Newyddlen Ionawr 2024
Croeso i gylchlythyr cyntaf 2024
Gobeithio y cawsoch chi Nadolig da a hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd hapus a llewyrchus iawn i chi.
Dyma fanteisio ar y cyfle ar ddechrau Ionawr i fwrw golwg yn ôl dros 2023, a'r hyn sydd ar y gweill ar gyfer 2024. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol tynnu sylw at ambell faes y bues i'n gweithio arnyn nhw dros y flwyddyn aeth heibio, fel eich aelod o Senedd Cymru.
Wrth gwrs, rydyn ni’n ymwybodol o sawl rhyfel ym mhedwar ban byd, ac mae ein meddyliau ni gyda'r holl blant a phobl hynny sydd wedi'u heffeithio gan y brwydro.
Eleni, gallwn ddisgwyl etholiad cyffredinol yn y DU. Bydd Prif Weinidog newydd Cymru yn ei le hefyd, a dymunaf yn dda i Mark Drakeford wrth iddo gamu o'r neilltu. Er bod gennym weledigaeth wahanol i Gymru, mae gen i barch enfawr tuag at ei ymroddiad i swydd y Prif Weinidog. Mae'n bwysig, fodd bynnag, nad yw'r cyhoeddiad hwn yn tynnu sylw oddi ar y swydd hollbwysig o gyflawni dros y genedl. Bydd Prif Weinidog newydd yn ei le erbyn y Pasg.
Fel arfer, os ydych chi eisiau diweddariad ar rywbeth nad ydw i wedi sôn amdano yn fy nghylchlythyr, neu os gallaf helpu mewn unrhyw ffordd, anfonwch e-bost ataf i russell.george@senedd.cymru a ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.
Hefyd, cofiwch gysylltu os ydych chi eisiau copi o'm calendr ar gyfer 2024 sy'n cynnwys rhestr o gysylltiadau defnyddiol, a gallaf bostio un atoch.
Ymgyrch dros ddyfodol hirdymor Canolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng
Mae'r ymgynghoriad terfynol bellach wedi digwydd, ac roedden ni wedi disgwyl y byddai penderfyniad terfynol ar ddyfodol canolfan y Trallwng wedi ei wneud cyn diwedd 2023. Edrychwn ymlaen at y penderfyniad hwn yn gynnar yn 2024. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi mynychu cyfarfodydd cyhoeddus, wedi gosod posteri a chefnogi mewn ffyrdd eraill.
Gwasanaethau Iechyd newydd yn y Canolbarth
Ar ôl blynyddoedd lawer o ymgyrchu, bydd ysbyty a chyfleuster iechyd newydd yn dod i'r Drenewydd. Bydd hyn yn gweithio gyda'r rhwydwaith presennol o ysbytai cymunedol ac ysbytai cyffredinol ardal o amgylch ein ffiniau, er mwyn sicrhau ein bod yn derbyn y driniaeth gywir yn llawer agosach at adref. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys yn arwain y prosiect a gallwn ddisgwyl cynlluniau manylach yn gynnar eleni.
Yn ddiweddar, fe wnaeth yr Aelod Seneddol Craig Williams a minnau gwrdd ag uwch staff Ymddiriedolaeth GIG Amwythig a Telford i drafod y cynlluniau manwl ar gyfer datblygu safle Ysbyty Amwythig. Bydd hyn yn gam cadarnhaol i ni yn y Canolbarth oherwydd bydd darpariaeth gofal iechyd brys llawer gwell, sy’n achub bywydau, wedi’i lleoli yn Amwythig. Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau'n fuan
£17.8 miliwn o'r gronfa Ffyniant Bro i Bowys
Ar ddiwedd 2023, cawsom newyddion cadarnhaol o £17.8 miliwn i Bowys o Gronfa Ffyniant Bro (Levelling Up) llywodraeth y DU. Diolch yn arbennig i Craig Williams, yr Aelod Seneddol, am ei waith a arweiniodd at gymeradwyo cais Cyngor Sir Powys. Mae'r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar y dyfarniad gwerth £16 miliwn a dderbyniodd Sir Drefaldwyn o'r blaen o'r Gronfa Ffyniant Bro er mwyn adfer Camlas Maldwyn. Mae'r cais diweddaraf yn canolbwyntio ar fuddsoddiad mewn trafnidiaeth yn y sir i gefnogi'r diwydiant twristiaeth hamdden yn ogystal ag economi ehangach y Canolbarth.
