View this email in your browser
Cylchlythyr Mehefin 2024
Croeso i Gylchlythyr Mehefin 2024
Er y bydd Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf, mae fy swydd a'm busnes yn y Senedd yn parhau fel arfer. Rwyf wedi cael perthynas waith agos iawn gyda Craig Williams fel ein Haelod Seneddol dros y pum mlynedd diwethaf. Byddaf yn cefnogi Craig yn ei ymgyrch i gael ei ddychwelyd fel ein AS, a gobeithiaf y gallwn barhau â'n gwaith gyda'n gilydd i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer ein hardal.
Fis nesaf, rwy'n gobeithio cyflwyno mwy o fanylion am her gyfreithiol bosibl yr ydym ni, fel ymgyrchwyr, yn ceisio ei chyflwyno ynghylch cau canolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng.
Cysylltwch â mi os byddai'n well gennych dderbyn fy nghylchlythyr yn Saesneg.
Fel erioed, os ydych chi eisiau diweddariad ar rywbeth nad yw wedi'i grybwyll yn fy nghylchlythyr, neu os gallaf helpu mewn ffordd arall, anfonwch e-bost ataf yn [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.
Eisteddfod yr Urdd
Pleser oedd ymweld ag Eisteddfod yr Urdd, y tro cyntaf i'r Eisteddfod ymweld â'r ardal ers 1988. Cynhaliwyd yr Eisteddfod ar gaeau Fferm Mathrafal ger Meifod. Roedd yr ŵyl yn cynnwys gwahanol gystadlaethau. Daeth degau o filoedd o bobl i'r digwyddiad, ac roedd yr Eisteddfod yn wych i'n heconomi leol.
Roedd yn amser da i gyfarfod ag amrywiol sefydliadau hefyd, yn ogystal â chyfarfod pobl o bob cwr o Sir Drefaldwyn.
Llongyfarchiadau i bawb fu’n cystadlu, a diolch yn fawr iawn i bawb a fu'n ymwneud â chodi arian yn lleol i gefnogi'r Eisteddfod.
Newidiadau i etholiadau'r Senedd
Cytunwyd ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), yn dilyn pleidlais yn y Senedd ym mis Mai. Mae'r cynlluniau i gynyddu nifer Aelodau'r Senedd, a newid y ffordd y caiff Aelodau eu hethol, wedi'u cadarnhau erbyn hyn. Nid oeddwn o blaid y ddeddfwriaeth hon, mae fy niweddariad llawn yn nodi beth fydd yn digwydd a pham y gwnes i bleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth.
Codi’r mater o brinder deintyddion y GIG
Russell George AS yn herio Eluned Morgan AS ar ddiffyg Deintyddion y GIG yng nghefn gwlad Cymru.
Nid oes digon o ddeintyddion yn y Trallwng i ateb y galw, ac yn y Drenewydd, y dref fwyaf yn Sir Drefaldwyn, symudodd y deintydd GIG llawn amser olaf i Loegr yr wythnos diwethaf.
Mae'r sefyllfa’n un go ddrwg
Dywedais wrth Ysgrifennydd y Cabinet bod angen i ni ailedrych ar gontract y GIG, oherwydd mae'n amlwg nad yw'n gweithio. Pe bai'n gweithio, ni fyddem yn y sefyllfa yr ydym ynddi. Mae angen cynnig mwy deniadol arnom i atal deintyddion rhag symud o Gymru. Mae angen cynnig arnom hefyd i ddenu deintyddion profiadol i ddod i sefydlu practisau yng Nghymru, yn enwedig y Gymru wledig.
Mae fy mewnflwch yn llawn etholwyr yn gofyn sut y gallant gael gafael ar ddeintydd GIG yn lleol, mae'n ymddangos ein bod mewn sefyllfa waeth nag yr oeddem ddeuddeg mis yn ôl.
Gofynnais i'r Ysgrifennydd Iechyd pryd roedd hi'n meddwl y bydd pobl sy'n byw mewn trefi fel y Drenewydd a'r Trallwng yn gallu cael mynediad at ddeintydd GIG yn y dref lle maen nhw'n byw?
Bute Energy
Fis diwethaf, ysgrifennodd Craig Williams a minnau at Oliver Millican, Cadeirydd Bute Energy, yn gofyn am gyfarfod brys gydag ef.
Daw'r cais hwn mewn ymateb i sawl digwyddiad diweddar lle’r oedd swyddogion o Bute Energy a GreenGEN Cymru wedi mynd ar dir yn anghyfreithlon yn Sir Drefaldwyn heb unrhyw ganiatâd nac awdurdodiad cyfreithiol. Yn ogystal, mae nifer o etholwyr wedi dweud eu bod wedi derbyn hysbysiadau bygythiol yn mynnu mynediad i'w tir a'u heiddo at ddibenion arolwg sy'n ymwneud â llwybrau peilonau arfaethedig.
Ar hyn o bryd, nid oes gan Bute Energy a GreenGEN Cymru drwydded Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu Annibynnol (IDNO), a fyddai'n rhoi pwerau statudol iddynt gael mynediad i dir. Mae eu cais IDNO yn destun ymgynghoriad ag Ofgem, a gwn y bydd y pryderon ymddygiad hyn yn cael eu codi'n uniongyrchol gydag Ofgem.
