyddwyr, ar agor dydd Llun i ddydd Gwener (8am tan 6pm). 0808 223 1133
• Sgyrsfan ar-lein.
• Cyswllt e-bost.
Gallant eich llywio i’r cyfeiriad cywir a rhoi cymorth os ydych chi’n diodde’n emosiynol ar ôl sgam, ar fancio’n benodol ac ar riportio.
Darpariaeth Gwasanaeth Argyfwng newydd yn Amwythig
Bu Craig Williams, yr Aelod Seneddol, a minnau’n cyfarfod uwch staff yn Ymddiriedolaeth GIG Shrewsbury and Telford (SATH) yn ddiweddar i drafod eu cynlluniau manwl ar gyfer datblygu safle Ysbyty Amwythig.
Mae hwn yn ddatblygiad mor gadarnhaol i ni yng nghanolbarth Cymru gan y byddwn yn gweld gwelliant mewn gofal iechyd brys sy'n achub bywydau yn Amwythig, lle mae cymaint ohonom yn mynd am driniaeth. Mae'r gwasanaethau a gynlluniwyd yn fwy sylweddol nag adran damweiniau ac achosion brys safonol.
Mae'r cynlluniau hefyd yn golygu bod y gwasanaeth cleifion mewnol menywod a phlant dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn dychwelyd i'r Amwythig. Credaf y bydd y cynlluniau’n lleihau amseroedd aros cyfredol adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn y ddau ysbyty, yn ogystal ag amseroedd trosglwyddo cleifion o ambiwlansys.
Gwella TG yn GIG Cymru
Ym mis Tachwedd, arweiniais ddadl yn y Senedd ar yr angen i wella technoleg yn y GIG yng Nghymru. Roedd y ddadl yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ap ac e-bresgripsiynu y GIG ar frys, cyflymu'r broses o integreiddio technolegau digidol ac AI; a dechrau ar y broses raddol o gael gwared ar dechnolegau sydd wedi dyddio.