Ymgyrch i Ddirymu Gorchymyn Traffig 20mya

Diweddarwyd: Awst 2024

 

Daeth rheoliadau Llywodraeth Cymru sy'n newid y rhan fwyaf o gyfyngiadau cyflymder 30mya i 20mya i rym ym mis Medi. Cafwyd ymateb enfawr gan y cyhoedd, gan gynnwys deiseb ar wefan y Senedd, sydd wedi arwain at y ddeiseb fwyaf erioed i'r Senedd gyda bron i hanner miliwn o lofnodion yn gwrthwynebu'r gorchymyn.

Pleidleisiais yn erbyn y rheoliadau ym mis Gorffennaf y llynedd i'w hatal rhag dod i rym, ac rydyn ni’r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo gwrthdroi rheoliadau terfynau cyflymder 20mya Llywodraeth Cymru.

Er bod terfyn cyflymder is yn briodol mewn rhai ardaloedd, fel y tu allan i ysgolion, ac mewn llawer o achosion rwyf wedi gofyn am newid i 20mya fy hun, mae cyflwyno’r terfyn di-ofyn o 20mya wedi cael effaith negyddol ddifrifol. Rwy'n credu'n gryf bod angen i Lywodraeth Cymru wneud y broses yn llawer haws ar gyfer gostwng terfynau cyflymder mewn ardaloedd lle'r oedd pryderon, a lle’r oedd cefnogaeth gymunedol, yn hytrach na chyflwyno polisi cyffredinol.

Cynhaliais fy arolwg fy hun trwy ofyn i bobl Sir Drefaldwyn roi sgôr i Lywodraeth Cymru am sut y cyflwynodd ei pholisi 20mya cyffredinol, gyda 0 yn anfodlon iawn a 10 yn fodlon iawn. Rhoddodd 77% o'r ymatebwyr i'm harolwg sgôr is na 3, sy'n golygu bod dros dri chwarter yr ymatebwyr yn anfodlon â'r broses gyflwyno.

Ar ôl pwysau aruthrol, dywedodd Llywodraeth Cymru, er ei bod yn parhau i gredu mai 20 mya yw'r terfyn cyflymder cywir mewn mannau megis ger ysgolion, ysbytai, meithrinfeydd, canolfannau cymunedol, mannau chwarae ac mewn ardaloedd preswyl prysur, mae'n bwrw ymlaen i fireinio'r polisi.

Nododd Ysgrifennydd y Cabinet, sydd bellach yn gyfrifol, ei gynlluniau i ymgysylltu â'r cyhoedd a sicrhau'r cyflymder cywir ar y ffyrdd cywir.

Mae'r adolygiad bellach wedi dod i ben, ond nid wyf yn fodlon bod y gwaith hwn wedi ystyried a chynrychioli barn Cymru gyfan. Dywed Llywodraeth Cymru y bydd canfyddiadau'r adroddiad hwn yn cyfrannu at ddatblygu ei 'chanllawiau eithriadau newydd', a gafodd eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf.

Ar ôl eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi dweud bod y canllawiau newydd yn darparu fframwaith i gefnogi awdurdodau priffyrdd gyda phenderfyniadau ar ble i wyrdroi'r terfyn cyflymder, wedi i Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates, gyfaddef yn gynharach eleni bod angen cywiro'r 20mya cyffredinol.

Dywedodd y Llywodraeth y byddai'r canllawiau newydd yn helpu awdurdodau priffyrdd i "wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer ffyrdd lleol, yn enwedig pan fo hynny yn gymhleth". Rwy'n amheus ynghylch y sylwadau hyn, ond rwy'n gobeithio y bydd barn trigolion yn cael ei chlywed.

Dywedodd y Llywodraeth mai’r nod newydd fydd cael terfynau 20mya lle mae cerddwyr a beicwyr yn defnyddio'r ffyrdd yn aml ochr yn ochr â cherbydau oni bai bod tystiolaeth gref yn cefnogi bod cyflymderau uwch yn ddiogel.

Mae'r canllawiau hefyd yn gofyn i awdurdodau bwyso a mesur manteision ac anfanteision codi'r terfyn cyflymder, gan ystyried ffactorau gan gynnwys pellter oddi wrth amwynderau, yr effaith ar lwybrau bysiau, a dwysedd tai yn yr ardal.

Bydd y fframwaith newydd yn cael ei ddefnyddio o fis Medi a disgwylir i nifer y ffyrdd a adolygir amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar faint o adborth a dderbynnir gan bob awdurdod priffyrdd.

Mae gan awdurdodau priffyrdd fynediad at gyllid ychwanegol o £5m ar gyfer y flwyddyn ariannol hon i newid terfynau cyflymder.

Gall trigolion Sir Drefaldwyn e-bostio Cyngor Sir Powys gyda'u hawgrymiadau, ynghyd â rhesymau, pam y dylai ffordd yn yr etholaeth newid o 20mya i 30mya, newid o 30mya i 20mya neu gefnogi aros yn 20mya.

Yna bydd yr holl adborth a dderbynnir erbyn 31 Awst yn cael ei ystyried yn erbyn y paramedrau o fewn y canllawiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn gosod terfynau o 30mya ar ffyrdd cyfyngedig.

Bydd unrhyw ran o ffordd a ystyrir yn addas ar gyfer newid, naill ai yn ôl i 30mya neu i lawr i 20mya, yn cael ei choladu, ei nodi ar fap a'i rhannu gydag aelodau lleol a Chynghorau Tref a Chymuned am unrhyw sylw pellach.

Yn dilyn hyn, bydd unrhyw argymhellion i newid y terfynau cyflymder wedyn yn destun proses gorchymyn rheoleiddio traffig statudol cyfreithiol, a fydd yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, cyn gweithredu unrhyw newidiadau.

Os hoffech chi gysylltu â Chyngor Sir Powys am y terfyn cyflymder o 20mya yn eich ardal leol, e-bostiwch traffic@powys.gov.uk.