View this email in your browser
Cylchlythyr Gorffennaf 2024
Croeso i'n cylchlythyr Gorffennaf 2024
Cynhelir yr Etholiad Cyffredinol yr wythnos hon, ac rwy’n nodi rhywfaint o wybodaeth gyffredinol.
Mae fy rôl yn parhau fel Aelod o’r Senedd dros Sir Drefaldwyn, ac fel bob amser, os ydych chi’n dymuno derbyn diweddariad ar rywbeth nad yw wedi'i grybwyll yn fy nghylchlythyr i, neu os gallaf eich helpu mewn unrhyw ffordd arall, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.
Gwybodaeth am yr Etholiad Cyffredinol
Cynhelir yr Etholiad Cyffredinol ddydd Iau yma. Isod mae rhestr o'r holl ymgeiswyr sy'n sefyll yn sedd Maldwyn a Glyndŵr, gan y byddant yn cael eu nodi ar y papur pleidleisio.
• Brignell-Thorp, Jeremy David – Y Blaid Werdd
• Lewis, Oliver – Plaid Diwygio’r DU
• Preston, Glyn - Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
• Vaughan, Elwyn - Plaid Cymru
• Williams, Craig - Ceidwadwyr Cymreig
• Witherden, Steve - Llafur Cymru
Gwybodaeth allweddol y mae angen i chi ei gwybod:
• Rhaid i'ch enw fod ar y gofrestr etholwyr cyn y gallwch bleidleisio.
• Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm
• Bydd angen i chi ddod ag ID gyda chi. Bydd gan lawer o bobl ffurf dderbyniol o ID â llun eisoes, ond mae rhestr lawn o'r gwahanol fathau o ID â llun derbyniol ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
• Os nad ydych chi'n siŵr ble mae’ch gorsaf bleidleisio leol, gallwch edrych yma i weld ardaloedd pleidleisio Sir Drefaldwyn – Cyngor Sir Powys
• Rwyf wedi derbyn ymholiadau ynghylch y Blaid Geidwadol yn tynnu ei chefnogaeth i Craig Williams yn ôl. Mae Craig Williams yn parhau ar y papur pleidleisio, fel Ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig. Os yw ymgeisydd y mae plaid wedi tynnu ei chefnogaeth iddo yn ôl yn cael ei ethol, mae'r canlyniad yn sefyll. Bydd yr ymgeisydd yn cymryd y swydd yn y ffordd arferol.
Rhaid i therapi galwedigaethol fod yn rhan o'r ateb
Roeddwn i’n falch o noddi digwyddiad ar ran y Coleg Brenhinol Therapi Galwedigaethol yn y Senedd.
Yn ddiweddar, mae'r Coleg Brenhinol Therapi Galwedigaethol wedi cyhoeddi ei Strategaeth ar gyfer y Gweithlu 2024-2035 ac yn lansio cynllun gweithredu ar gyfer Cymru. Mae’r strategaeth hon yn cyflwyno ac yn cymhwyso tystiolaeth academaidd a thystiolaeth o’r byd go iawn i bwysleisio sut y bydd y gweithlu therapi galwedigaethol yn helpu i ddatrys yr heriau y mae ein systemau'n eu hwynebu.
Yn ystod fy anerchiad yn y digwyddiad, tynnais sylw at y ffordd y mae therapyddion galwedigaethol mewn gofal sylfaenol a gofal cymunedol yn darparu arbenigedd amrywiol i dimau amlddisgyblaethol er mwyn helpu cleifion i gael mynediad cyflym at y gofal cywir.
Gall therapyddion galwedigaethol helpu i dargedu prif achosion disgwyliad oes is. Maen nhw wedi'u hyfforddi'n glinigol i weithio'n gyfannol ar hyd oes cleifion ag anghenion corfforol, meddyliol a chymdeithasol.
Yn ystod y digwyddiad, roedd therapyddion galwedigaethol gofal sylfaenol a chymunedol yn bresennol o bob rhan o Gymru a chefais gyfle i gwrdd â rhai ohonyn nhw i drafod materion sy'n wynebu'r diwydiant a hefyd i drafod sut maen nhw'n credu y gallan nhw leihau'r baich ar y GIG.
Wythnos Hosbis Plant 2024
I nodi Wythnos Hosbis Plant 2024, daeth Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith â glöyn byw enfawr i risiau'r Senedd. Mae Tŷ Gobaith yn cynnig cefnogaeth i lawer o blant a theuluoedd yn Sir Drefaldwyn, ac roeddwn i’n awyddus i gefnogi eu gwaith.