Mae'r digwyddiadau hyn yn arbennig o siomedig gan fod Craig a minnau wedi cyfarfod â swyddogion Bute yn ddiweddar a mynegi ein gwrthwynebiad cryf i’w tactegau a'u defnydd ymosodol o hysbysiadau mynediad Adran 172. Cawsom sicrwydd ar y pryd na fyddai digwyddiadau o'r fath yn digwydd eto, a bod Bute yn ymrwymo i wella ei ymgysylltiad â thirfeddianwyr. Yn amlwg, nid felly y bu pethau, sydd wedi arwain at fynnu cael cyfarfod brys gyda Chadeirydd Bute i amddiffyn tirfeddianwyr Sir Drefaldwyn rhag mynediad anghyfreithlon i dir.
Rydym yn parhau i gydweithio'n agos â grŵp ymgyrchu Montgomeryshire Against Pylons (MAP) ar y mater hwn.
Cefnogi'n Diwydiant Ffermio
Roeddwn yn falch o ymweld â Rali CFfI Sir Drefaldwyn ddydd Sadwrn diwethaf yn Aber-miwl. Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Maldwyn yn cael eu harwain gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc. Mae dros 600 o bobl ifanc rhwng 10 a 28 oed yn aelodau ar hyn o bryd. Mae CFfI Sir Drefaldwyn yn darparu cyfleoedd i aelodau ddatblygu sgiliau newydd a derbyn hyfforddiant gwerthfawr.
Yn ehangach, penodwyd Ysgrifennydd Cabinet Ffermio a Materion Gwledig newydd sef Huw Irranca Davies AS. Yn ystod yr wythnosau diwethaf rwyf wedi ei holi ar strategaeth TB Gwartheg Llywodraeth Cymru, a gofyn am eglurhad ganddo hefyd ar newidiadau posibl i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Codi problem gwasanaethau trên anobeithiol gyda’r Prif Weinidog
Russell George AS yn tynnu sylw at broblemau Trafnidiaeth Cymru yn y canolbarth.
Ni fydd yr addewid o wasanaethau trên bob awr rhwng Aberystwyth a'r Amwythig yn dechrau am ddwy flynedd arall, a dim ond yn yr haf y bydd yn gweithredu.
Mae ymgynghoriad a gyhoeddwyd ar wefan Trafnidiaeth Cymru’n dweud y bydd y gwasanaeth bob awr arfaethedig ar waith ym mis Mai 2026, 14 mlynedd ar ôl iddo gael ei grybwyll gyntaf.
Fe wnes i godi problemau trafnidiaeth Canolbarth Cymru gyda'r Prif Weinidog Vaughan Gething AS yn y Senedd yn ddiweddar. Dywedais wrth y Prif Weinidog fod Trafnidiaeth Cymru wedi rhoi gwybod i mi yn 2021 y byddai'r gwasanaeth bob awr yn weithredol ym mis Mai 2024, ond nawr mae wedi cael ei ohirio am ddwy flynedd arall tan 2026.
Tynnais sylw hefyd at y gwasanaeth gwael ar lein y Cambrian, o’r Amwythig i Aberystwyth, gyda threnau ddim yn cyrraedd ar amser, neu ddim o gwbl. Soniais am yr arolwg diweddar o ddefnyddwyr rheilffyrdd a amlinellodd mai Trafnidiaeth Cymru sydd â'r gyfradd foddhad cwsmeriaid waethaf ymysg holl weithredwr trenau’r DU.
Mae Trafnidiaeth Cymru’n eiddo i Lywodraeth Cymru’n llwyr, ac roedd yn siomedig bod Prif Weinidog Cymru wedi ceisio osgoi derbyn y bai ac ysgwyddo cyfrifoldebau ei Lywodraeth.
Rheilffordd Ysgafn y Trallwng a Llanfair
Oeddech chi'n gwybod bod Rheilffordd Ysgafn y Trallwng a Llanfair newydd gael benthyg injan ddiesel bwerus gan Reilffordd Coedwig Alishan Taiwan?
Cyrhaeddodd yr injan DL-34 y DU y llynedd ar ôl ei thaith 10,000km o Taiwan. Dros y 12 mis diwethaf mae tîm Rheilffordd Ysgafn y Trallwng a Llanfair wedi bod yn gweithio gyda chontractwyr arbenigol i addasu system brêc a chyplyddion y locomotif i'w defnyddio ar y lein yng Nghymru, profi'r locomotif, a hyfforddi gyrwyr i’w ddefnyddio.
Roeddwn yn falch o fynychu'r lansiad swyddogol y penwythnos hwn gyda Craig Williams AS i nodi'r achlysur hwn a chael cyfle i gyfarfod â dirprwyaeth o Taiwan.
Llongyfarchiadau i'r tîm yn Rheilffordd Ysgafn y Trallwng a Llanfair.
Hyrwyddir gan Russell George AS, 13 Parkers Lane, Y Drenewydd, SY16 2LT
Mae costau'r cyhoeddiad hwn wedi’u talu gan Gomisiwn y Senedd o arian cyhoeddus.
Ydych chi eisiau newid sut rydych chi'n derbyn yr e-byst hyn?
Gallwch chi update your preferences o'r unsubscribe from this list.