Diogelu ein Tirwedd rhag Peilonau ar Raddfa Fawr
Diweddarwyd: Awst 2024
Mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi yn pryderu am gynlluniau Bute Energy a Green GEN Cymru i ddatblygu ffermydd gwynt, is-orsaf a seilwaith grid newydd yn Sir Drefaldwyn, a fyddai'n arwain at godi llawer mwy o dyrbinau gwynt ar raddfa fawr.
Ar hyn o bryd, gan nad yw seilwaith y Grid Cenedlaethol yn gallu casglu a dosbarthu pŵer a gynhyrchir, mae Green GEN Cymru wedi cynnig is-orsaf a fyddai'n cysylltu parciau ynni trwy beilonau dellt mawr a llinell newydd 132kv uwchben ar hyd rhannau o Ogledd Powys. Byddai’n cysylltu â'r prif gysylltiad grid yn Swydd Amwythig.
Bydd llawer yn cofio cynigion fferm wynt fawr flaenorol ddegawd yn ôl, pan ymatebodd ein cymunedau yn unfryd yn erbyn y diffyg ystyriaeth ac empathi llwyr a ddangoswyd at drigolion a thirweddau gan ddatblygwyr a’r Grid Cenedlaethol. Mae'n hanfodol bod cwmnïau ynni adnewyddadwy yn sicrhau cefnogaeth cymunedau, yn hytrach na gorfodi prosiectau ar Ganolbarth Cymru.
Rwyf wedi mynychu nifer o gyfarfodydd cyhoeddus, gan gynnwys cyfarfod mawr ym Meifod. Mae'n bwysig bod pobl yn parhau i fynychu cyfarfodydd cyhoeddus a digwyddiadau ymgynghori ac yn ymateb i unrhyw ymgynghoriad gan y datblygwyr.
Mae’n bwysig bod ein cysylltiadau grid yn gwella wrth i'n hanghenion am bŵer gynyddu ac wrth i ragor o ffynonellau ynni adnewyddadwy ddod i’r fei, megis ffermydd ynni adnewyddadwy. Fodd bynnag, ni fyddai’r llinell hon yn helpu dim ar brosiectau o'r fath yn y Canolbarth.
Mae'r cynigion hyn yn cyfeirio'n benodol at linellau uwchben yn hytrach na chysylltiad o dan y ddaear. Mae'n bwysig cofio nad yw ceblau tanddaearol hefyd heb eu problemau. Mae gen i bryderon difrifol gyda'r llinellau peilon arfaethedig trwy Ddyffryn Efyrnwy ac ardaloedd eraill. Rwyf wedi codi hyn yn siambr y Senedd sawl gwaith gyda'r Prif Weinidog blaenorol, Mark Drakeford AS. Yr ateb a gefais oedd mai polisi Llywodraeth Cymru yw trosglwyddo o dan y ddaear, fodd bynnag, mae'r canllawiau ynghylch hyn yn nodi bod yn rhaid cymryd barn gytbwys yn erbyn costau a fyddai'n golygu bod prosiectau fel arall yn annerbyniol. Rwyf wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru ers cryn amser i ddiweddaru ei dogfen Polisi Cynllunio Cymru fel mai seilwaith newydd tanddaearol i drosglwyddo trydan yw’r sefyllfa absoliwt yn hytrach na bod yn fater o ddewis ac y dylai'r polisi ddatgan 'Dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear'. Ar ddechrau'r haf eleni cymerais ran mewn dadl yn y Senedd yn galw eto ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru ei pholisi i adlewyrchu y dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear ond yn anffodus pleidleisiodd Llywodraeth Lafur Cymru yn erbyn y cynnig.
At hynny, mae maint y tyrbinau gwynt sydd newydd eu cynnig yn achos pryder. Ar ein tirwedd ni, nid yw’n addas gosod tyrbinau anferthol a gynlluniwyd ar gyfer y môr ar dir. Nid yw diwydiannu ein tirwedd gyda ffermydd gwynt fel bod peilonau sylweddol yn croesi bryniau a chymoedd y Canolbarth yn dderbyniol.
Sioc arall oedd clywed adroddiadau am is-gwmnïau Bute Energy yn cyrchu tir yn anghyfreithlon yn Sir Drefaldwyn heb gydsyniad na chaniatâd cyfreithiol. Hefyd, mae sawl tirfeddiannwr wedi cael hysbysiadau yn ystod y misoedd diwethaf yn galw arnynt i alluogi mynediad i dir ac eiddo er mwyn cynnal arolygon ar gyfer llwybrau peilon arfaethedig. Mae'r rhain yn faterion yr wyf wedi'u trafod yn uniongyrchol gyda Bute a GreenGEN a byddaf yn parhau i godi materion sy'n cael eu dwyn i'm sylw. Ym mis Gorffennaf, rhoddodd Ofgem drwydded i GreenGEN i'w galluogi i ddatblygu, prynu a gweithredu rhwydwaith dosbarthu trydan 132kV yng Nghymru sy'n golygu eu bod bellach yn gallu symud ymlaen yn gyfreithiol â'u cynlluniau.
Mae pobl Sir Drefaldwyn wedi brwydro'n galed dros y degawd diwethaf i ymgyrchu yn erbyn peilonau ar raddfa fawr er mwyn amddiffyn ein tirwedd hardd. Mae'n rhaid i ni fod yn barod i wrthwynebu unrhyw gynlluniau amhriodol pellach.