Newyddion Chwefror 2024
Croeso i'm Cylchlythyr Chwefror 2024
Cafwyd mis Ionawr prysur i gychwyn y flwyddyn newydd yn Sir Drefaldwyn, gyda newyddion cymysg. Byddwn ni'n eich annog yn gryf i ymateb i gam olaf ymgynghoriad Ambiwlans Awyr Cymru, ac rwyf wedi nodi sut gallwch chi wneud hyn.
Fel erioed, os ydych chi eisiau'r wybodaeth ddiweddaraf am rywbeth sydd heb ei grybwyll yn fy nghylchlythyr, neu os gallaf helpu mewn ffordd arall, anfonwch e-bost ataf neu ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.
Un ymgyrch olaf i achub Canolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng
Mae'r cam ymgysylltu terfynol ar ddyfodol canolfannau a gweithrediadau'r ambiwlans awyr wedi dechrau erbyn hyn. Mae ar waith tan 29 Chwefror. Dyma ein cyfle olaf i ddangos llais lleol cryf ac unedig i achub canolfan y Trallwng. Rwy'n eich annog i lenwi'r holiadur.
Rwyf wedi paratoi diweddariad am y sefyllfa ddiweddaraf, gyda manylion am sut gallwch chi ymateb, ac rwyf wedi cynnwys fy atebion i'r holiadur. Gobeithio y bydd fy atebion yn eich helpu i lenwi'r holiadur hefyd. Cliciwch ar y ddolen isod.
Mae Craig Williams AS a minnau, gydag eraill yn y tîm ymgyrchu lleol, yn credu mai Opsiwn 6, sy'n golygu y byddai’r pedair canolfan bresennol yn parhau ar agor, yw'r opsiwn gorau i ni yn y Canolbarth ac i Gymru gyfan. Byddai'r opsiwn hwn yn sicrhau bod ein canolfan leol yn parhau ar agor. Ymateb ysgubol o blaid yr opsiwn hwn yw ein cyfle gorau i gadw canolfan y Trallwng.
Cefnogi Ffermwyr a Bywyd Gwledig
Gofynnir i ffermwyr wneud mwy am lai, gyda llai o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r diwydiant bellach ar dorri.
Mae angen mynd i'r afael â nifer o faterion pwysig. Yn gyntaf, mae angen diwygio cyllideb arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod gyda'i thoriadau cyllideb sylweddol o 13% i'r portffolio materion gwledig.
Hefyd, mae angen i Lywodraeth Cymru ailystyried ymgynghoriad y 'Cynllun Ffermio Cynaliadwy: cadw ffermwyr yn ffermio, o ystyried y teimladau cryf sydd yn y diwydiant ar hyn o bryd.
Maes pryder cynyddol arall yn ystod y blynyddoedd diwethaf fu'r pwysau cynyddol ar fusnes ffermio yn sgil rheoleiddio'r llywodraeth. Gall cydymffurfio â rheoliadau cymhleth gymryd llawer o amser a gall fod yn ddrud, gan ei gwneud hi'n anodd i ffermwyr ganolbwyntio ar eu gweithgareddau craidd.
Mae'r alwad yn glir: dim ffermwyr, dim bwyd. Mae'r sector amaethyddol yn rhan annatod o ddiwylliant, iaith ac economi Cymru. Nawr yw'r amser i uno a gwarchod amaethyddiaeth Cymru, gan gadw nid yn unig bywoliaeth ein ffermwyr ond hefyd hanfod ein cefn gwlad.
Colli Swyddi yn y Drenewydd
Ym mis Ionawr, fe wnaethom ddysgu am gynlluniau i golli hyd at 98 o swyddi yn Control Techniques Nidec yn y Drenewydd, o ganlyniad i newidiadau yn amodau'r farchnad.
Mae Craig Williams AS yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU i helpu'r staff sydd wedi'u heffeithio, ac rwyf wedi trafod yr angen am gymorth gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru. Mae Nidec wedi addo pecynnau diswyddo cynhwysfawr ar gyfer gweithwyr, pecynnau cymorth ac i fynd ar drywydd diswyddo gwirfoddol yn gyntaf.
Rydym wedi cael sicrwydd bod y cwmni'n bwriadu cadw ei safle presennol fel un o brif wneuthurwyr ac allforwyr Sir Drefaldwyn, ond heb os mae angen i ni wneud popeth posibl i gynorthwyo'r rhai yr effeithiwyd arnynt.
Ffermwyr Ifanc
Roeddwn i'n falch o groesawu Ffermwyr Ifanc Maldwyn i ymuno â mi yn y Senedd ym mis Ionawr i nodi lansiad eu hadroddiad ar effaith gadarnhaol mudiad y Ffermwyr Ifanc.
Y CFfI yw un o'r mudiadau ieuenctid mwyaf yng Nghymru, gan gefnogi pobl ifanc rhwng 10 a 28 oed i ddatblygu llu o sgiliau, i fynd i'r afael ag ynysu gwledig ac i godi arian i elusennau, ymhlith llu o fuddion eraill.
Roedd yn wych cael croesawu Alun, Ffion a Katie i'r Senedd. Ar hyn o bryd mae gan CFfI Maldwyn 600 a mwy o aelodau ledled y sir sy'n golygu mai un o'r CFfI mwyaf yng Nghymru.
Does dim dwywaith mai pobl ifanc yw asgwrn cefn y gymuned wledig ac rwy'n gobeithio y bydd CFfI Maldwyn yn parhau i dyfu.
Sicrhau Gofal Plant am Ddim i Rieni sy'n Gweithio
Yn Lloegr, o fis Ebrill 2024 ymlaen, bydd pob rhiant sy'n gweithio sydd â phlant dwy oed yn gymwys i dderbyn 15 awr o ofal plant am ddim bob wythnos. O fis Medi 2024 bydd hyn yn cael ei ymestyn i rieni babanod 9 mis oed a hŷn, ac o fis Medi 2025, bydd yr oriau gofal plant am ddim yn cael eu hymestyn ymhellach, i 30 awr am ddim bob wythnos.
Yng Nghymru, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cyflwyno a chynnal cynlluniau gofal plant fel yr hyn sydd ar waith yn Lloegr. Er bod cynllun o'r enw Dechrau'n Deg eisoes ar waith, mae'r cynnig gwahanol yn golygu na fydd rhieni sy'n gweithio sydd â phlant dwy oed yng Nghymru yn gymwys i dderbyn 15 awr o ofal plant am ddim yr wythnos fel sydd ar gael yn Lloegr.
Fe wnes i godi hyn gyda gweinidog cyfrifol Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf.
Nodais y bydd pob rhiant sy'n gweithio yn Lloegr sydd â phlant dwy oed yn derbyn 15 awr yr wythnos o ofal plant am ddim o fis Ebrill eleni ymlaen. Gofynnais i'r Gweinidog gadarnhau mai dyma fydd yn digwydd yng Nghymru.
Roeddwn i'n siomedig na allai'r Gweinidog wneud yr un ymrwymiad ag a wnaed gan Lywodraeth y DU ar gyfer rhieni sy'n byw yn Lloegr. Mae llawer o bobl leol wedi cysylltu â mi yn holi pam nad yw cynllun Llywodraeth Cymru, sef Dechrau'n Deg, yn darparu'r un cynnig. Yn ogystal, mae pobl yn llygad eu lle wrth holi pam fod cefnogaeth yng Nghymru yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw a'ch cod post, yn hytrach na'i fod ar gael i bawb.