Nghylchlythyr Tachwedd 2023
Croeso i fy Nghylchlythyr Tachwedd 2023
Roeddwn eisiau canolbwyntio'r cylchlythyr hwn bron yn gyfan gwbl ar un pwnc - gofyn am eich help i sicrhau dyfodol canolfan Ambiwlans Awyr Canolbarth Cymru.
Mae cam olaf yr ymgynghoriad sy'n ystyried newidiadau i leoliadau canolfan Ambiwlans Awyr Cymru yn cau ar Dachwedd 12fed
Rwy'n anfon fy nghylchlythyr yn gynnar gan fy mod am annog pobl i ymateb.
Mae Craig Williams AS a minnau wedi cynnwys ein hymateb ni gyda dolen i'n llythyr y gallech ei ddefnyddio i helpu i lywio eich ymateb eich hun - mae pob ymateb yn bwysig.
Mae'n hanfodol bwysig bod gennym "un hwb olaf" i roi ein barn gymunedol glir y dylai canolfan Y Trallwng aros ar agor yn y tymor hir.
Fel bob amser, os gallaf eich helpu gyda mater neu bryder, cysylltwch â mi trwy e-bost – [email protected]
Ambiwlans Awyr - Y Broses Ymgysylltu
Cyfle i ddweud eich dweud am y tro olaf i achub canolfan Ambiwlans Awyr Cymru yn y Trallwng
Yn gynharach y mis hwn, agorodd cam olaf ymgynghoriad sy'n ystyried newidiadau posibl i leoliadau canolfan Ambiwlans Awyr Cymru.
Mae'r broses ymgysylltu ac ymgynghori yn cael ei harwain gan Stephen Harrhy, Prif Gomisiynydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a fydd yn gwneud argymhelliad i'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys a fydd wedyn yn gwneud penderfyniad terfynol, a fydd yn cynnwys dyfodol canolfan Ambiwlans Awyr Canolbarth Cymru yn y Trallwng.
Dyma'r cyfle olaf i roi’ch barn cyn i'r penderfyniad gael ei wneud ym mis Rhagfyr. Rydyn ni’n credu y dylai canolfan y Trallwng aros ar agor yn y tymor hir.
O ddechrau'r broses hon, ein prif bryder fu y byddai cau'r Trallwng a Chaernarfon yn arwain at wasanaeth tlotach i Ganolbarth Cymru. Mae hyn bellach wedi'i ddangos trwy fodelu data gan Optima, cwmni a gomisiynwyd fel rhan o'r broses i archwilio effeithiau posibl unrhyw newid. Mae eu gwaith wedi dangos yn glir y byddai uno canolfannau ar un safle yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn arwain at amseroedd ymateb cyffredinol arafach yng Nghanolbarth Cymru.
Roedden ni am ysgrifennu atoch ynghylch y pryderon difrifol sydd gennym o hyd a pham rydyn ni’n credu'n gryf y dylai safle'r Trallwng aros ar agor er mwyn osgoi israddio mewn gwasanaethau yng Nghanolbarth Cymru.
- Mae'r modelu'n dangos mai’r fantais o gau canolfannau’r Trallwng a Chaernarfon ac agor un safle newydd yng Ngogledd-orllewin Cymru fyddai tair taith ychwanegol y flwyddyn yn unig. Mae hyn yn amlwg o fewn lwfas camgymeriad. Yn dilyn y cynlluniau a ryddhawyd ar ddamwain yn wreiddiol, dywedwyd wrthym y byddai 583 o deithiau ychwanegol y flwyddyn ar draws Cymru gyfan yn cael eu cyflawni - hawliad sydd bellach wedi'i ddiystyru. Mae'r cwmni a ddarparodd y modelu wedi dweud eu bod yn ystyried cadw'r ddwy ganolfan (Y Trallwng a Chaernarfon) fel opsiwn da.
- Ar ddechrau'r cyfnod ymgynghori terfynol hwn, dywedwyd y byddai unrhyw effaith yn sgil newidiadau yn "fach". Os felly, byddem yn cwestiynu'r angen i ganolfannau presennol gau a fyddai'n arwain at bryder lleol parhaus.
- Os mai dim ond un ganolfan a fyddai’n gwasanaethu ardal Canolbarth a Gogledd Cymru, gallai tywydd gwael olygu y gallai’r ddau ambiwlans awyr sydd wedi'u lleoli yn yr un safle fethu bod ar waith. Ar hyn o bryd, mae canolfannau ar wahân yn rhoi amddiffyniad ychwanegol os oes un ganolfan yn cael ei heffeithio gan dywydd gwael neu ddigwyddiadau eraill.
- Dywedwyd eisoes bod yr angen am newid yn ymwneud â chanlyniadau cleifion, nid economeg. Yn ystod yr ymgynghoriad terfynol, ymddengys bellach fod economeg yn ffactor yn yr argymhelliad terfynol. Mae gennym bryderon y bydd cau'r Trallwng a Chaernarfon hefyd yn effeithio ar allu'r elusen i godi arian.
- Efallai nad yw’r holiadur a gwblhawyd yn yr ymgynghoriad cychwynnol wedi casglu'r holl safbwyntiau perthnasol. Er enghraifft, gofynnodd i bobl feddwl a ddylai Cymru gyfan gael
gwasanaeth cyfartal sy'n amlwg yn debygol o gael ei ateb yn gadarnhaol. Gellir defnyddio hyn i gyflwyno'r achos dros ad-drefnu’r canolfannau. Nid yw gwasanaeth cyfartal ar draws Cymru yn golygu darparu’r un gwasanaeth ym mhob man. Nid oes gan lawer o ardaloedd gwledig fel ein un ni ysbyty cyffredinol yn yr ardal leol, na mynediad rhesymol at gyfleusterau damweiniau ac achosion brys, sy'n cryfhau'r achos dros wasanaeth Ambiwlans Awyr lleol.
Mae'n amlwg bod cau'r Trallwng a Chaernarfon ac agor canolfan newydd yng Ngogledd Cymru yn Rhuddlan yn dal yn fygythiad difrifol iawn. Mae'n hanfodol bwysig erbyn hyn ein bod yn rhoi un ymdrech fawr olaf i gyfrannu’n barn i'r ymgynghoriad terfynol.
Aethom i gyfarfodydd cyhoeddus yn y Trallwng a'r Drenewydd ar 12 ac 13 Hydref yn y drefn honno, a diolch yn fawr i'r rhai a fynychodd y cyfarfodydd hyn yn ogystal â'r cyfarfod cyhoeddus ym Machynlleth.
Daw'r ymgynghoriad terfynol i ben ar 5 Tachwedd. Gallwch roi eich barn fel hyn:
• Post: ‘EMRTS Feedback’, EASC/NCCU, Uned 1, Charnwood Court, Heol Billingsley, Nantgarw, CF15 7QZ
• E-bost: [email protected]
• Ffurflen ymholiadau ar-lein: https://pgab.gig.cymru/ymrwymiad/age/
• Llinell ateb ffôn: 01443 471520
Byddem yn eich annog i ysgrifennu drwy lythyr, e-bost, neu ddarparu neges ffôn cyn y dyddiad cau. Efallai yr hoffech ystyried defnyddio'r pwyntiau a godwyd uchod a gwneud sylwadau eraill. Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â nodi pam mae cadw'r ganolfan yn y Trallwng mor bwysig i chi.