Gwella trafnidiaeth y Canolbarth
Cyn hir, bydd pont newydd dros afon Ddyfi Machynlleth yn agor, sy'n newyddion gwych ar ôl blynyddoedd lawer o aros i'r prosiect hwn ddwyn ffrwyth. Am wybodaeth am brosiectau ffyrdd a rheilffyrdd eraill, darllenwch fy niweddariad llawn.
Cyfyngiadau 20mya Llywodraeth Cymru
Daeth rheoliadau Llywodraeth Lafur Cymru a newidiodd y rhan fwyaf o gyfyngiadau cyflymder 30mya i 20mya i rym ym mis Medi. Cafwyd ymateb cyhoeddus enfawr, gan gynnwys deiseb ar wefan y Senedd gyda channoedd ar filoedd o drigolion Cymru a thu hwnt yn cofrestru i wrthwynebu'r newid hwn. Pleidleisiais yn erbyn y Gorchymyn Traffig yn y Senedd fis Gorffennaf diwethaf. Er bod cyfyngiad cyflymder is mewn rhai ardaloedd yn addas, fel y tu allan i ysgolion, doedd y dull cyffredinol hwn ddim yn briodol.
Ffermydd gwynt a pheilonau
Cafwyd cynigion eleni sy'n cynnwys is-orsaf, cysylltu parciau ynni trwy beilonau dellt mawr a llinell uwchben newydd 132kv trwy Ddyffryn Efyrnwy. Bydd llawer yn cofio cynigion ar gyfer fferm wynt ar raddfa fawr ddegawd yn ôl, pan ymatebodd ein cymunedau yn gadarn yn erbyn diffyg ystyriaeth ac empathi llwyr y National Grid a datblygwyr i drigolion a thirweddau'r ardal.
Newidiadau addysg
Ar hyn o bryd mae yna ystod o gynigion i gau rhai ysgolion a newid categori iaith Ysgol Bro Caereinion i fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg. Y llynedd, ymgyrchodd Cyngor Sir Powys dan arweiniad y Democratiaid Rhyddfrydol, ar addewid i beidio â chau unrhyw ysgolion - maen nhw wedi bradychu'r addewid hwn erbyn hyn. Byddaf yn parhau i herio a dwyn Cyngor y Democratiaid Rhyddfrydol i gyfrif wrth i ni gamu ymlaen i 2024.
Hyb bancio newydd yn agor
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer o fanciau’r stryd fawr wedi cau mewn trefi ar hyd a lled Sir Drefaldwyn. Dyna pam fy mod i, a'r Aelod Seneddol Craig Williams, yn ymgyrchu am welliant dramatig mewn gwasanaethau bancio ar y stryd fawr. Fe agorodd LINKBank gyda chynrychiolaeth o'r darparwyr mawr yn hen gangen Lloyds y Trallwng fis diwethaf. Mae hyn yn newyddion gwych i'r rhai sy'n byw yn y Trallwng a'r cyffiniau. Gobeithio bydd modd agor rhagor o ganghennau.
Gwell signal ffôn symudol a band eang
Mae Craig Williams AS a finnau, law yn llaw â'r Swyddfa Gartref, wedi cymryd camau breision mewn perthynas ag 16 mast symudol newydd ar draws Sir Drefaldwyn. Mae pum mast wedi dod ar-lein yn ddiweddar (Y Fan, Llanidloes, Llangynog, Penffordd-las a Llanrhaeadr-ym-Mochnant). Gallwn ddisgwyl llawer o fastiau eraill i ddod ar-lein cyn diwedd 2024.