Roedd y glöyn byw hwn yn cynnwys 3655 o loÿnnod byw llai i gynrychioli pob plentyn yng Nghymru sydd â chyflwr sy'n byrhau bywyd neu'n peryglu bywyd. Arddangosfa bwerus dros ben.
Fel rhan o'r digwyddiad, rwyf wedi ymuno â'r ddwy hosbis i alw ar Lywodraeth Cymru i'w helpu i liwio’r gloÿnnod byw llwyd hynny er mwyn helpu i gyrraedd mwy o'r plant yng Nghymru a allai fod eu heisiau neu eu hangen, a sicrhau bod y plant hynny y maen nhw’n gweithio gyda nhw yn cael yr ansawdd bywyd gorau.
A458 Y Trallwng i'r Amwythig
Yn anffodus, bu sawl damwain ar ffordd yr A458 o’r Trallwng i'r Amwythig, gan gynnwys damwain angheuol tua diwedd 2023. Mae angen gwneud y ffordd hon yn fwy diogel a chredaf fod angen cynllun ar gyfer y llwybr hwn.
Mae hwn yn fater yr wyf wedi'i drafod gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru a gyda'r Heddlu lleol ynghylch y rhan hon o'r ffordd. Fis diwethaf, mynychais gyfarfod cyhoeddus yn Nhrewern, ac ynghyd â'r cyngor cymuned lleol a'r Cynghorydd Sir Amanda Jenner, rydyn ni’n parhau i annog yr asiantaeth cefnffyrdd a Llywodraeth Cymru i weithredu.
Cysylltwch â mi os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch hon.
Ehangu yn CellPath yn y Drenewydd
Mae CellPath yn gyflogwr pwysig yn y Canolbarth. Fis diwethaf roeddwn yn falch o ymweld â chyfleusterau newydd y cwmni yn y Drenewydd a chael taith o gwmpas y safle. Wrth weld yr hyn sydd yno, mae rhywun yn dechrau sylweddoli cwmpas ac effaith CellPath a StatLab wrth ddarparu cynhyrchion i'r farchnad batholeg.
Mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn wirioneddol syfrdanol ac mae agor cyfleuster arall eto i'r cwmni yn garreg filltir wrth iddyn nhw barhau i ehangu eu busnes a darparu'r offer a'r nwyddau traul sydd eu hangen ar ysbytai a labordai.
Taith Gerdded Rotari ar draws Cymru / Rotary Across Wales Walk
Y mis diwethaf, cwblhaodd cannoedd o gerddwyr flwyddyn arall o'r Rotary Across Wales Walk.
Hoffwn dalu teyrnged i'r gwirfoddolwyr gwych sy'n cefnogi pawb a gymerodd ran ar y daith. Roedd y digwyddiad wedi'i drefnu'n dda.
Mae tîm craidd bach yn dod â phopeth ynghyd ar gyfer y digwyddiad bob blwyddyn, gyda llawer mwy yn rhoi help llaw ar y diwrnod. Trefnir y digwyddiad ar ran y tri Chlwb Rotari - Y Drenewydd, Machynlleth a Llanidloes, sy'n dod ynghyd i godi arian ar gyfer elusen enwebedig.
Roeddwn i yn y man cychwyn ym Machynlleth am 2am i roi anogaeth i ychydig o ffrindiau a oedd yn cwblhau'r daith gerdded lawn. Mae arna i ofn na wnes i ddigon o hyfforddiant angenrheidiol, ond llwyddais i gymryd rhan a chwblhau 12 milltir o'r Drenewydd i'r llinell derfyn yn Nhrefaldwyn.
I'r 450 a mwy o gerddwyr a gymerodd ran, hoffwn eich llongyfarch yn fawr am eich llwyddiant ac unwaith eto diolch yn fawr iawn i'r gwirfoddolwyr sy'n gwneud y digwyddiad hwn yn bosibl.
Hyrwyddir gan Russell George AS, 13 Parkers Lane, Y Drenewydd, SY16 2LT
Mae costau'r cyhoeddiad hwn wedi’u talu gan Gomisiwn y Senedd o arian cyhoeddus.
Ydych chi eisiau newid sut rydych chi'n derbyn yr e-byst hyn?
Gallwch chi update your preferences o'r unsubscribe from this list.