View this email in your browser
Cylchlythyr Medi 2024
Croeso i gylchlythyr Medi 2024
Yn dilyn y toriad, rwy'n edrych ymlaen at ddychwelyd i'r Senedd. Rwyf wedi mwynhau treulio mwy o amser yn Sir Drefaldwyn ac wedi mwynhau dal i fyny gyda llawer ohonoch chi mewn digwyddiadau a sioeau lleol dros yr Haf.
Hoffwn longyfarch yr holl fyfyrwyr a gasglodd eu canlyniadau fis diwethaf. Mae hon yn foment i ddathlu eich cyflawniadau ac edrych ymlaen at y llwybrau cyffrous sydd o'ch blaenau, boed hynny'n addysg bellach neu'n ddechrau swydd newydd.
Fel erioed, os ydych chi eisiau diweddariad ar rywbeth nad yw wedi'i grybwyll yn fy nghylchlythyr, neu os gallaf helpu mewn ffordd arall, anfonwch e-bost ataf yn [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.
Newidiadau i ysbytai bwthyn
Yn ystod mis Awst, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys newidiadau dros dro arfaethedig i'r ddarpariaeth o wasanaethau mewn ysbytai bwthyn lleol. Mae pryder arbennig am israddio gwasanaethau yn Ysbyty Coffa Rhyfel Llanidloes.
Yn dilyn y cyhoeddiad, fe wnes i gyfarfod â Phrif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a mynd i gyfarfod cyhoeddus dan ei sang yn Llanidloes.
Fe wnaeth cannoedd o aelodau'r cyhoedd amlinellu eu pryderon am gynlluniau'r bwrdd iechyd i wneud newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau yn Ysbyty Llanidloes, ond yn ogystal â hynny hefyd roedd yn amlwg o'r cyfarfod bod sawl gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwrthwynebu cynlluniau'r Bwrdd Iechyd.
O ystyried y pryder sylweddol a diddordeb y cyhoedd, rwyf wedi galw ar y bwrdd iechyd i oedi eu cynlluniau presennol, fel y gellir cynnal ymgynghoriad ffurfiol ac ystyrlon. Rwyf wedi rhannu fy mhryderon yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog Iechyd hefyd.
Mae fy niweddariad llawn yn rhoi rhagor o fanylion am yr uchod, a'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ysbyty a'r cyfleuster iechyd newydd arfaethedig y bwriedir ei adeiladu yn y Drenewydd.
Gwelliannau i Orsaf Reilffordd
Fis diwethaf, cefais gyfarfod â Trafnidiaeth Cymru a Network Rail i drafod nifer o broblemau ar Lein y Cambrian, gan gynnwys trenau gorlawn, oedi a chanslo trenau’n barhaus. Rwyf wedi codi sawl mater cynnal a chadw hefyd ynglŷn â'r bont ar draws y rheilffordd yn y Trallwng.
Mae’n siomedig bod y cerbydau newydd ar Lein y Cambrian wedi’u gohirio unwaith eto. Y rheswm a roddwyd i mi am hyn oedd oedi wrth gyflenwi'r cerbydau i TrC ac na fydd y stoc newydd ar gael tan ddiwedd 2025. Mae hyn yn siomedig iawn pan fo'r stoc newydd yn cael ei defnyddio’n barod ar linellau mewn rhannau eraill o Gymru.
Ar nodyn mwy cadarnhaol, roeddwn i’n falch o ymweld â gorsaf y Drenewydd ym mis Awst i weld y gwelliannau hygyrchedd sy'n cael eu gwneud gyda’m llygaid fy hun. Mae'r gwelliannau'n cynnwys pont droed newydd dros y rheilffordd gyda lifftiau i’r naill ochr o’r platfform a’r llall, gwell goleuadau, teledu cylch cyfyng ac uwchraddio’r system gyhoeddiadau ar gyfer cyhoeddiadau trenau yn yr orsaf. Rwy'n falch bod y gwaith yn mynd rhagddo a'r gobaith yw y bydd yn cael ei gwblhau ac yn barod i’w ddefnyddio erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae fy niweddariad llawn yn rhoi rhagor o fanylion, a diweddariadau ar wahanol gynlluniau ffyrdd.
Russell George MS yn ymweld â gwelliannau i Orsaf Reilffordd y Drenewydd.
Tymor Sioeau a Charnifalau Llwyddiannus
Roedd hi'n dda sgwrsio â'r rhai a ymwelodd â’m stondin neu a siaradodd â mi mewn sioeau lleol dros yr Haf, roedd yn gyfle hefyd i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am wahanol faterion.
Mae trefnu'r digwyddiadau hyn yn gofyn am lawer o waith, ac rwyf am dalu teyrnged arbennig i'r gwirfoddolwyr niferus sy'n rhoi o'u hamser i wneud y digwyddiadau a’r sioeau hyn yn llwyddiant.
Diwrnod Agored yr Heddlu
Diolch i Orsaf Heddlu'r Drenewydd am drefnu eu diwrnod agored. Mae'n dda cael sgwrs gyda llawer o sefydliadau, gan gynnwys y tîm yn Mid Wales Advanced Motorists, elusen sy'n helpu i wneud gyrwyr a ffyrdd yn fwy diogel trwy wella sgiliau gyrwyr a beicwyr.
Fe wnes i gwrdd â thîm Sant Ioan hefyd sydd wedi bod yn brysur dros yr haf, yn ogystal â sgwrsio â thîm diogelwch Ffyrdd y Cyngor.
Cynnydd ar Fastiau Symudol
Rwyf wedi bod yn cefnogi cynlluniau ar gyfer 16 mast symudol newydd ar draws Sir Drefaldwyn. Y mastiau hyn sy’n rhan o’r Rhwydwaith Gwasanaethau Brys yw'r system cyfathrebu brys 4G newydd ar gyfer gwasanaethau brys Prydain.
Cyllidwyd y gwaith uwchraddio diwethaf gan Lywodraeth y DU ar sawl safle er mwyn galluogi gweithredwyr rhwydweithiau symudol i ddarparu gwell darpariaeth symudol fasnachol. Bydd y rhaglen yn ein galluogi ni yn y Canolbarth i gael mynediad at gontractau symudol sy'n cystadlu â’i gilydd hefyd, gyda'r ddarpariaeth yn cael hwb i bob darparwr rhwydwaith mawr.
Mae gwaith ar yr holl fastiau newydd yn mynd yn dda, ac rwy’n deall bod pob un i fod i gael ei actifadu erbyn diwedd 2024 fan bellaf, ac mae pump ar-lein eisoes.
Hyrwyddir gan Russell George AS, 13 Parkers Lane, Y Drenewydd, SY16 2LT
Mae costau'r cyhoeddiad hwn wedi’u talu gan Gomisiwn y Senedd o arian cyhoeddus.
Ydych chi eisiau newid sut rydych chi'n derbyn yr e-byst hyn?
Gallwch chi update your preferences o'r unsubscribe from this list.